Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cartrefu Afghaniaid mewn gwersyll milwrol yng Nghymru
Bydd gwersyll milwrol yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio i gartrefu pobl sy'n ffoi rhag y Taliban yn Afghanistan, a beryglodd eu bywydau i gefnogi'r DU.
Bydd East Camp, un o stadau tai鈥檙 Weinyddiaeth Amddiffyn (MoD) yn Sain Tathan ym Mro Morgannwg, yn gartref i 50 o bobl erbyn diwedd y mis, gyda mwy i ymuno 芒 nhw ganol mis Ebrill.
Fe fydd y safle, sy'n gallu cartrefu uchafswm o 180 o bobl, yn cael ei ddefnyddio gan deuluoedd sy'n gymwys o dan y Polisi Adleoli a Chymorth Afghanistan (ARAP).
Mae ARAP yn cefnogi pobl a鈥檜 teuluoedd oedd yn gweithio i, neu gyda, Llywodraeth y DU a lluoedd arfog Prydain yn Afghanistan fel cyfieithwyr.
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn: 鈥淢ae ein dyled yn fawr i鈥檙 Afghaniaid dewr a beryglodd eu bywydau wrth weithio ochr yn ochr 芒鈥檔 lluoedd i gefnogi cenhadaeth y DU."
Ychwanegodd: 鈥淓r mwyn sicrhau bod teuluoedd sy鈥檔 gymwys i ARAP yn gallu dechrau bywyd sefydlog yn y DU cyn gynted 芒 phosibl, mae Llywodraeth y DU yn cynnig llety sefydlog o鈥檙 Yst芒d Amddiffyn, gan gynnwys yn East Camp Sain Tathan.
鈥淏ydd Afghaniaid cymwys yn cael eu cartrefu yno dros dro am gyfnod o tua chwe wythnos cyn symud i lety mwy sefydlog.鈥
Gall dinasyddion Afghanistan sy'n gymwys i'w hadleoli i'r DU o dan ARAP ddod gyda phartner, plant dibynnol ac aelodau ychwanegol o'r teulu sy'n cael eu hystyried yn gymwys gan y Weinyddiaeth Amddiffyn ac sy'n addas i'w hadleoli gan y Swyddfa Gartref.
Mae gan y rhai sy鈥檔 cyrraedd y DU o dan gynllun ARAP ganiat芒d amhenodol i aros yn y DU.
Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn eu bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Bro Morgannwg i sicrhau bod y prosiect yn cael ei reoli "gyda phawb mewn golwg", yn enwedig y rhai sy'n byw yn lleol.
Dywedodd y Cyrnol Sion Walker, sy'n rheoli'r safle, wrth y 成人快手 mai teuluoedd fyddai'n cael eu cartrefu yno.
鈥淢ae鈥檙 gr诺p cyntaf yno nawr yn Sain Tathan, yn aros am lety mwy parhaol yn y dyfodol agos," meddai.
鈥淩ydyn ni鈥檔 gweithio ar amserlen o tua chwech i wyth wythnos, gan ddod 芒鈥檙 teuluoedd i mewn, ac rydyn ni鈥檔 eu helpu nhw i gael pethau fel cyfrifon banc a phethau eraill sydd eu hangen arnyn nhw i fyw yn y DU.
"Mae gan y bobl yma hawl i fod yma ac i setlo yma."
Ychwanegodd y byddai rhai ohonynt wedi gweithio gyda milwyr o Gymru yn Afghanistan.
"Mae cysylltiad cryf rhyngon ni yn y fyddin ac unrhyw un sy'n dod draw.
"Ni'n gweld bod eisiau gwneud hyn er mwyn eu talu nhw n么l am be' 'naethon nhw i helpu ni."
'Pwysig bod pobl yn deall'
Dywedodd y Cyrnol Walker fod protestiadau yn "ychydig" o bryder, ac mai dyma pam maen nhw'n gofyn i'r cyhoedd i werthfawrogi mai pobl sydd wedi helpu'r DU yn Afghanistan yw'r rheiny fydd yn Sain Tathan.
"Maen nhw wedi gorfod dianc o Afghanistan - doedden nhw ddim moyn gwneud hynny - achos pe bydden nhw wedi aros, bydden nhw fwy na thebyg wedi colli eu bywydau.
"Dyna pam maen nhw wedi dod draw i fan hyn, ac mae'n bwysig bod pobl yn deall 'na.
"Mae'n bwysig hefyd bod pobl yn deall bo' nhw ddim am fod yn yr ardal yma am byth.
"Maen nhw'n bobl sydd moyn gweithio, moyn dysgu am Brydain, moyn gwella eu Saesneg nhw, ac i'r rhai fydd yn aros yng Nghymru, efallai y byddan nhw'n dysgu Cymraeg hefyd gobeithio - yn enwedig y plant."
'Integreiddio鈥檔 effeithiol'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: 鈥淵 Weinyddiaeth Amddiffyn sy鈥檔 gyfrifol am ddarparu llety dros dro cychwynnol i Bersonau Cymwys Afghanistan.
鈥淩ydym yn gweithio鈥檔 adeiladol gyda鈥檙 Weinyddiaeth Amddiffyn i sicrhau bod unrhyw Bersonau Cymwys o Afghanistan sy鈥檔 cael eu hadleoli i Gymru yn gallu integreiddio鈥檔 effeithiol.鈥