Balch o fod y ddynes gyntaf i lywio cerbyd lansio RNLI Pwllheli

Disgrifiad o'r fideo, Dywedodd Lindsay Rees mai ei gobaith yw dylanwadu ar fwy o fenywod i ymuno 芒'r RNLI

Lindsay Rees yw'r fenyw gyntaf yn hanes gorsaf bad achub Pwllheli i lywio'r cerbyd lansio ers sefydlu'r gwasanaeth yno 133 o flynyddoedd yn 么l.

Ymunodd Ms Rees ag RNLI Pwllheli yn 2022 a dywed bod gwirfoddoli i鈥檙 RNLI yn rhywbeth "rydw i wedi bod eisiau ei wneud erioed".

"Rwy鈥檔 falch o fod yn rhoi rhywbeth yn 么l i fy nghymuned a gwneud fy mhlant yn falch o鈥檜 mam."

Wrth siarad ar Dros Frecwast dywedodd: 鈥淏e dwi鈥檔 'neud pan dwi鈥檔 codi鈥檔 bore ydi dwi鈥檔 sbio ar y tywydd, y llanw a鈥檙 gwynt a felly os dwi鈥檔 cael galwad, dwi鈥檔 gwybod sut fydd angen rhoi鈥檙 cwch yn y d诺r.

鈥淢ae o鈥檔 wahanol i yrru鈥檙 tool track, ond mae o鈥檔 hwyl hefyd ond be sy鈥檔 bwysig i fi ydi cadw pobl yn ddiogel.

鈥淧an o ni鈥檔 fach, oni鈥檔 sbio fyny i bobl yr RNLI a dyna pam o'n i isio bod yn rhan o鈥檙 criw. Y gwaith maen nhw鈥檔 neud i gadw ni鈥檔 saff ar y mor ac ar y lan. Dwi 'di edrych fyny iddyn nhw ers lot o amser.鈥

Ysbrydoli merched eraill

Ychwanegodd ei bod yn falch mai hi yw'r ddynes gyntaf yn hanes yr orsaf Pwllheli ond nad oedd hi'n gwybod mai hi oedd y gyntaf.

鈥淥'n i鈥檓 yn gwbod fi odd y ddynes gyntaf i wneud y gwaith yma ym Mhwllheli.

"Be o'n i isio 'neud o'dd cadw petha鈥檔 iawn a chadw petha鈥檔 ddiogel.

"Ond mae o鈥檔 dda a oni鈥檔 prowd o fy hun i fod y ddynes gyntaf i neud o a ella neith o gael merched eraill i joinio鈥檙 RNLI.鈥

"Y peth arall dwi isio neud, step arall ar 么l hyn ydi gyrru鈥檙 SLARS (Shannon launch and recover system).

鈥淒wi ar y t卯m codi arian hefyd a 'dan ni 'di bod yn brysur drwy鈥檙 haf.鈥