Gary Pritchard i ddod yn arweinydd newydd Cyngor Sir Ynys Môn

Disgrifiad o'r llun, Mae Gary Pritchard (dde) yn debygol o olynu Llinos Medi - AS newydd Ynys Môn - fel arweinydd y cyngor sir

Mae Gary Pritchard wedi'i ethol i fod yn arweinydd newydd dros gynghorwyr Plaid Cymru ar Gyngor Sir Ynys Môn.

Mae'n debygol o ddod yn arweinydd y cyngor sir pan fydd yr holl aelodau yn pleidleisio mewn cyfarfod llawn ym mis Medi.

Bydd yn cymryd lle Llinos Medi, sy'n camu i lawr ar ôl cael ei hethol yn Aelod Seneddol yn gynharach yn y mis.

Roedd Mr Pritchard, cyn-ohebydd a chynhyrchydd chwaraeon, wedi bod yn arweinydd dros dro - gyda'r cynghorydd Robin Williams - am gyfnod byr.

I osgoi neges Facebook
Caniatáu cynnwys Facebook?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen Facebook a cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Dyw'r ³ÉÈË¿ìÊÖ ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.

Diwedd neges Facebook