'Diffyg cefnogaeth ar 么l colli babi wedi achosi trawma'
- Cyhoeddwyd
Mae diffyg cwnsela a chymorth iechyd meddwl i bobl sy'n ceisio am fabi yn achosi profiadau trawmatig i gleifion, yn 么l elusen.
Yn 么l ymchwil newydd gan y Sefydliad Ffrwythlondeb, mae trawma sy'n gysylltiedig ag anffrwythlondeb yn fwy cyffredin na'r hyn a feddyliwyd yn flaenorol, ac nid yw menywod yn cael cynnig digon o gymorth iechyd meddwl.
Dywedodd un fenyw o Abertawe wrth 成人快手 Cymru fod y diffyg cefnogaeth a gafodd hi ar 么l colli babi wedi achosi trawma am flynyddoedd.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bod yn rhaid i glinigau ffrwythlondeb gynnig cyfle i siarad 芒 chwnselydd cyn i driniaeth ddechrau, ac y dylai unrhyw un sydd angen cwnsela neu gymorth pellach holi eu meddyg teulu.
- Cyhoeddwyd18 Mawrth
- Cyhoeddwyd15 Hydref
- Cyhoeddwyd4 Awst 2023
Roedd Shelley Romaniuk, 33, a'i g诺r yn disgwyl eu plentyn cyntaf naw mlynedd yn 么l.
Ond pan gyrhaeddodd yr amser i fynd am eu sgan cyntaf, cawson nhw wybod eu bod wedi colli'r babi.
鈥淔e aethon ni am y sgan 12 wythnos, a chawsom wybod nad oedd gan y babi guriad calon,鈥 meddai Shelley.
鈥淎r 么l y sgan, fe gawson ni ein rhoi mewn ystafell, fe wnaethon nhw roi taflen wybodaeth i ni a'n gadael ni yno nes i rywun ddod i ofyn beth oedden ni am ei wneud nesaf.鈥
'Dim cefnogaeth, dim therapi, dim cwnsela'
Dywedodd Shelley ei bod eisiau triniaeth lawfeddygol (D&C) i orffen y broses, ond cafodd hi wybod na allai hynny ddigwydd am wythnos gan nad oedd unrhyw apwyntiadau ar gael.
鈥淵n y b么n, fe ddywedon nhw na allwch chi ei gael nawr, mae'n rhaid i chi fynd adref a dod yn 么l mewn wythnos a dyna ni.
鈥淒oedd dim cynnig o gefnogaeth, dim therapi, dim cwnsela, ac rydych chi鈥檔 cerdded i ffwrdd yn cario鈥檆h babi sydd ddim yn fyw mwyach.鈥
Wrth aros am y llawdriniaeth, dechreuodd Shelley brofi poenau ac fe aeth i'r ysbyty.
鈥淵n anffodus fe gollais i'r babi yn naturiol,鈥 meddai.
鈥淥nd hyd yn oed ar 么l hynny, fe aethon ni drwy鈥檙 broses gyfan, ces i fy anfon ar fy ffordd a doedd dim cefnogaeth.
"Nes i ddioddef gyda fy iechyd meddwl ar 么l hynny.鈥
Naw mlynedd yn ddiweddarach ac ar 么l talu am driniaeth ffrwythlondeb breifat, mae鈥檙 cwpl bellach yn disgwyl babi mewn ychydig o wythnosau.
Ond mae Shelley yn credu bod y diffyg cymorth iechyd meddwl a gafodd wedi gwneud yr holl broses yn anoddach.
鈥淩oedden ni鈥檔 gofyn am help tro ar 么l tro, ond doedd dim byd ar gael," meddai.
鈥淢ae鈥檙 trawma chi'n dioddef ar 么l colli babi a sut y cawsom ein trin yn aros gyda chi.
鈥淗yd yn oed nawr wrth fynd am sganiau mae鈥檔 anodd, mae鈥檔 dod 芒鈥檙 cyfan yn 么l.
鈥淲naethon ni byth ddelio gydag e, a pe bawn i wedi cael y gefnogaeth i allu symud ymlaen a phrosesu鈥檙 trawma, efallai byddai pethau wedi bod yn wahanol.鈥
Trawma o'r fath 'yn gyffredin iawn'
Mae gwaith ymchwil ar y cyd gan Fertility Network UK, Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd a Phrifysgol y Frenhines Belfast yn dangos fod trawma sy鈥檔 gysylltiedig ag anffrwythlondeb yn fwy cyffredin na'r hyn oedd yn cael ei gydnabod yn flaenorol, ac mae鈥檙 elusen yn galw am well cymorth iechyd meddwl.
Mae ffigyrau鈥檔 dangos bod 41% o ymatebwyr o ar draws y DU wedi cael diagnosis o anhwylder straen wedi trawma (PTSD) ar 么l profi anffrwythlondeb.
Dywedodd Dr Catherine Hill o鈥檙 elusen: 鈥淢ae鈥檙 ymchwil yma'n bwysig iawn, oherwydd mae鈥檔 cadarnhau鈥檙 hyn y mae pobl sy鈥檔 gweithio yn y sector ffrwythlondeb wedi鈥檌 amau ers tro, a hynny yw bod trawma sy鈥檔 gysylltiedig ag anffrwythlondeb yn gyffredin iawn."
Yng Nghymru, dywedodd Dr Hill fod llawer o ymatebwyr wedi dweud mai dim ond un sesiwn o gwnsela a gafodd ei gynnig iddyn nhw yn ystod eu taith ffrwythlondeb.
鈥淒yw un sesiwn o gwnsela ddim yn debygol o grafu鈥檙 wyneb hyd yn oed, ac mae llawer o glinigau鈥檔 cynnig mwy na hynny," meddai.
鈥淥nd yng Nghymru rydyn ni鈥檔 clywed mai dim ond un sesiwn sy鈥檔 cael ei gynnig, a dyw hynny ddim yn ddigon i ddechrau mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 profiadau trawmatig hyn y mae cleifion yn mynd drwyddynt.鈥
Dywedodd y prif ymchwilydd Dr Sofia Gameiro o Brifysgol Caerdydd fod y gofal a gafodd nifer o fenywod wrth dderbyn triniaeth ffrwythlondeb wedi gwaethygu eu trawma, ac mewn rhai achosion wedi achosi eu trawma.
鈥淓r bod rhai ymatebwyr wedi s么n am ofal cadarnhaol, roedd yn amlwg bod dros 60% wedi tynnu sylw at agweddau o鈥檙 gofal a achosodd neu wnaeth arwain at fwy o drawma,鈥 meddai Dr Gameiro.
Mae鈥檙 adroddiad yn rhoi enghreifftiau lle cafodd trawma ei waethygu gan y gofal a gafodd cleifion, a oedd yn cynnwys diffyg empathi neu gydnabyddiaeth o brofiadau trawmatig, cyngor anghyson a diffyg cefnogaeth gan staff wrth dderbyn newyddion drwg.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Ry鈥檔 ni鈥檔 gwybod bod anffrwythlondeb ac aros am driniaeth yn gallu cael effaith sylweddol ar iechyd meddwl a lles pobl.
"Mae'n rhaid i bob clinig ffrwythlondeb sy'n cael ei ddefnyddio gan y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru gynnig cyfle i siarad 芒 chwnselydd cyn i'r driniaeth ddechrau.
"Dylai unrhyw un sydd angen rhagor o gwnsela neu gymorth hefyd ofyn am atgyfeiriad drwy eu meddyg teulu."