Teyrngedau i ddwy fenyw fu farw wedi gwrthdrawiad

Ffynhonnell y llun, Lluniau teulu

Disgrifiad o'r llun, Bu farw Madeline Elaine Brooks (chwith) a Beverly Pugsley (dde) yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A4050

Mae teyrngedau wedi'u rhoi gan deuluoedd dwy fenyw a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Y Barri dros y penwythnos.

Bu farw Madeline Elaine Brooks, 85, a Beverly Pugsley, 69, yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A4050 toc wedi 13:40 brynhawn Sadwrn.

Mae dau ddyn 24 a 67 oed yn parhau yn yr ysbyty wedi'r digwyddiad.

Roedd Ms Brooks, a gafodd ei geni ym Mhenarth ac a fu'n byw yn Y Barri am dros 65 mlynedd, yn "fenyw fywiog, llawn egni", meddai ei theulu.

Roedd y fam, nain, hen-nain a modryb yn "caru dawnsio" a'n "cynnal gwersi ar draws y wlad, ac yn dal i fynychu dawnsfeydd prynhawn yn ei blynyddoedd olaf".

Disgrifiad o'r llun, Cafodd yr heddlu eu galw i'r gwrthdrawiad toc wedi 13:40 brynhawn Sadwrn

Dywedodd teulu Ms Pugsley, o Landaf, ei bod yn "fenyw dawel oedd yn caru ei swydd ar 么l gweithio i鈥檙 成人快手 am y rhan fwyaf o鈥檌 bywyd mewn rolau amrywiol, ac yn ddiweddarach fel ymchwilydd i lawer o raglenni teledu".

"Roedd hi'n dal i weithio'n rhannol ar 么l ymddeol."

Mae Heddlu De Cymru yn parhau i apelio ar unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth am y gwrthdrawiad i gysylltu 芒 nhw.

Dywedodd yr Uwch Swyddog Ymchwilio, Sarjant Gareth Jones-Roberts: 鈥淩ydym yn apelio ar unrhyw un a oedd yn gyrru yn yr ardal rhwng 13:30 a 13:50 brynhawn Sadwrn ac a allai fod ag unrhyw wybodaeth a all gynorthwyo鈥檙 ymchwiliad i gysylltu 芒 ni.

鈥淥s oes gennych chi gamera cerbyd, cysylltwch 芒 ni.

"Rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un a all roi rhagor o fanylion i ni, yn enwedig am y ffordd yr oedd Audi RS 4 llwyd yn gyrru cyn y gwrthdrawiad."