Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Dynes o Sir G芒r yw'r enillydd Bake-Off cyntaf o Gymru
Mae dynes o Sir G芒r wedi cael ei choroni'n enillydd ar raglen deledu The Great British Bake-Off eleni, ar 么l rownd derfynol llawn cynnwrf nos Fawrth.
Yn nyrs bediatrig 34 oed, Georgie Grasso yw'r person cyntaf o Gymru erioed i ennill y gystadleuaeth goginio.
Dyma oedd y pymthegfed cyfres o'r rhaglen, ac roedd yn rhaid iddi gymryd rhan mewn 30 o heriau dros 10 pennod wahanol er mwyn dod yn fuddugol.
Wrth glywed ei bod wedi cyrraedd y brig, dywedodd Georgie: "Mae hyn yn lloerig! Dwi wedi ennill, dwi methu credu hyn."
Ar ddechrau'r broses, roedd 12 o gystadleuwyr yn brwydro'n erbyn ei gilydd yn y babell wen.
Ond dim ond tri ymgeisydd oedd ar 么l yn y gystadleuaeth erbyn pennod olaf y gyfres, gyda Christiaan a Dylan hefyd yn cystadlu i ennill.
Yn y sialensiau olaf, roedd gofyn iddynt greu sgons, te prynhawn, ac yn olaf cacen arbennig gyda gwahanol haenau.
Cafodd y bar ei osod yn uchel, ond Georgie ddaeth i'r brig.
Meddai
"Mae hyn yn golygu popeth i mi, dwi wastad wedi bod mor amheus o fy hun. Mae genna'i hwn a'r llall yn anghywir hefo fi, ac yn meddwl na alla'i ei wneud e, ac mae rhywun yn chwilio am esgusodion.
"Am unwaith, wnes i feddwl fy mod i'n mynd i fynd amdani, a rhoi popeth oedd gen i mewn iddo.
"Yn gweithio pob awr, mi wnes i aberthu amser gyda'r plant a'r teulu.
"Dwi mor falch o fi fy hun oherwydd dwi wedi profi y galla'i wneud e, a nawr dwi yma heddiw fel yr enillydd!"