Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Rhieni a disgyblion wedi eu 'methu' gan safonau addysg
- Awdur, Bethan Lewis
- Swydd, Gohebydd Addysg a Theulu 成人快手 Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei chyhuddo o fethu rhieni, disgyblion ac athrawon Cymru ac o fod yn gyfrifol am y safonau addysgol gwaethaf yn y Deyrnas Unedig.
Roedd y gwrthbleidiau'n ymateb i ddatganiad yn y Senedd ar fesurau i hybu cyrhaeddiad disgyblion.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Lynne Neagle y byddai mwy o adnoddau'n cael eu clustnodi ar gyfer dysgu llythrennedd, mathemateg a gwyddoniaeth.
Daw'r datganiad yn sgil canlyniadau gwael i Gymru mewn profion rhyngwladol ac adroddiad beirniadol yn gynharach eleni am y drefn addysg.
Yn 么l Ms Neagle roedd yna "lawer i'w ddathlu" yn y byd addysg ond roedd "presenoldeb dysgwyr, agweddau at ddysgu a chyrhaeddiad yn wannach na chyn y pandemig".
Dywedodd bod presenoldeb wedi gwella ychydig, ond nad oedd "yn agos at fod yn ddigon da" a bod mesurau'n cael eu cyflwyno i fynd i'r afael ag ymddygiad gwael.
Ychwanegodd y byddai gr诺p o arbenigwyr annibynnol yn cael eu penodi i'w chynghori fel rhan o'r ymdrechion i godi safonau.
Dywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru, Cefin Campbell, bod gorfod troi at arbenigwyr allanol yn "gyfaddefiad o fethiant".
"Ar 么l 25 mlynedd o Lafur yng Nghymru rydych chi wedi methu mynd i'r afael 芒 hyd yn oed y mater sylfaenol o wella safonau mewn ysgolion", meddai.
Dywedodd bod y llywodraeth wedi methu teuluoedd a staff ysgolion.
Roedd datganiad yr Ysgrifennydd Addysg yn siom meddai llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Tom Giffard.
Dywedodd bod y gweinidog wedi cynnig "mwy o'r un peth - yr un atebion ideolegol wnaeth ein cael ni mewn i'r llanast yma yn y lle cyntaf".
Beth yw'r broblem gyda safonau addysg?
Roedd canlyniadau disgyblion Cymru ym mhrofion rhyngwladol mathemateg, darllen a gwyddoniaeth Pisa yn is nag erioed o'r blaen ac wedi disgyn yn bellach tu 么l i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig.
Fe wnaeth adroddiad yn gynharach eleni dynnu sylw at "ganlyniadau addysgol gwael ar draws y sbectrwm yng Nghymru, gyda pherfformiad arbennig o wael ymhlith disgyblion llai cefnog".
Galwodd yr adroddiad am newidiadau i'r Cwricwlwm i Gymru ac oedi cyn cyflwyno cyrsiau TGAU newydd flwyddyn nesaf.
Dangosodd data o asesiadau darllen a rhifedd fod safonau plant saith i 14 oed wedi gostwng ers y pandemig.
Roedd y cwymp mwyaf yn y profion darllen Cymraeg - gyda'r gostyngiad i berfformiad yn cyfateb i 11 mis tu 么l i ganlyniadau 2020-21.
Yn ogystal, roedd yna fylchau sylweddol rhwng perfformiad plant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim a'u cyd-ddisgyblion.
Roedd disgyblion tlotach 21 mis ar ei h么l hi ar gyfartaledd mewn darllen Saesneg a 31 mis mewn darllen Cymraeg.
Mae'r Ysgrifennydd Addysg hefyd wedi dod dan y lach ar 么l sylw yn y cyfryngau i'r ffordd mae plant ifanc yn cael eu dysgu i ddarllen yn Saesneg.
Dywedodd Lynne Neagle wrth Aelodau o'r Senedd ddydd Mawrth fod adroddiad blynyddol arolygwyr Estyn yn awgrymu bod "ysgolion yn cael y pethau sylfaenol yn iawn ond bod angen mwy o ffocws ar ddatblygu sgiliau lefel uwch".