Pobl Caernarfon yn 'mynd yn s芒l' o achos mwg 'erchyll' tr锚n st锚m
- Cyhoeddwyd
Mae rhai pobl sy'n byw uwchben rheilffordd yng Nghaernarfon yn ofni bod y mwg trwchus o'r tr锚n st锚m islaw yn peryglu eu hiechyd.
Mae trigolion Rhes Segontiwm yn galw ar Reilffordd Ucheldir Cymru i fynd i afael 芒鈥檙 broblem, a ddechreuodd ddwy flynedd yn 么l, medden nhw.
Mae'r rheilffordd yn dweud bod gwahanol ffactorau - gan gynnwys y rhyfel yn Wcr谩in - yn golygu nad oes ganddyn nhw fynediad at lo glanach bellach, a'u bod yn gorfod dibynnu ar gyflenwadau o wledydd eraill, sy'n allyrru mwy o fwg.
Maen nhw'n cymysgu'r glo hwnnw 芒 thanwydd di-fwg mewn ymgais i fynd i'r afael 芒'r mater.
Dywedodd Rheilffordd Ucheldir Cymru eu bod yn cydymdeimlo gyda thrigolion a'u bod yn ceisio cael gafael ar y tanwydd gorau posib.
Ond nid yw'r esboniad hwnnw wedi tawelu meddwl trigolion, sydd wedi lleisio pryderon iechyd ac amgylcheddol.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd nad oes lefelau anarferol o sylffwr deuocsid wedi eu canfod yn yr ardal.
Dywedodd Nia Davies Williams, sydd wedi byw ar Res Segontiwm ers bron i ddegawd, bod trigolion y stryd yn bryderus.
"Mae鈥檙 mater hwn wedi achosi cryn bryder yn ein stryd - mae pobl yn mynd yn s芒l. Mae鈥檔 ofnadwy, rwy鈥檔 poeni鈥檔 fawr am ein hiechyd.
鈥淩ydym mor bryderus am y mwg erchyll, acraidd hwn sy鈥檔 dod i鈥檔 tai. Gallwch weld y mwg yn yr awyr yn y t欧.
鈥淢ae鈥檙 rheilffordd ar gyfer hamdden ac efallai y dylen ni roi iechyd yn gyntaf, ac efallai na ddylen nhw ei rhedeg os na allan nhw ddatrys y broblem hon yn llwyr.鈥
Dywedodd Nia fod tymor y teithiau rheilffordd yn dod i ben ddiwedd mis Hydref, heblaw am ddigwyddiadau arbennig dros gyfnod y Nadolig, ond mae trigolion yn ofni beth fydd y sefyllfa'r flwyddyn nesaf.
鈥淵m mis Mehefin 2022 daethom yn bryderus iawn am ansawdd y mwg a gwnaethom sylwi y gallem ei flasu.
鈥淒ydych chi ddim yn meiddio gadael y ffenestri ar agor yn yr haf mwyach, oherwydd y mwg.
鈥淥s oes gen i鈥檙 ffenestri ar agor ychydig bach yn unig, rwy鈥檔 rhuthro i鈥檞 cau ar unwaith pan glywaf y tr锚n yn dod.
鈥淒ydyn ni ddim yn mynd i adael iddo fynd y tro hwn, mae gwir angen iddyn nhw wneud rhywbeth i atal hyn.鈥
Mae Nia yn credu mai'r newidiadau i'r orsaf a'r glo sy'n cael ei ddefnyddio sy'n gyfrifol am y problemau allyriadau.
鈥淔e wnaethon nhw adeiladu gorsaf newydd yn lle鈥檙 hen un ac fel rhan o hynny fe ddaethon nhw 芒鈥檙 trac tr锚n ymhellach ymlaen felly mae鈥檔 union o dan y tai, doedd hi byth yn dod mor bell 芒 hynny o鈥檙 blaen, felly dyna un peth.
