Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Gwynedd: Beic modur 'ar ochr arall y ffordd' cyn gwrthdrawiad
Roedd beiciwr modur a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yng Ngwynedd wedi gwyro i ochr anghywir y ffordd, mae cwest wedi clywed.
Bu farw Neil Vaughan, 66, wedi i鈥檞 feic modur fod mewn gwrthdrawiad 芒 char ar yr A4212 ger Capel Celyn ar 6 Ebrill eleni.
Roedd Mr Vaughan, oedd yn byw yng Nghaer, wedi bod yn rhan o gr诺p beicio modur oedd yn teithio i gyfeiriad Trawsfynydd pan fu mewn gwrthdrawiad 芒 char Hyundai glas am 11:24 y bore hwnnw.
Cadarnhawyd ei fod wedi marw yn y fan a'r lle, gydag adolygiad post mortem yn datgelu bod Mr Vaughan wedi dioddef gwaedu ar ei ymennydd.
Clywodd y cwest yng Nghaernarfon fod y tad i ddau wedi cael ei ddisgrifio fel "pen petrol" a "beiciwr modur brwd ond gofalus".
Yn teithio y bore hwnnw gyda 14 o feicwyr ar eu taith gyntaf o'r flwyddyn, dywedwyd bod y gr诺p yn adnabod y ffordd yn dda.
Ond dangosodd lluniau camera cerbyd fod beic Mr Vaughan wedi dod allan o dro yng nghanol y l么n anghywir, cyn taro'n erbyn yr Hyundai oedd yn teithio i gyfeiriad Y Bala.
Dywedwyd nad oedd gyrrwr y cerbyd wedi cael unrhyw gyfle i ymateb.
Clywodd y cwest bod cyflymder yn ffactor, fwy na thebyg, gydag ymchwilwyr Heddlu Gogledd Cymru o'r farn "pe bai Mr Vaughan wedi cymryd y tro ar gyflymder priodol, byddai wedi dod drwyddo'n ofalus".
Dywedodd y crwner Kate Robertson fod y ffordd y bore hwnnw yn "llaith ond mewn cyflwr da", ac nad oedd unrhyw alcohol na sylweddau eraill wedi eu canfod yng ngwaed Mr Vaughan.
Wrth gofnodi ei farwolaeth fel un o ganlyniad i wrthdrawiad ffordd, dywedodd ei bod yn "debygol fod Mr Vaughan wedi goddiweddyd beic arall cyn colli rheolaeth".
Yn dilyn ei farwolaeth roedd teulu Mr Vaughan wedi ei ddisgrifio fel "dyn hyfryd" ac yn "ffrind annwyl i lawer".
Mewn datganiad, dywedodd y teulu: "Neil oedd tad annwyl Karis a Keenan, g诺r i Kiki.
"Roedd yn angerddol am gerddoriaeth, antur a theithio.
"Bydd Neil yn cael ei golli gan bawb oedd yn ei adnabod ac yn ei garu."