Cyhoeddi enillwyr prif wobrau celf Eisteddfod yr Urdd

Ffynhonnell y llun, Urdd

Disgrifiad o'r llun, Wanesa Kazmierowska a Saffron Lewis yw'r enillwyr ddydd Llun

Mae enillwyr dau o brif wobrau Eisteddfod yr Urdd wedi eu cyhoeddi.

Ar y maes ym Meifod, cyhoeddwyd mai Wanesa Kazmierowska o Abertawe yw enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc a Saffron Lewis o Sir Benfro yw enillydd y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg.

Roedd yr ysgoloriaeth am y gwaith mwyaf addawol gan unigolyn rhwng 18-25 oed. Roedd y Fedal Gelf ar gyfer y gwaith mwyaf addawol o blith enillwyr cenedlaethol holl gynnyrch adran blwyddyn 10-19 oed.

Mae Wanesa yn 19 oed ac yn astudio ar gyfer Diploma Sylfaen Celf a Dylunio yng Ngholeg G诺yr yn Abertawe.

Yn wreiddiol o Wlad Pwyl, mae hi wedi byw yn Abertawe ers dros 14 mlynedd.

Mae ganddi le wedi鈥檌 gadarnhau yn UAL (University of the Arts London) y flwyddyn nesaf i astudio Darlunio a Chyfryngau Gweledol ac mae鈥檔 gobeithio cymhwyso fel artist/darlunydd graffeg yn y dyfodol.

Ffynhonnell y llun, Urdd

Disgrifiad o'r llun, Wanesa Kazmierowska yw enillydd Ysgoloriaeth Artist Ifanc eleni

Dywedodd ei bod yn "mwynhau arbrofi gyda chyfryngau ac arddulliau artistig amrywiol i ehangu fy sgiliau, yn benodol gwneud printiau, celf ddigidol a phaentio gouache鈥.

Yn 么l beirniaid y gystadleuaeth, Jo Munton a Kate Morgan-Claire, bod gan Wanesa "ffocws mawr ar ei gwaith a sut yr hoffai ei ddatblygu".

"Mynegodd ei syniadau mor eglur fel ei bod yn hawdd gweld bod ganddi lawer o botensial fel artist.

"Roedd ei gallu i ddeffro鈥檙 emosiynau ac adrodd stori trwy ei delwedd o鈥檙 gl枚wr a鈥檙 caneri yn gwneud i鈥檙 gwaith hwn sefyll allan.鈥

Ffynhonnell y llun, Urdd

Disgrifiad o'r llun, Saffron Lewis sy'n cipio'r Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg

Mae Saffron Lewis, enillydd y Fedal Gelf, Dylunio a Thechnoleg yn fyfyriwr celf a dylunio yng Ngholeg Sir Benfro ac ar fin mynd i Brifysgol Metropolitan Caerdydd i astudio Celfyddyd Gain ym mis Medi.

Dywedodd: 鈥淒echreuodd fy nghariad at y celfyddydau yn ifanc iawn ac ar hyd y blynyddoedd mae hyn wedi tyfu.

"Mae arbrofi gydag amryw o wahanol gyfryngau a phrosesau artistig yn cadw fy angerdd yn fyw."

Dywedodd bod testun ei gwaith "yn bennaf yn organig ac yn gynaliadwy", a'i bod yn "hoffi amsugno awyrgylch fy amgylchoedd i greu marciau egn茂ol o fewn fy ngwaith celf".

"Mae fy ymarfer yn cynnwys amrywiaeth o gyfryngau ac rwy鈥檔 hoffi creu darnau diddorol ac unigryw sydd heb eu gweld o鈥檙 blaen; lle gall y sawl sy鈥檔 edrych ar y darn greu eu stori eu hunain.鈥

Cyflwynir Ysgoloriaeth Artist Ifanc, gwerth 拢2,000 drwy garedigrwydd y diweddar Dr Dewi Davies a鈥檌 deulu.

Cafodd y Fedal Gelf ei rhoi er cof am Elain Heledd a fu鈥檔 ysbrydoli disgyblion Llanegryn a Llanbrynmair.