Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
M么n: Cynllun fferm solar fwyaf Cymru yn 'ddychrynllyd'
- Awdur, Gareth Wyn Williams
- Swydd, 成人快手 Cymru
Mae rhai o drigolion gogledd M么n wedi disgrifio cynllun i adeiladu fferm solar fydd yr un maint 芒 thua 1,700 o gaeau p锚l-droed fel un "dychrynllyd o fawr".
Bwriad Lightsource bp yw codi'r paneli solar ar draws tri safle, fyddai'n cynhyrchu digon o ynni gwyrdd i gynnal dros 130,000 o gartrefi.
Mae hyn bron gyfystyr 芒'r nifer o dai yn siroedd M么n, Gwynedd a Chonwy gyda'i gilydd.
Gyda chapasiti o 350MW, byddai datblygiad Maen Hir聽bron bum gwaith yn fwy na'r fferm solar weithredol fwyaf yn y DU.
Yn 么l y cwmni byddai'r prosiect solar a storio ynni - fydd angen caniat芒d cynllunio gan Lywodraeth y DU oherwydd ei faint - yn ffordd o helpu i gyrraedd targedau sero net Llywodraeth Cymru.
Ychwanegon nhw fod bwriad i fuddsoddi mewn sgiliau, addysg a swyddi ar yr ynys.
Ond mae eisoes gwrthwynebiad yn lleol oherwydd ei faint a phryderon dros golli cymaint o dir amaethyddol o safon.
Nid dyma'r datblygiad solar cyntaf ar yr ynys o bell ffordd.
Yn ddiweddar fe gafodd datblygiad 49.9MW, dros 190 acer, ei adeiladu ger Rhosgoch.
Yn ogystal 芒 hynny, cafodd datblygiad 35 MW ei ganiat谩u i orchuddio tua 150 erw ger pentrefi Bryngwran a Chaergeiliog.
Ond gan fod y fferm solar arfaethedig mor fawr, gyda'r disgwyl y bydd yn cynhyrchu dros 350MW, mae'n cael ei ystyried fel Prosiect Seilwaith o Arwyddoc芒d Cenedlaethol (NSIP).
Mae hyn yn golygu mai Gweinidogion Llywodraeth y DU, yn hytrach na Chyngor M么n neu Lywodraeth Cymru fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol, yn seiliedig ar argymhelliad yr Arolygiaeth Gynllunio.
Byddai'r paneli yn cael eu rhannu ar draws tri safle, gydag un yn Rhosgoch.
Byddai'r ddau arall i'r de o Lannerch-y-medd ac ar lan ogleddol Llyn Alaw.
'Colli tir da'
Mae William Hughes, neu Wil Betws fel mae llawer yn ei adnabod, yn byw ger y safle lle maen nhw'n bwriadu adeiladu rhai o'r paneli.
Y llynedd, ond dafliad carreg i ffwrdd, fe gafodd datblygiad paneli solar arall ei adeiladu ar dros 200 erw o dir.
Ag yntau wedi bod yn ffermio yn yr ardal am dros 50 mlynedd, dywedodd ei fod yn pryderu byddai'n golygu colli mwy o dir amaethyddol da.
"Mae'r cynllun yma wedi dod fel dipyn o fraw i mi," meddai.
"Y broblem fwya' dwi'n weld yw ein bod yn colli tir da yma ym M么n.
"Mae hwnnw'n broblem gen i, a phan fyddan nhw'n clirio nhw o 'ma, faint o flynyddoedd gymrith hi i ddod a'r tir yn 么l i'w gyflwr gwreiddiol?"
Aeth ymlaen i gwestiynu: "Ydy o am gymryd gwerth oddi ar ein tai ni? 'Da ni'n byw mewn lle mor braf a dyla' ni geisio ei gadw mor braf a thwt a threfnus."
Ond pwysleisiodd nad oedd ganddo wrthwynebiad personol i baneli solar, "cyn belled 芒'u bod yn y lle iawn".
"Mae 'na le i baneli solar, does gen i ddim dowt am hynny.
