Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Croesawu rhaglen frechu RSV wedi salwch 'brawychus' mab
- Awdur, Luned Phillips a Sian Elin Dafydd
- Swydd, Newyddion 成人快手 Cymru
O ddydd Llun, mae mamau beichiog a phobl dros 75 oed yn cael gwahoddiad am frechiad i'w gwarchod rhag feirws RSV.
Mae'r feirws yn achosi rhwng 400-600 o farwolaethau ymhlith oedolion h欧n yng Nghymru bob blwyddyn.
Yn 么l Iechyd Cyhoeddus Cymru bydd y rhaglen frechu yn "achub bywydau" ac yn amddiffyn y rhai mwyaf bregus.
Pwysleisiodd un meddyg teulu o Gaerdydd, welodd ei fab ei hun yn mynd yn s芒l iawn gyda'r feirws, bwysigrwydd cael y brechiad.
Yn feddyg teulu yng Nghaerdydd, cafodd Dr Huw Williams a鈥檌 wraig Clare, brofiad 鈥渂rawychus鈥 ar ol i鈥檞 mab oedd bron yn flwydd oed ar y pryd, gael trafferthion anadlu.
Disgrifiodd sut y bu鈥檔 rhaid rhuthro Gethin i鈥檙 ysbyty a鈥檙 么l i鈥檞 gyflwr ddirywio鈥檔 gyflym.
鈥淚 ddechre, ro'dd e fel annwyd cyffredin, ro'dd ei drwyn e鈥檔 rhedeg, o'dd tymheredd da fe, o'dd ei foche fe鈥檔 goch, bach o beswch ond dim byd mwy difrifol 芒 hynny ond nath e fynd yn fwy s芒l yn rili gyflym.
鈥淩oedd ei anadlu e鈥檔 rili drwm ac roedd e鈥檔 anadlu鈥檔 swnllyd, ro'n i鈥檔 gallu clywed e drwy ddrws ei 鈥榮tafell wely,鈥 meddai.
鈥淵 peth mwya brawychus oedd y ffaith ei fod wedi mynd mor wael yn gyflym, mewn tua tair neu bedair awr a'th e o gael annwyd arferol i angen bod mewn ysbyty a chael ocsigen.鈥
Ar 么l cyrraedd yr ysbyty fe ddechreuodd Gethin anadlu'n wahanol.
鈥淩oedd e鈥檔 anadlu鈥檔 lot cyflymach nag oedd e' fel arfer, o'dd ei fola fe鈥檔 mynd mewn a mas yn rili gyflym i helpu fe anadlu,鈥 meddai Huw.
Ychwanegodd bod y croen yn cael ei sugno i mewn ac allan rhwng yr asennau oedd yn arwydd meddai o pa mor galed roedd Gethin yn gorfod gweithio i anadlu.
Dywedodd Huw eu bod nhw鈥檔 lwcus nad oedd y ward yn yr ysbyty yn brysur iawn ar y pryd.
鈥淩oedd angen ocsigen arno am rhyw bedair noson, a tase Gethin wedi gwaethygu byddai angen bod ar ventilator,鈥 meddai.
Bellach yn 14 oed, chafodd Gethin ddim sgil-effeithau ar ol dal RSV yn fabi, yn 么l ei dad.
Beth yw Feirws Syncytiol Anadlol (RSV)?
Yn 么l Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'n feirws heintus sy'n cylchredeg yn yr hydref a dechrau'r gaeaf.
I'r rhan fwyaf o bobl, symptomau tebyg i annwyd fyddan nhw'n ei brofi, ond mae'n gallu bod yn fwy difrifol i'r rhai mwyaf bregus, fel babanod ifanc, babanod sydd wedi eu geni'n gynnar, a phobol oedrannus.
Mae'n heintio'r rhan fwyaf o blant cyn iddyn nhw droi'n ddwy oed ac yn aml mae pobl yn ei ddal sawl gwaith yn ystod eu bywyd.
