Cynnig 拢5,000 i bobl ddychwelyd i gadarnleoedd y Gymraeg
- Cyhoeddwyd
Mae grant o 拢5,000 yn cael ei gynnig i deuluoedd sydd am ddychwelyd i gadarnleoedd yr iaith Gymraeg yn y gogledd a'r gorllewin.
Mae'r cynnig, gan brosiect Llwyddo'n Lleol, ar gael ar gyfer pobl sydd wedi symud i ffwrdd, ond sydd eisiau dychwelyd i ranbarth Arfor - siroedd Gwynedd, M么n, Ceredigion a Chaerfyrddin.
Y nod yw ei gwneud hi'n haws i deuluoedd symud yn 么l i'r ardal.
Mae Llwyddo'n Lleol yn dweud y gallai'r grant gael ei ddefnyddio ar gyfer materion fel "costau cludiant, costau rhent neu forgais, costau gwarchod plant, neu wersi Cymraeg hyd yn oed".
Y grant 'yn gatalydd' i symud n么l
Un teulu sydd eisoes wedi elwa o gymorth cynllun Ymgartrefu ydy un Huw Brassington, sy'n wreiddiol o Wynedd ond sydd wedi bod yn byw yn Cumbria yng ngogledd Lloegr ers rhai blynyddoedd.
Yn adnabyddus i nifer fel rhedwr mynydd a chyflwynydd i S4C, peiriannydd yw ei waith o ddydd i ddydd.
"'Da ni ar fin symud n么l i Gymru, a ma' grant Llwyddo'n Lleol wedi'i 'neud o'n haws i ni 'neud y penderfyniad yna," meddai.
"Yn y diwedd dyna oedd y catalyst mewn ffordd i ni ddod n么l."
Bydd yn cadw ei swydd gyda chwmni Tenets Design Consultants ac yn gweithio o ogledd Cymru, ond bydd hefyd yn chwilio am bobl eraill i weithio i'r cwmni yng Nghymru.
"Mae hynny鈥檔 rhan o effaith grant Llwyddo鈥檔 Lleol," meddai
"Mae 鈥檔a swyddi da i bobl eraill yng ngogledd Cymru wedi dod ohono fo.鈥
Pwy sy'n gymwys am y grant?
Mae'n rhaid i ymgeiswyr fodloni'r gofynion canlynol i fod yn gymwys:
Cyplau/teuluoedd sydd ag o leiaf un oedolyn 35 oed neu iau;
Cyplau/teuluoedd sydd ag o leiaf un aelod sy鈥檔 dod yn wreiddiol o ranbarth Arfor ond sydd bellach yn byw y tu hwnt i鈥檙 siroedd hyn;
Bod yn unigolyn sy鈥檔 medru鈥檙 Gymraeg neu wedi ymrwymo i ddysgu鈥檙 iaith, neu鈥檔 deulu sydd ag un aelod sy鈥檔 siarad ac/neu yn dysgu Cymraeg;
Yn gallu ymrwymo i ddychwelyd i ranbarth Arfor erbyn mis Mawrth 2025;
Yn hapus i rannu eu profiad o symud yn 么l ar gamera.
Mae Llwyddo'n Lleol yn dweud fod "rhywfaint o hyblygrwydd" ynghylch y gofynion, ac yn annog unrhyw un sy'n awyddus i gymryd rhan yn y prosiect ond sydd ddim yn bodloni'r holl fanylion i gysylltu 芒 nhw.
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2022
- Cyhoeddwyd8 Awst
Dywedodd Llwyddo'n Lleol fod "allfudo teuluoedd a phobl ifanc yn cael ei gydnabod fel un o鈥檙 prif resymau am y dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn ei chadarnleoedd".
"O ganlyniad, un o amcanion Llwyddo鈥檔 Lleol 2050 yw darbwyllo pobl ifanc a theuluoedd ifanc sydd eisoes wedi gadael fod modd cael dyfodol disglair, gyda swydd dda mewn maes cyffrous, yn eu cymuned gynhenid."
'Gweithio ar stepen fy nrws'
Yn ogystal 芒 phrosiect newydd Ymgartrefu, mae Llwyddo'n Lleol yn dweud eu bod eisoes yn denu pobl yn 么l i gadarnleoedd y Gymraeg trwy eu prosiectau Mentro a Gyrfaol.
Dywedon nhw fod wyth unigolyn a dderbyniodd gymorth gan elfen Gyrfaol Llwyddo'n Lleol wedi dychwelyd i Arfor o ganlyniad i'w swyddi.
Un o'r rheiny ydy Sioned Meleri Evans, sydd wedi dychwelyd i Sir G芒r i fod yn is-gynhyrchydd gyda chwmni Carlam.
鈥淒wi鈥檔 lwcus iawn achos dwi wedi gallu dod 鈥檔么l adref i Sir G芒r i weithio ar stepen fy nrws i Carlam," meddai
"Mae'r cwmni wedi'i leoli yn yr Egin, ac mae hyn wedi fy ngalluogi i fod yn agosach at fy nheulu a ffrindiau.鈥