Dechrau da Bellamy yn parhau gyda buddugoliaeth dros Montenegro
- Cyhoeddwyd
Fe enillodd Cymru o 1-0 yn erbyn Montenegro yng Nghynghrair y Cenhedloedd nos Lun.
Dyma ail fuddugoliaeth i d卯m Craig Bellamy yn ei bedwaredd g锚m wrth y llyw fel rheolwr.
Roedd g么l gan Harry Wilson yn ddigon i sicrhau'r triphwynt i'r Cymry.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Cymru yn aros yn yr ail safle yng ngr诺p 4 yn ail haen Cynghrair y Cenhedloedd.
Roedd saith newid i'r t卯m a ddechreuodd y g锚m gyfartal yn erbyn Gwlad yr I芒, gyda Brennan Johnson a Jordan James ddim ar gael wedi iddyn nhw weld cardiau melyn nos Wener.
Roedd y golwr Karl Darlow yn ennill ei ail gap, tra bod Liam Cullen a Mark Harris yn dechrau g锚m gystadleuol i Gymru am y tro cyntaf.
Roedd hi'n ddechrau addawol i d卯m Cymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd gyda'r cyfle da cyntaf yn dod o beniad gan Wes Burns ar 么l croesiad gwych gan Wilson.
Roedd y Cymry'n rheoli'r meddiant, yn adeiladu'n amyneddgar gyda phasio byr o'r cefn.
Ar 么l casgliad o gyfleoedd, daeth unig g么l y g锚m gan Wilson ar 么l iddo ennill cic o'r smotyn gyda 10 munud o'r hanner cyntaf yn weddill.
Roedd hi'n ddechrau bratiog i'r ail hanner gyda dau o'r pedwar eilydd a ddaeth ymlaen i Montenegro yn derbyn cerdyn melyn o fewn ychydig funudau.
Cafodd Montenegro eu hergyd gorau o'r g锚m 10 munud i mewn i'r ail hanner, gyda'r eilydd Andrija Radulovic yn torri i mewn ar ei droed chwith a'n taro'r trawst o du allan i'r cwrt cosbi.
Ond roedd Cymru yn 么l ar y droed flaen eiliadau'n ddiweddarach gyda'r t卯m yn dod yn agos at sgorio ail g么l ar 么l rhediad campus gan Burns.
Roedd yr ail hanner yn fwy cystadleuol ar y cyfan, ond ni chafodd yr ymwelwyr yr un ergyd ar y targed am y 90 munud cyfan.
Daeth Joe Allen, Sorba Thomas, Nathan Beoadhead, Ollie Cooper a Kieffer Moore ymlaen i Gymru yn yr ail hanner.
Bydd Cymru'n wynebu Twrci oddi cartref yng ng锚m nesaf yr ymgyrch, dydd Sadwrn 16 Tachwedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Hydref
- Cyhoeddwyd11 Hydref
- Cyhoeddwyd2 Hydref