成人快手

Cyfoeth Naturiol Cymru i gau caffis a 200 swydd i arbed 拢12m

Mae canolfan ymwelwyr Coed y Brenin ger Dolgellau ymysg y rhai fydd yn cael eu heffeithio
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Bydd y toriadau yn effeithio ar ganolfan ymwelwyr Coed y Brenin ger Dolgellau

  • Cyhoeddwyd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cadarnhau na fydd yn rhedeg caffis a siopau mewn canolfannau ymwelwyr yn y dyfodol, ac y bydd yn cau eu gwasanaeth llyfrgell i geisio arbed 拢12m.

Dywedodd CNC y bydd y newidiadau - sy'n golygu colli 233 o swyddi - yn caniat谩u i'r corff ganolbwyntio ar "gyfrifoldebau craidd".

Mae 113 o'r swyddi eisoes yn wag, sy'n golygu bod y toriadau yn effeithio ar 120 o aelodau staff presennol.

Dywedodd CNC y bydd staff yn cael eu hadleoli o fewn y sefydliad, ble mae'n bosib.

Mae bwrdd y rheoleiddiwr amgylcheddol wedi cymeradwyo鈥檙 ailstrwythuro, yn dilyn ymgynghoriad gydag undebau a staff.

Dywedodd bod sawl cynnig wedi cael ei addasu, gan gynnwys lleihau nifer y swyddi sy'n cael eu colli.

Roedd cynlluniau ar gyfer newidiadau i ganolfannau ymwelwyr wedi sbarduno protestiadau a gwrthwynebiad.

Ni fydd y corff amgylcheddol bellach yn rhedeg caffis a siopau yng Nghoed y Brenin yng Ngwynedd, nac ym Mwlch Nant yr Arian ac Ynyslas, yng Ngheredigion.

Bydd y safleoedd eu hunain yn parhau ar agor ar gyfer cerdded a beicio, yn ogystal 芒 mannau chwarae, meysydd parcio a thoiledau.

Dywedodd CNC y byddai'n "gweithio'n agos gyda chwsmeriaid, partneriaid, a rhanddeiliaid i drosglwyddo'n llyfn... at eraill ble mae'n bosib".

Mae CNC hefyd wedi cadarnhau y bydd yn cau llyfrgell amgylcheddol ym Mangor.

Mae grwpiau amgylcheddol ac undeb Unsain wedi beirniadu'r toriadau, gan honni bod ystod y swyddi sy'n cael eu cau yn peryglu byd natur Cymru.

Canolbwyntio ar y 'meysydd pwysicaf'

Ond dywedodd Cadeirydd CNC, Syr David Henshaw, y byddai'r newidiadau "yn ein helpu i wneud gwahaniaeth yn y meysydd pwysicaf".

"Mae'r broses hon nid yn unig yn bwysig o ran delio 芒 chyfyngiadau ariannol ond hefyd yn ymwneud 芒 rhoi CNC yn y sefyllfa orau i fynd i'r afael 芒'r materion amgylcheddol mwyaf dybryd."

Er y bydd rhai gweithgareddau'n cael eu "haddasu neu eu cyflwyno'n wahanol", bydd adnoddau ar gael i'w buddsoddi yn y meysydd pwysicaf - fel monitro a gwella ansawdd d诺r, meddai.

"Rydym yn hynod ddiolchgar am yr ymroddiad a'r gwytnwch y mae ein staff wedi'i ddangos drwy gydol y cyfnod hwn o newid,鈥 ychwanegodd Syr David.

鈥淩ydym yn deall bod cost bersonol i'r newidiadau hyn, ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein t卯m wrth i ni symud ymlaen.鈥

'Ased gwerthfawr'

Dywedodd cynghorydd Plaid Cymru dros ardal Coed y Brenin, Delyth Lloyd-Griffiths, ei fod yn "newyddion ofnadwy" i weithwyr a "phawb sy鈥檔 rhan o鈥檙 ymgyrch i atal cau鈥檙 ased lleol gwerthfawr hwn".

"Mae hefyd yn ergyd i鈥檙 economi leol a'r economi ymwelwyr ym Meirionnydd, y mae Coed y Brenin yn cyfrannu鈥檔 sylweddol tuag ato."

Pynciau cysylltiedig