成人快手

Tristwch wrth i gostau to orfodi capel sy'n 'rhy fawr' i gau

Y capel ar Stryd Maengwyn
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Adeilad Capel Maengwyn ym Machynlleth ydy鈥檙 capel Cymraeg olaf yn y dref

  • Cyhoeddwyd

Bydd aelodau Capel Maengwyn ym Machynlleth yn gorfod symud i leoliad newydd cyn hir yn sgil costau eithriadol i ail-doi鈥檙 adeilad.

Mae yswirio鈥檙 adeilad i gyd yn costio 拢6,000 y flwyddyn i鈥檙 capel, ond mae鈥檙 cwmni yswirio wedi gwrthod yswirio鈥檙 to bellach.

Er bod gweddill yr adeilad mewn cyflwr da, gyda system wresogi gweddol newydd, y to yw鈥檙 broblem.

Yn 么l John Price, un o鈥檙 blaenoriaid: 鈥淢ae鈥檙 to llechi Cymreig yn edrych yn dda ond mae鈥檙 hoelion sy鈥檔 ei ddal wedi rhydu ac mae angen ail-doi.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae John Price yn dweud bod yn rhaid bod yn ymarferol am y sefyllfa

鈥淏ydde鈥檔 rhaid codi sgaffaldiau reit rownd fyddai鈥檔 costio ffortiwn, tynnu鈥檙 slats i ffwrdd, gwella鈥檙 coed, newid yr hoelion ac yna ail-doi," yn 么l Mr Price.

鈥淣i 'di cael ar ddeall byddai鈥檔 costio鈥檔 agos at 拢100,000.

鈥淕an nad oes yswiriant i鈥檙 to, petai llechen yn cwympo ac yn brifo rhywun, ni fel blaenoriaid fyddai鈥檔 gyfrifol felly 'sgennon ni ddim dewis ond symud i leoliad arall.

鈥淢ae鈥檔 dristwch i ni gyd y bydd yn rhaid i鈥檙 adeilad gau, ond 'da ni gyd yn sylweddoli bod yn rhaid gwneud rhywbeth, bod yn rhaid bod yn ymarferol.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r to angen ei ail-doi yn sgil hoelion yn rhydu ac mae鈥檙 cwmni yswirio wedi gwrthod yswirio鈥檙 to bellach

Mae鈥檙 capel, gafodd ei adeiladu yn 1867, yn dal 700 o bobl ac erbyn hyn yn adeilad rhestredig gradd 2.

Mae gan y capel 34 o aelodau a 37 o gyfeillion yr achos, ac mae gwasanaethau鈥檔 cael eu cynnal bob Sul.

Bydd y gwasanaethau hynny鈥檔 parhau tan y byddan nhw鈥檔 dod o hyd i leoliad newydd.

Ychwanegodd John Price: 鈥'Da ni鈥檔 edrych ar leoliadau eraill r诺an, a bydd y dewisiadau yn mynd o flaen yr aelodau cyn hir ac yna fe fyddwn ni鈥檔 'neud penderfyniad mewn rhyw bythefnos.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r capel yn dal 700 o bobl ac mae festri hefyd o dan yr adeilad.

Yn 么l y Parch Nan Powell Davies, Ysgrifennydd Cyffredinol Eglwys Bresbyteraidd Cymru "mae manteision i adeiladau, ond gallant hefyd fod yn faich".

"Nid ydynt oll yn addas i鈥檙 diben, ac yr ydym yn awr yn gwario mwy ar adeiladau nag ar Weinidogaeth.

"Fel enwad, mae angen i ni helpu aelodau i weld bod cynllunio cyn cyrraedd pwynt di-droi-n么l yn gadarnhaol, yn gwneud gwell defnydd o adnoddau, ac yn caniat谩u i aelodau barhau i addoli gyda鈥檌 gilydd."

Mae gan yr Eglwys Bresbyteraidd gynllun gweithredu cenhadol sy'n gofyn i gapeli ystyried eu hadnoddau ariannol ac adeiladu ac felly datblygu partneriaethau gydag enwadau tebyg i rannu adnoddau.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd gwasanaethau'r capel yn parhau bob bore Sul tan y byddan nhw鈥檔 dod o hyd i leoliad newydd

Ond mae Mr Price yn cydnabod fod yr adeilad yn rhy fawr iddyn nhw erbyn hyn beth bynnag.

鈥淩hentu fyddwn ni yn y tymor byr, ond y gobaith ydy gallu gwerthu鈥檙 capel a phrynu rhywle mwy addas i鈥檙 pwrpas," meddai.

鈥淵 gwir amdani ydy bod yr adeilad yn rhy fawr i鈥檔 anghenion ni.鈥

Pryder arall ydy鈥檙 ffaith bod cyfartaledd oedran yr aelodau yn eu 60au.

鈥淢ae pawb yn mynd i oed, a does dim digon o bobl ifanc i fod yn weithgar a rhoi hwb i bethe, dyna鈥檙 drwg."

Pynciau cysylltiedig