˿

Gething: 'Pobl ddim yn fodlon derbyn fy ethol'

Vaughan GethingFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Bedwar mis ar ôl cael ei ethol yn arweinydd Llafur Cymru, fe gyhoeddodd Mr Gething ddydd Mawrth y bydd yn ymddiswyddo

  • Cyhoeddwyd

Mae Vaughan Gething wedi dweud iddo geisio cadw Llafur Cymru yn unedig ond nad oedd pobl yn fodlon derbyn ei ethol fel arweinydd.

Yn ei gyfweliad cyntaf ers cael ei orfodi i gyhoeddi y bydd yn ymddiswyddo, dywedodd iddo geisio bod yn “garedig” a “hael”.

Bedwar mis ar ôl cael ei ethol yn arweinydd Llafur Cymru, fe gyhoeddodd Mr Gething ddydd Mawrth y bydd yn ymddiswyddo wedi i bedwar aelod o'i lywodraeth adael.

“Rwyf wedi ceisio gwneud y peth iawn i bobl eraill ac i’r wlad,” meddai.

Mae'n bwriadu aros ymlaen dros yr haf tra bod Llafur yn dewis ei olynydd.

Disgrifiad o’r llun,

Y pedwar aelod o'r llywodraeth a ymddiswyddodd fore Mawrth - Jeremy Miles, Julie James, Mick Antoniw a Lesley Griffiths

Wrth siarad ddydd Iau, dywedodd: “Mae'n rhaid i bawb edrych arnyn nhw eu hunain a'r hyn maen nhw wedi'i wneud.

“Roedd gan aelodau ar draws y mudiad yng Nghymru gystadleuaeth un aelod, un bleidlais, ac fe lwyddais i... roedd cyfle i ni gyd gefnogi’r canlyniad hwnnw, fel sydd wedi digwydd ar ôl pob gornest arweinyddiaeth arall.

"Nid yw hynny wedi bod yn bosibl."

Dywedodd Mr Gething ei fod "wedi mynd ati i ofyn am adolygiad o roddion i’r blaid yn ogystal â’r Senedd, fel y mae pobl eraill wedi gofyn amdano".

“Rydw i wedi gwneud popeth o fewn fy ngallu i fod yn garedig, i fod yn hael i bobl eraill, i fod eisiau bod yna i bobl aros yn unedig.

"Nid yw pobl wedi bod yn barod i dderbyn canlyniad yr aelodaeth gyda mi fel yr arweinydd ac mewn llai na phedwar mis nid yw'n bosibl i mi barhau."

Ar ôl i Mr Gething drechu Jeremy Miles yn yr ornest arweinyddiaeth a ddaeth i ben ym mis Mawrth, daeth yr arweinydd du cyntaf ar genedl Ewropeaidd.

Mae ei gyfnod fel prif weinidog wedi cael ei ddominyddu gan ddadleuon, yn bennaf dros £200,000 a dderbyniodd ar gyfer ei ymgyrch gan gwmni sy’n eiddo i ddyn a gafwyd yn euog o droseddau amgylcheddol.

Honnodd ei fod yn "nonsens" y gallai fod wedi ad-dalu'r rhodd.

"Dydw i ddim yn gwybod amdanoch chi ... ond does gen i ddim £200,000 sbâr o gwmpas," meddai.

Dywedodd y byddai wedi bod yn “amhriodol” iddo gael perthynas ariannol gyda Jenny Rathbone, y gwleidydd Llafur a gynigiodd fenthyg yr arian iddo i’w dalu’n ôl.