Gwesty Parc y Strade Llanelli i ailagor ddydd Llun

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Roedd yna siom yn lleol y llynedd pan gollodd 100 o weithwyr eu swyddi yn sgil cynlluniau'r Swyddfa Gartref i'r gwesty dderbyn ceiswyr lloches
  • Awdur, Aled Scourfield
  • Swydd, 成人快手 Cymru

Bydd gwesty yn Llanelli yn ailagor ddydd Llun, wedi i'r Swyddfa Gartref wneud tro pedol am gynlluniau dadleuol i gadw cannoedd o geiswyr lloches yno.

Cafodd y cynlluniau i gadw 241 o geiswyr lloches yng Ngwesty Parc y Strade eu gollwng ym mis Hydref yn dilyn protestiadau lleol ffyrnig a gwrthwynebiad gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Mae gwaith adnewyddu wedi bod yn digwydd ers hynny, ac fe gadarnhaodd y gwesty ddydd Sul y bydd yn ailagor ar 3 Mehefin.

Mae Pwyllgor Ymgyrchu Ffwrnes wedi dweud y dylai'r gwesty gael ei ddefnyddio fel safle ar gyfer digwyddiadau a phriodasau.

Mae'r perchnogion, cwmni buddsoddi Sterling Woodrow, wedi cael cais i ymateb.

'Goleuni ar ddiwedd y twnnel'

Fe gadeiriodd Robert Lloyd o Bwyllgor Gweithredu Ffwrnes y cyfarfod cyntaf i drafod y cynllun i gartrefu ceiswyr lloches yno dros flwyddyn yn 么l.

"Mae hi wedi bod yn 12 mis anodd a diflas i bobl pentref Ffwrnes a thref Llanelli," dywedodd.

"Nawr, mae yna oleuni ar ddiwedd y twnnel.

Ffynhonnell y llun, S4C

"Mae yna arwydd newydd ger y fynedfa. Mae'r safle yn brysurach. Mae'r gegin yn weithredol.

"Ry'n ni yn deall bod y gwelliannau mewnol wedi eu cwblhau, ac mae'r chef wedi bod yn paratoi ei fwydlen newydd.

"Mae offer diogelwch wedi cael ei brofi ac mae'r tystysgrifau t芒n priodol wedi cael eu trefnu."

Disgrifiad o'r llun, Roedd yna wrthwynebiad chwyrn i'r cynlluniau, ac fe gafodd sawl protest eu cynnal

Cafodd 95 aelod o staff eu gwneud yn ddi-waith ym mis Gorffennaf y llynedd, ar 么l i'r Swyddfa Gartref gyhoeddi cynlluniau i gadw ceiswyr lloches yn y gwesty.

Fe ganslwyd nifer o ddigwyddiadau, gan gynnwys priodasau.

Fe sefydlwyd gwersyll y tu allan i'r gwesty gan brotestwyr oedd yn pwyso ar y Swyddfa Gartref am dro pedol.

Fe arestiwyd nifer o bobl聽 am droseddau yn ymwneud 芒'r drefn gyhoeddus wrth i'r ymgyrch ddwys谩u, ac fe gostiodd y gwaith plismona dros 拢1m i Heddlu Dyfed-Powys.

Fe wnaed ymgais gan Gyngor Sir Caerfyrddin i atal y cynlluniau yn yr Uchel Lys, ond methiant fu'r achos cyfreithiol.

Fe gyhoeddodd y Swyddfa Gartref ym mis Hydref na fyddai'r gwesty yn cael ei ddefnyddio i gadw ceiswyr lloches wedi'r cyfan.

'Dirwyn pennod hyll i ben'

Dywedodd Mr Lloyd, sy'n aelod o Gr诺p Ymgyrchu Ffwrnes: "Roedd gyda ni dri uchelgais - atal y cynllun i lwyfannu ceiswyr lloches, cynnal dyfodol y gwesty pedair seren a [sicrhau dychweliad] 100 o swyddi.

"Mae'r uchelgais gyntaf wedi ei gwireddu. Rydym yn obeithiol y bydd y gwesty yn ailagor ac y bydd cwsmeriaid yn dychwelyd wythnos nesaf.

"Pan fydd y gwesty yn weithredol, rydym yn gobeithio y bydd yr un nifer o swyddi yn dychwelyd. Mae angen cynnal digwyddiadau a phriodasau yno eto.

"Y gobaith yw y bydd hyn yn dirwyn pennod hyll i ben yn hanes y pentref. Mae angen tynnu llinell a symud ymlaen."