Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Galw ar y Llywodraeth i 'weithredu' wedi tro pedol ffermio
- Awdur, Garry Owen
- Swydd, Gohebydd arbennig 成人快手 Radio Cymru
Mae gr诺p o elusennau amgylcheddol yn galw ar y Llywodraeth i "weithredu, nid cynllunio yn unig" wrth newid y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS).
Mae mudiad WEL sy'n cynnwys elusennau fel Coed Cadw, WWF a'r RSPB yn dweud nad yw'r newidiadau diweddaraf i'r cynllun yn mynd yn ddigon pell er mwyn moderneiddio ffermio i daclo'r argyfwng natur a hinsawdd.
Fe gafodd y cyhoeddiad a'r manylion am y newid ei wneud gan y Gweinidog Materion Gwledig Huw-Irranca Davies yn ystod y Ffair Aeaf yn Llanelwedd.
Mae'n un o nifer o newidiadau i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.
Cynllun yw hwn sy'n cael ei gyflwyno ar 么l Brexit ac mae disgwyl iddo ddod i rym yn 2026.
Y bwriad yw gwobrwyo ffermydd am ddulliau ffermio sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd.
Un o ofynion gwreiddiol mwyaf dadleuol y cynllun oedd y rheol fod yn rhaid i i ffermwyr gael coed ar o leiaf 10% o鈥檜 tir. Mae hwn nawr wedi ei ddileu.
Ond mae'r elusennau amgylcheddol sy'n rhan o WEL yn dweud y dylai plannu coed, adfer perthi a rheoli cynefinoedd fod wrth galon y cynllun.
Maen nhw yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r buddsoddiant yn y cynllun er mwyn "adfer yr uchelgais sydd wedi ei golli".
Mae'r cynigion newydd yn dal i ofyn i ffermydd reoli 10% o'u tir fel cynefinoedd i fywyd gwyllt.
Dywed Rhys Evans, sy'n rheolwr i'r Rhwydwaith Ffermio er Lles Natur yng Nghymru ei fod yn rhoi croeso gofalus i'r cyhoeddiad.
"Rwy yn lled groesawu'r diweddariad. Lot o bethe cadarnhaol yn y cynllun. Er enghraifft, mae'r cymorth i ffermwyr i siarad ag arbenigwyr yngl欧n 芒 phlannu coed, a chynllunio lle i blannu coed yn gam cychwynnol pwysig iawn."
Er ei fod yn pwysleisio bod yna agweddau positif yn y cynllun newydd, mae'n dweud fod angen "cynllun sydd wedi ei gyllido a'i ariannu yn hael i annog ffermwyr i blannu coed. Fel arall fe fyddwn ni yn gorffen gyda chynlluniau drud o bosib sy' jyst yn hel llwch yn rhywle".
Ond, fe fydd rhaid i ffermwyr aros ychydid cyn cael manylion cyllideb y cynllun.
Bydd penderfyniad terfynol ar gyfansoddiad y cynllun yn cael ei wneud haf nesaf.
Dywed Llywodraeth Cymru na fyddan nhw'n rhoi gwybod i ffermwyr am gyfraddau taliad tan hynny.
'Llawer o gwestiynau dal heb eu hateb'
Wrth drafod y newid, dywedodd Aled Jones, Llywydd Undeb NFU Cymru: "Mae cymaint o waith eto i 'neud. Mae'r cyhoeddiad yma ond yn datgelu lle ry' ni wedi cyrraedd fan yma."
Dros fisoedd y gaeaf fe fydd mwy o waith ymchwil yn cael ei neud a mwy o fodelu.
"Llawer o gwestiynau dal heb eu hateb," yn 么l Aled Jones.
"Mae hyn yn welliant mawr heb os, ac mae ffermwyr yn fwy hyderus, ond mae dal disgwyl i weld y gyllideb.
"Eto, mae teimlad mwy positif nag oedd yna flwyddyn yn 么l."
Elfen arall sydd wedi cythruddo nifer o ffermwyr yw'r newid i dreth etifeddiant.
Wrth siarad ar Dros Frecwast fore Mawrth, dywedodd ei fod yn galw ar y Llywodraeth i oedi ac adolygu'r newid dadleuol i dreth etifeddiant.
Dywedodd y dylai'r Llywodraeth gynnal adolygiad ar yr hyn y maen nhw'n bwriadu ei wneud ac yna ymgynghoriad pellach cyn gwneud unrhyw newidiadau.
Daw hyn yn dilyn protest enfawr yn Llundain yr wythnos diwethaf, a dros chwarter miliwn o bobl wedi llofnodi deiseb yn erbyn y newid.
Fe wnaeth Llywydd Cenedlaethol NFU, Tom Bradshow, gwrdd 芒'r Prif Weinidog, Syr Keir Starmer ddydd Llun i drafod yr hyn sydd am ddigwydd nesaf.