Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dyn wedi marw ar yr A55 mewn tacsi wedi'i ddwyn - cwest
Mae cwest wedi clywed y bu farw dyn 22 oed ar 么l bod mewn gwrthdrawiad ar yr A55 mewn tacsi yr oedd wedi'i ddwyn.
Bu farw Kian Collier o Hen Golwyn o nifer o anafiadau ar 28 Hydref y llynedd yn dilyn y gwrthdrawiad ar gyrion Dwygyfylchi ger Conwy.
Dywedodd y crwner Kate Robertson fod Kian wedi bod yn deithiwr mewn tacsi Hyundai gwyn yn oriau m芒n 28 Hydref, cyn iddo gymryd y car heb ganiat芒d y gyrrwr.
Cafodd ei ddisgrifio gan ei deulu fel person "doniol" a "swil" oedd yn "rhagori ym mhob camp".
Tacsi wedi'i ddwyn
Fe wnaeth y cwmni tacsi Premier Group o Fangor, sy'n berchen ar y car, gadarnhau fod yr Hyundai wedi'i ddwyn ganddyn nhw, ond nad oedd yr un o yrwyr y cwmni'n rhan o'r digwyddiad.
Dywedodd Gordon Saynor, ymchwilydd fforensig gwrthdrawiadau gyda Heddlu Gogledd Cymru, fod camera traffig wedi ffilmio鈥檙 car yn mynd i gyfeiriad Conwy ar hyd yr A55 tua鈥檙 dwyrain yn Nwygyfylchi pan ddiflannodd o鈥檙 golwg y tu 么l i fryn bychan.
Clywodd y cwest yn llys crwner Rhuthun nad oedd unrhyw dystion i'r gwrthdrawiad.
Dywedodd Mr Saynor: "Ar 么l i'r olwyn flaen daro ymyl y palmant, fe aeth y car ar draws y ffordd cyn taro rheiliau metel a wal gerrig."
'Ei fywyd cyfan o'i flaen'
Ychwanegodd Mr Saynor fod y car yn teithio ar gyflymder "llawer uwch na'r terfyn 30 mya".
Dywedodd nad oedd Kian yn gwisgo gwregys diogelwch ar y pryd ac fe ddangosodd archwiliad post mortem fod 224mg y litr o alcohol yn ei waed - y terfyn cyfreithlon ar gyfer gyrru yw 80mg y litr.
Dywedodd Kate Robertson nad oedd tystiolaeth i ddweud beth achosodd i Kian golli rheolaeth ar y car.
Daeth i'r casgliad ei fod wedi marw o ganlyniad i wrthdrawiad ffordd.
Dywedodd y crwner: "Roedd ganddo ei fywyd cyfan o'i flaen. Mae colli rhywun mewn amgylchiadau o'r fath yn hynod drasig."