"Fysa gen i ddim gwrthwynebiad i roi solar panel ar ben bob t欧 ym M么n, bob cwt a bob dim," ychwanegodd.
"Ond colli'r tir 'ma? Hwn ydy fy mhroblem i."
'Adnabod y tir fwyaf priodol'
Yn 么l Lightsource bp, sy'n gyfrifol am y cynllun, byddai'r datblygiad yn gwneud cyfraniad sylweddol i ymdrechion Llywodraeth Cymru i gyrraedd targed sero net erbyn 2050.
Ar hyn o bryd y datblygiad mwyaf o'i fath yn y DU yw Fferm Solar Llanwern, sydd 芒 chapasiti o 75MW.
Fel mae'n sefyll byddai prosiect Maen Hir bron bum gwaith yn fwy na Llanwern, ond mae datblygiad o faint tebyg eisoes yn cael ei adeiladu rhwng Faversham a Whitstable yng Nghaint ar gost o thua 拢450m.
Dywedodd llefarydd ar ran Lightsource bp eu bod yn "parchu fod pryderon yn lleol", ond mai cychwyn y broses oedd hon.
Y disgwyl yw bydd y tir dal ar gael ar gyfer pori hyd yn oed ar 么l codi'r paneli, gyda mesurau sgrinio ychwanegol i liniaru'r effeithiau gweledol.
"Mae gwaith yn cael ei wneud i adnabod y tir fwyaf priodol sydd ar gael i ni i'w ddatblygu cyn cynnal ymgynghoriad yn ddiweddarach eleni," meddai'r cwmni.
"Rydym hefyd yn gweithio ar fferm solar gymunedol 5MW er budd yr ardal leol, ac yn ymchwilio i gyfleoedd i fuddsoddi mewn sgiliau, addysg a swyddi ar yr ynys."
Dywedon nhw eu bod am "sicrhau bod pobl sy鈥檔 byw ac yn gweithio yn yr ardal yn cael y cyfle i lywio a dylanwadu ar ddatblygiad ein cynigion" gan annog pobl leol i fanteisio ar yr ymgynghoriad.
'Mae'n dychryn rhywun'
Er ei fod yn gynnar iawn yn y broses gynllunio, gyda dim disgwyl cais llawn tan y flwyddyn nesaf, mae'r cynlluniau eisoes wedi eu trafod gan rai o gynghorau cymuned yr ardal.
Yn eu mysg mae Cyngor Tref Amlwch, sydd wedi anfon llythyr yn datgan eu gwrthwynebiad.
Dywedodd cadeirydd y cyngor, Gareth Winston Roberts, fod "teimladau cryf iawn" ac nad oedd cynlluniau solar eraill wedi creu swyddi mawr yn yr ardal.
Dywedodd ei fod yn "poeni am y transmission, os fydd hon yn mynd ar y lein 400KV ar draws Ynys M么n fydd na le i Wylfa Newydd? Yn enwedig hefo un yn cyflogi miloedd ac un yn cyflogi dim".
Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn "annheg" nad Llywodraeth Cymru na'r cynghorau lleol sy'n cael gwneud y penderfyniad.
"Pa effaith mae am gael ar bobl gyfagos? Mae hi mor fawr a dwi'n meddwl fod hi'r mwyaf ym Mhrydain, ac mae hynny'n dychryn rhywun.
"Hefyd fydd o'm yn dod 芒 llawer iawn o fudd i'r gymdeithas leol, peanuts maen nhw'n dalu a peanuts 'da ni'n gael."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor M么n y byddai'r awdurdod yn datgan barn ar unrhyw ddatblygiad arfaethedig fel rhan o'r broses cynllunio.
Ond does dim disgwyl penderfyniad terfynol am flynyddoedd o bosib, gyda gweinidogion Llywodraeth y DU i wneud y penderfyniad yn seiliedig ar argymhelliad yr Arolygaeth Gynllunio.
Yr her iddyn nhw fydd cydbwyso'r angen am ynni gwyrdd gyda鈥檙 pryderon dros effaith cynlluniau o'r fath.