Gofalu am blanhigion t欧 yn gysur wedi Covid hir

Disgrifiad o'r llun, Dywed Ruth Bramley bod ei busnes planhigion t欧 wedi ei helpu "i gario ymlaen" ar 么l dioddef Covid hir
  • Awdur, Steffan Messenger
  • Swydd, Gohebydd Amgylchedd 成人快手 Cymru

Rhybudd: Fe allai cynnwys yr erthygl yma beri gofid i rai.

"Mae wedi fy helpu i fwy nag unrhyw beth arall - fy helpu i gario 'mlaen," meddai Ruth Bramley am y busnes planhigion t欧 y sefydlodd ar 么l i Covid hir newid ei bywyd yn llwyr.

Yn ei harddegau roedd 芒'i bryd ar yrfa fel nyrs, ac roedd hi hefyd yn bencampwr can诺io drwy Gymru a'r Deyrnas Unedig.

Ond yna fe gafodd Covid, rai wythnosau ar 么l dechrau yn y chweched ddosbarth a "byth wir gwella".

Bellach yn 20 oed, mae'n dweud ei bod hi'n bwysig peidio ag anghofio effaith y pandemig ar bobl ifanc.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

Disgrifiad o'r llun, Dechreuodd Ruth gan诺io gyda chlwb Llandysul Paddlers pan oedd yn chwech oed, gan ddod yn bencampwr rasio slalom drwy Gymru a Phrydain

Wrth siarad 芒 rhaglen 'On Your Farm', 成人快手 Radio 4, dywedodd Ruth o Landysul, Ceredigion i Covid ei llethu.

"Ro'n i'n methu gadael y t欧 am bron i flwyddyn," meddai, am ei bod yn profi "blinder eithafol".

Yn ogystal 芒 Covid hir fe ddatblygodd broblemau iechyd difrifol eraill gan dderbyn diagnosis o gordyndra mewngreuanol idiopathig, lle mae gormod o bwysau ar yr ymennydd, a fibromyalgia, cyflwr cronig sy'n achosi poen drwy'r corff.

'Can诺io oedd fy holl fyd'

Bu'n rhaid iddi roi'r gorau i'w hastudiaethau yn yr ysgol, a ffarwelio hefyd 芒'i phrif ddiddordeb sef can诺io.

Roedd hi'n bencampwr drwy Brydain ar rasio slalom yn 12 oed, a'r person ieuengaf i fod yn cystadlu yn uwchgynghrair y gamp y flwyddyn ganlynol.

"Dyma oedd fy holl fyd," meddai. "Ro'n i'n hyfforddi am ddwy awr a hanner y dydd bum niwrnod yr wythnos a roedd gorfod rhoi'r gorau i hynny yn hollol ofnadwy - 'naeth e adael cymaint o fwlch."

Disgrifiad o'r llun, Mae twf amlwg wedi bod ym mhoblogrwydd planhigion t欧 wedi'r pandemig, yn 么l y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol

Er bod rhieni Ruth yn berchen ar ganolfan arddio lwyddianus yn Llandysul, doedd hi "byth wedi hoffi planhigion a byth wedi eisiau mynd i fyd horticulture".

Ond yna, a hithau ar ei hisaf, daeth cysur o ofalu am blanhigion t欧 yn ei 'stafell wely.

"Fe ddechreues i gyda thegeirian o archfarchnad a mynd o fyn'na," meddai, gan wenu.

"Roedd cael y planhigion yma o'm hamgylch i yn 'neud gymaint ar gyfer fy iechyd meddwl - yr holl liwiau, yr holl weadau gwahanol."

Disgrifiad o'r llun, Cafodd hen d欧 gwydr yn y ganolfan arddio ei drawsnewid yn siop planhigion t欧

Roedd ei thad, Richard wedi bod yn pendroni am ffordd o helpu'i ferch ac o weld y diddordeb mewn planhigion t欧 yn eginio fe gynigiodd adeiladu siop fach iddi ar safle'r ganolfan arddio.

Roedd yn brosiect y gallai Ruth ymgymryd ag e yn araf, yn ei hamser ei hun wrth iddi gryfhau.

"Fe wnaethon ni weddnewid un o'r hen dai gwydr, gan ddefnyddio hen bren o'r meinciau yn y polytunnels," meddai Ruth.

Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, mae 'The Houseplant Place' yn "gwneud yn rili dda", gyda'r planhigion t欧 yn gwerthu ar-lein hefyd i gwsmeriaid drwy'r Deyrnas Unedig.

'Bod yn agos at natur'

Mae Ruth yn meddwl mai'r pandemig - gafodd gymaint o effaith ar ei bywyd - sy'n gyfrifol hefyd am lwyddiant ei busnes.

"Dwi'n credu daeth y planhigion yma yn 么l i mewn i ffasiwn yn ystod Covid pan oedd pobl yn methu gadael y t欧," meddai.

"Ro'dd pobl am fod yn agos at natur, yn enwedig os nad oedd ganddyn nhw ardd.

"Roedd hefyd ganddyn nhw fwy o amser sb芒r, ac eisiau rhywbeth i ganolbwyntio arno fe fydde'n neud iddyn nhw deimlo'n well."

Mae'n awgrym sy'n cael ei gefnogi gan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS), sydd wedi nodi cynnydd sylweddol yng ngwerthiant planhigion t欧 ers y pandemig.

Disgrifiad o'r llun, Mae ymchwil gan yr RHS ar y cyd 芒 Phrifysgol Reading yn awgrymu bod cael planhigion yn y t欧 neu'r swyddfa yn gallu rhoi pobl mewn gwell hwyliau

"Mae gwneud hyn wedi fy helpu i lot," meddai Ruth. "Dwi wedi gorfod dod i arfer 芒'r peth achos yn bendant nid dyma lle ro'n i'n gweld fy mywyd yn mynd o gwbwl."

"Ond dwi'n falch o gael bod yn y lle hyfryd hwn, wedi'm hamgylchynnu 芒 phlanhigion."

Maen nhw hyd yn oed wedi cyrraedd ei breichiau - gyda that诺s o ddail a blodau yn gorchuddio creithiau hunananafu - olion ei siwrnai anodd.

Yn 么l y data diweddaraf sydd ar gael, roedd 1.9m o bobl yn y Deyrnas Unedig yn adrodd symptomau o Covid hir ym mis Mawrth 2023.

Roedd hyn yn cynnwys 94,000 yng Nghymru - a 57,000 o'r rheini wedi bod 芒 symptomau am dros flwyddyn.

Disgrifiad o'r llun, Mae planhigion suddlon (succulents) yn arbennig o boblogaidd am ei fod yn gymharol hawdd i ofalu amdanyn nhw

Mae modd gwrando ar 'On Your Farm - For the Love of Plants' o ganolfan arddio Farmyard Nurseries, Llandysul ar 成人快手 Radio 4 am 06:35 ddydd Sul, 13 Hydref neu wedi hynny ar 成人快手 Sounds.

Os ydy cynnwys yr adroddiad yma wedi effeithio arnoch chi mae cymorth a gwybodaeth ar gael ar wefan 成人快手 Action Line.