鈥淎c roedd y glo yn arfer bod yn iawn, roedd yn hyfryd mewn gwirionedd, roeddech chi'n gallu gweld a chlywed y trenau.
鈥淥nd fe ddechreuon nhw gael trafferth tua dwy flynedd yn 么l gyda鈥檙 cyflenwad o lo oherwydd bod pyllau glo Cymru鈥檔 cau, a dyna鈥檙 pwynt byddwn i鈥檔 dweud ei fod wedi dechrau cael problem wirioneddol.
鈥淢ae鈥檔 debyg eu bod nhw wedi prynu鈥檙 glo yma o Brasil neu Colombia ac maen nhw鈥檔 cydnabod eu hunain mai glo budr iawn ydyw ond does ganddyn nhw ddim dewis.
鈥淥herwydd y rhyfel yn ymwneud 芒 Rwsia ni allant ei gael oddi yno, a does dim glo bellach yng Nghymru.鈥
Dywedodd rheolwr cyffredinol Rheilffordd Ucheldir Cymru, Paul Lewin fod ffynonellau glo yn "bwnc llosg" ar y funud.
"Ers dros ddegawd 'da ni wedi bod yn llosgi glo sych o Gymru - dyma'r deunydd Rolls Royce ar gyfer trenau st锚m," meddai.
"Mae'n lo caled ac mae'n llosgi'n boeth iawn ac am amser hir, a does dim llawer o fwg.
"Ond yr her i ni ydy bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu dod 芒 chynhyrchiant glo i ben yng Nghymru.
"Rydyn ni'n deall pam fod hynny, a'r angen i ddatgarboneiddio, ond dyw'r glo yma ddim ar gael i ni bellach."
Ychwanegodd eu bod yn arfer gallu prynu glo o safon o Rwsia hefyd, ond oherwydd y rhyfel yn Wcr谩in mae'r ffynhonnell honno hefyd wedi dod i stop.
Dywedodd eu bod bellach yn llosgi cymysgedd o lo sydd wedi'i fewnforio, a thanwydd di-fwg, ond ei bod yn "her ceisio cymysgu'r pethau yma efo'i gilydd".
"'Da ni'n ofalus iawn am sut 'da ni'n defnyddio'r glo, ond weithiau 'da ni'n cael pethau'n anghywir.
"'Da ni ddim eisiau'r mwg chwaith, na'n cwsmeriaid ni, felly 'da ni'n trio delio efo hynny'n ofalus.
"Ond mae'n bwysig cofio, os ydych chi'n gweld stwff gwyn yn dod o simnai鈥檙 injan, st锚m ydy hynny, dim mwg.
"Rydyn ni'n cydymdeimlo gyda'n cymdogion. Mae 'na lot o swyddi yma efo'r rheilffordd, felly dydi cau ddim wir yn opsiwn."
Ychwanegodd eu bod yn ceisio canfod y tanwydd gorau, ond fod hon yn broblem sy'n wynebu'r diwydiant trenau st锚m yn ei gyfanrwydd.
'Ymwybodol o bryder lleol'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: 鈥淩ydym yn ymwybodol o鈥檙 pryder yn lleol am fwg yn codi oherwydd llosgi glo ar safle Rheilffordd Ucheldir Cymru yng Nghaernarfon.
鈥淢ae ein Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd wedi bod yn monitro ansawdd yr aer ar y stryd uwchben yr orsaf drenau a dros y tri mis diwethaf nid oes lefelau anarferol o sylffwr deuocsid wedi eu canfod yn y lleoliad, ac nid yw鈥檙 lefelau a ganfuwyd yn rhagori ar lefelau amcanion ansawdd aer cydnabyddedig.
鈥淢ae swyddogion y Gwasanaeth yn trafod gwelliannau posib y gall Rheilffordd Ucheldir Cymru eu cyflwyno er mwyn lleddfu pryderon preswylwyr cyfagos a byddwn yn parhau i fonitro鈥檙 sefyllfa.鈥