Mae RSV yn achosi rhwng 400-600 o farwolaethau ymhlith oedolion h欧n ac mae dros 1,000 o fabanod ifanc yng Nghymru yn cael eu cludo i'r ysbyty gyda'r feirws bob blwyddyn, yn 么l Iechyd Cyhoeddus Cymru.
'Newid mawr' o ran gwarchod rhag RSV
Dywedodd Dr Christopher Johnson, Dirprwy Gyfarwyddwr Diogelu Iechyd a Phennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ei fod yn gyffrous y bydd y brechlyn ar gael.
"I'r rhan fwyaf o bobol, bydd yn teimlo fel annwyd cyffredin, ond yn enwedig i fabanod ifanc iawn, wrth i'w hysgyfaint ddatblygu, mae'n gallu arwain at broblemau anadlu difrifol.
"Mae'r brechlyn, sy'n un newydd, wedi cael ei brofi, ac mae'n ddiogel ac effeithlon. Ac mae'n newid mawr mewn gwirionedd o ran gwarchod niwed rhag RSV".
Pwy sy'n gymwys?
Bydd y brechiadau yn cael eu cynnig i famau beichiog o 28 wythnos ymlaen. Bydd oedolion hefyd sydd wedi cael eu pen-blwydd yn 75 oed yn gymwys.
Yn 么l Iechyd Cyhoeddus Cymru, bydd yr unigolion yn cael gwahoddiad uniongyrchol, neu'n cael eu cyfeirio gan eu bydwraig yn ystod clinigau cyn geni, o heddiw ymlaen.
Doedd Sophie Grimaldi, sy'n fam 31 oed o Gasnewydd, erioed wedi clywed am RSV, na chwaith yn gwybod pa symtomau i fod yn ymwybodol ohonyn nhw.
Mae ei phlentyn cyntaf, Evan bron yn 5 mis oed, ac fe ddewisodd hi i dderbyn brechiadau am heintiau eraill tra'r oedd hi'n feichiog.
"Fi'n credu os yw e'n cael ei argymell, dylech chi gymeryd nhw [brechiadau]... Unrhywbeth sy'n helpu'r babi i aros yn iach, a hapus, mae'n beth da.
"Dwi wedi gweld bod rhai pobol eraill sydd ddim cweit mor bositif amdanyn nhw, ond dwi'n meddwl, pawb at y peth y bo," ychwanegodd.
Brechlyn yn 'newyddion gwych'
Yn 么l Dr Mair Parry, pediatregydd ymgynghorol yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor, mi all y feirws yn yr achosion mwyaf difrifol arwain at blant ifanc yn "datblygu salwch difrifol fel bronciolitis a niwmonia a chael eu derbyn i'r ysbyty i gael help gydag anadlu a bwydo...
"Bydd y brechlyn hwn yn helpu i leihau'n sylweddol y siawns y bydd plant ifanc 鈥 a phobl h欧n 鈥 yn mynd yn s芒l ac angen dod i'r ysbyty," ychwanegodd.
Yn 么l Ysgrifennydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru, Mark Drakeford, gallai'r brechlyn hwn "helpu i leddfu'r rhywfaint o bwysau'r gaeaf a brofir gan y GIG".
Mae'r Dr Huw Williams yn disgwyl cyfnod prysur yn ei feddygfa dros fisoedd y gaeaf.
鈥淩hwng diwedd mis Hydref a Chwefror, fyddai鈥檔 gweld dwsinau o bobl bob dydd gyda symptomau tebyg,鈥 meddai.
鈥淢ae鈥檔 chwaer i鈥檔 feddyg plant yn Llundain ac mae hi鈥檔 dweud 'na gyd ma hi鈥檔 neud rhwng Tachwedd a Chwefror yw gweld plant gyda RSV.
鈥淣i gyd yn edrych mlaen i gael y brechiadau mewn i freichiau pobl.鈥