Cynghrair y Cymru Premier i ehangu o 12 i 16 t卯m

Ffynhonnell y llun, FAW/Sam Eaden

Mae Cymdeithas B锚l-droed Cymru (CBDC) wedi cadarnhau y bydd nifer y timau yng nghynghrair y Cymru Premier yn cynyddu ymhen dwy flynedd.

O ddechrau tymor 2026/27 fe fydd y gynghrair yn ehangu o 12 i 16 t卯m.

Fe fydd strwythur y gystadleuaeth yn newid hefyd, gyda'r gynghrair yn cael ei rhannu yn dair haen ar 么l i bob clwb chwarae ei gilydd ddwywaith.

Yn 么l pennaeth cynghreiriau domestig CBDC, Jack Sharp, y nod yw "rhoi cyfle i'n clybiau ffynnu", a "chreu cynghrair y gallai'r wlad fod yn falch ohoni".

Ffynhonnell y llun, CBDC

Disgrifiad o'r llun, Fe fydd y gynghrair newydd yn rhannu i dair haen ar 么l i bob clwb chwarae 30 o gemau

Mae'r newidiadau yma'n rhan o strategaeth ehangach CBDC i gynyddu statws a phroffil masnachol y gynghrair, yn ogystal 芒 denu cynulleidfaoedd mwy.

Ym mis Ebrill daeth cadarnhad o'r bwriad i gyflwyno fersiwn mwy syml o VAR - VAR Lite - yn y Cymru Premier unwaith y mae'r cyfleusterau mewn lle.

Bydd mwy o gemau yn cael eu cynnal ar nosweithiau Gwener hefyd, mewn ymgais i ddenu cefnogwyr sy'n gwylio gemau Uwch Gynghrair Lloegr a'r Bencampwriaeth ar brynhawn Sadwrn.

Beth fydd yn newid?

Bydd nifer y timau yn cynyddu o 12 i 16 o ddechrau tymor 2026/27, ac fe fydd pob t卯m yn chwarae yn erbyn ei gilydd gartref ac oddi cartref.

Ar 么l cwblhau'r gemau hynny, fe fydd y gynghrair yn cael ei rhannu'n dair haen.

  • Y brif haen - bydd y timau sy'n gorffen yn y chwe safle uchaf yn chwarae yn erbyn ei gilydd unwaith eto. Fe fydd y t卯m sy'n gorffen ar y brig yn bencampwyr, a'r clybiau yn safleoedd 2-6 yn chwarae mewn gemau ail gyfle i sicrhau eu lle yn un o'r cystadlaethau Ewropeaidd.
  • Yr ail haen - bydd y clybiau sy'n gorffen yn safleoedd 7-10 yn chwarae ei gilydd unwaith eto, gyda'r t卯m sy'n gorffen yn seithfed yn hawlio'r lle olaf yn y gemau ail gyfle.
  • Y drydedd haen - bydd gweddill y clybiau - sy'n gorffen yn safleoedd 11-16 - hefyd yn chwarae yn erbyn ei gilydd unwaith eto. Fe fydd y ddau glwb sy'n gorffen ar waelod y tabl wedi'r gemau hynny yn disgyn o'r gynghrair. Fe fydd y clwb sy'n gorffen yn y 14eg safle yn chwarae mewn g锚m ail-gyfle yn erbyn enillydd g锚m ail-gyfle arall rhwng y timau a orffennodd yn ail yn y JD Cymru North a'r JD Cymru South.

Dadansoddiad

Dafydd Pritchard, Gohebydd Chwaraeon 成人快手 Cymru

Mae Cymdeithas B锚l-droed Cymru wedi bod yn cynllunio newidiadau ar gyfer Uwch Gynghrair Cymru ers amser maith, felly mae yna obaith mawr y bydd y fformat newydd yma yn llwyddiannus.

Yn ogystal 芒 chynyddu ap锚l y gystadleuaeth i gefnogwyr, noddwyr a鈥檙 cyfryngau, mae CBDC yn awyddus i wella perfformiadau clybiau Cymru yn Ewrop.

Ar hyn o bryd, dim ond cynghreiriau San Marino, Gibraltar, Andorra, Belarws a Gogledd Macedonia sydd yn is na鈥檙 Cymru Premier yn rhestr detholion UEFA o bob cynghrair yn Ewrop.

Mae鈥檙 ffaith bod y Seintiau Newydd am gystadlu yng Nghyngres UEFA eleni 鈥 y clwb dynion cyntaf erioed o Gymru i chwarae yn rownd y grwpiau 鈥 yn hwb i鈥檙 gred y gall Uwch Gynghrair Cymru godi o鈥檙 50fed safle yn rhestr detholion UEFA.

Er bod llwyddiant y Seintiau Newydd yn Ewrop yn rhywbeth i'w ddathlu yng Nghymru, mae鈥檙 ffordd maen nhw wedi dominyddu Uwch Gynghrair Cymru dros y blynyddoedd yn broblem.

Felly un o obeithion arall y CBDC wrth gyhoeddi鈥檙 newidiadau yma fydd i wneud y gynghrair yn un mwy cystadleuol yn y dyfodol.

Ffynhonnell y llun, PA Media

Disgrifiad o'r llun, Fe fydd y Seintiau Newydd, pencampwyr presennol y Cymru Premier, yn chwarae yng Nghyngres UEFA eleni

Dywedodd Jack Sharp, pennaeth cynghreiriau domestig CBDC eu bod yn "falch iawn o fod yn gallu rhannu fformat newydd JD Cymru Premier".

"Roedd hi'n bwysig nodi strwythur a fyddai'n caniat谩u i'n clybiau ffynnu, gan alluogi CBDC i weithio tuag at nodau strategaeth JD Cymru Premier a chael cynghrair y gall y wlad fod yn falch ohoni.

"Cynhaliwyd proses drylwyr yn seiliedig ar ddata er mwyn canfod y strwythur gorau.

"Roedd hi鈥檔 wych gweld ymateb cadarnhaol y clybiau wrth iddyn nhw dderbyn y fformat newydd a鈥檙 cyffro a ddaeth o鈥檙 cyfarfod diweddar gyda pherchnogion y clybiau.鈥

Bydd y gymdeithas yn rhyddhau rhagor o fanylion am fformat newydd JD Cymru Premier cyn dechrau tymor 2026/27.