成人快手

Tr锚n Yr Wyddfa yn rhedeg i'r copa eto wedi tair blynedd

tren bachFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae tr锚n wedi bod yn cludo teithwyr i fyny'r Wyddfa ers 130 o flynyddoedd

Cipolwg

  • Mae'r tr锚n i gopa'r Wyddfa wedi ailddechrau'n gyson am y tro cyntaf ers y pandemig

  • Mae peirianwyr wedi ailosod 1,000m (3,300 troedfedd) o drac fel rhan o brosiect 拢1m

  • Mae ailddechrau'r gwasanaeth tr锚n yn golygu y bydd canolfan ymwelwyr Hafod Eryri yn ailagor hefyd

  • Roedd y ganolfan wedi bod ar gau ers hydref 2019

  • Cyhoeddwyd

Mae modd cyrraedd copa'r Wyddfa ar dr锚n unwaith eto wedi bwlch o dair blynedd, wrth i'r trenau cludo teithwyr ddechrau ar eu taith i ganolfan ymwelwyr Hafod Eryri fore Gwener.

Mae'r ganolfan wedi bod ar gau ers y pandemig, a doedd hi ddim yn bosib iddi agor gan fod angen cwblhau gwaith angenrheidiol ar y trac.

Bellach mae peirianwyr wedi ailosod 1,000m (3,300 troedfedd) o'r trac i'r copa fel rhan o brosiect gwerth 拢1m.

Dywed Vince Hughes, sydd yn gofalu am weithrediadau masnachol yng nghwmni Rheilffordd Yr Wyddfa, ei bod hi'n gyfnod cyffrous i'r t卯m wedi iddyn nhw weithio mor galed - yn aml mewn tywydd garw.

"'Da ni'n edrych ymlaen at y misoedd nesaf," meddai.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe agorodd Hafod Eryri i'r cyhoedd yn 2009, gan gostio dros 拢8m

Yn sgil y pandemig mae'r ganolfan ymwelwyr wedi bod ar gau ers diwedd hydref 2019.

Nid oedd yn bosib i Hafod Eryri agor yn 2020 nac yn 2021 oherwydd y cyfyngiadau ar gwrdd yn gymdeithasol.

Roedd hi'n bosib teithio ar y rheilffordd yn 2022, ond ddim ond tri chwarter y ffordd hyd at Orsaf Clogwyn oherwydd y gwaith brys oedd angen ei wneud i ailosod a chynnal a chadw gweddill y trac.

Ffynhonnell y llun, Rheilffordd Yr Wyddfa
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r tywydd ar Yr Wyddfa yn gallu bod yn arw, fel ym mis Mawrth eleni pan roedd yn rhaid i beirianwyr ddelio ag eira

Roedd y gwaith diweddar yn cynnwys symud rhannau o'r rheilffordd a oedd wedi bod yno ers iddi agor yn 1896.

Ond mae'r tywydd garw ar gopa'r mynydd 1,085m (3,560 troedfedd) yn golygu mai ychydig iawn o amser oedd gan beirianwyr i wneud y gwaith.

Eleni roedd eira ar y copa ym mis Ebrill - gan ei gwneud hi bron yn amhosib i beirianwyr fwrw ymlaen 芒'u gwaith.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'r Wyddfa yn hynod o boblogaidd - yn enwedig ym misoedd yr haf

Wrth i鈥檙 cyfeusterau ar yr Wyddfa ailagor, dywedodd Karl Jones, rheolwr y copa, eu bod nhw wedi gweithio鈥檔 galed i gyrraedd y pwynt yma.

鈥淣athon ni agor dydd Llun, a gaethon ni [dim ond] un tr锚n i fyny achos y gwynt,鈥 meddai.

鈥淎 wedyn dydd Mawrth oedd y dydd pan gaethon ni dr锚n bob hanner awr.

鈥溾楧an ni 鈥榙i bod yn planio agor Hafod Eryri ers dros flwyddyn, o鈥檙 ochr engineering i鈥檙 commercial.

"Ar 么l 鈥楧olig mi fuon ni fyny yna, roedd 鈥榥a lot o waith llnau, doedd y generators ddim yn gweithio, doedd y system d诺r ddim yn gr锚t - mae 鈥榙i bod yn dasg anghygoel.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Karl Jones, rheolwr y copa

Yr agwedd fwyaf eithriadol o鈥檙 gwaith sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf ydy鈥檙 ymdrech i ailosod llawer o鈥檙 cledrau ar ochr uchaf y rheilffordd.

Roedd rhai rhannau o鈥檙 trac heb eu newid ers i鈥檙 trenau cyntaf ddringo鈥檙 mynydd dros 125 mlynedd yn 么l.

Ac er mai ar y tr锚n ddaeth y rhan fwyaf o ymwelwyr ddydd Gwener, roedd rhai wedi mentro yn y gwynt a鈥檙 glaw - a chamu wedyn i gysgod Hafod Eryri.

鈥淒wi 鈥榙i bod yma last few times, yn y mis dwytha, a dio鈥檓 di bod yn agored,鈥 meddai Neil Jones o Gaernarfon, wnaeth gerdded i fyny gyda ffrindiau o鈥檙 gwaith.

鈥淒ydy o鈥檓 mor ddrwg pan mae鈥檔 braf, ond tywydd fel 鈥榤a ti rili angen o.鈥

'Hynod falch o'n t卯m'

Fel arfer mae'r ganolfan ymwelwyr a'r caffi yn agor ar gyfer y Pasg, ond gan nad oedd y gwaith ar y trac wedi'i gwblhau doedd hi ddim yn bosib agor yr adeg honno eleni.

Mae'r gwasanaeth tr锚n yn gwbl hanfodol i'r ganolfan - y tr锚n sy'n cludo staff, tanwydd a bwyd a diod i'r copa - ac yna'r gwastraff yn 么l i lawr.

"Dyma'r gwaith mwyaf sydd wedi cael ei wneud ar y rheilffordd ers ei chodi ac mae buddsoddiad o dros 拢1m yn sicrhau dyfodol yr atyniad unigryw," medd Zoe Hart, rheolwr cynorthwyol y ganolfan.

"'Da ni'n hynod o falch o'n t卯m a'r hyn maen nhw wedi'i gyflawni.

"Mae'r broses o agor Hafod Eryri yr haf hwn wedi bod yn heriol iawn a 'da ni wedi gorfod gorchfygu sawl rhwystr."

Ffynhonnell y llun, Rheilffordd Yr Wyddfa
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Roedd 'na gryn dipyn o waith glanhau ar ganolfan Hafod Eryri ar 么l bod ynghau am mor hir

Mae ailagor y ganolfan ymwelwyr yn sicr o fod yn newyddion da i gerddwyr a theithwyr gan nad oes unrhyw adnoddau wedi bod ar y copa ers 2019.

Mae hynny wedi arwain at nifer o gwynion am sbwriel a rhai pobl yn defnyddio rhannau o'r mynydd fel toiled, wrth i gannoedd o filoedd o ymwelwyr bob blwyddyn anelu am y copa - gan giwio am amser hir yn ystod adegau prysur.