成人快手

Teyrnged i ddyn fu farw wedi gwrthdrawiad ym Mro Morgannwg

Mark OrpinFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bu farw Mark Orpin mewn gwrthdrawiad ar yr A48 ddydd Mercher

  • Cyhoeddwyd

Mae cymar dyn 35 oed fu farw yn dilyn gwrthdrawiad ym Mro Morgannwg wedi rhoi teyrnged i "fab, brawd, partner a ffrind arbennig".

Bu farw Mark Orpin, o ardal Taibach, Port Talbot mewn gwrthdrawiad ar yr A48 yn Y Bontfaen ddydd Mercher.

Dywedodd ei gymar, Emily: "Pe baech chi'n 'nabod Mark, fe fyddech chi'n gwybod ei fod yn un o'r bobl fwyaf addfwyn, cariadus, a phuraf y byddech chi byth yn cwrdd 芒 nhw.

"Roedd y rhan fwyaf o ffrindiau Mark yn dod o rygbi. Nid hobi i Mark yn unig oedd rygbi, roedd yn ffordd o fyw. Roedd yn byw ac yn anadlu rygbi ac roedd ei angerdd am y gamp yn ysbrydoledig.

鈥淩ydyn ni i gyd yn wirioneddol dorcalonnus ac mewn trallod nad yw Mark gyda ni mwyach. Rydyn ni'n dy garu di, Mark."

Mae鈥檙 heddlu'n parhau i ymchwilio i'r digwyddiad ac yn apelio am wybodaeth gan y cyhoedd.

Pynciau cysylltiedig