成人快手

Siom i Gymru yn erbyn De Affrica

Jesse KrielFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Fe sgoriodd Jesse Kriel gais i Dde Affrica yn y munudau cyntaf

  • Cyhoeddwyd

Colli oedd hanes Cymru yn erbyn pencampwyr y byd, De Affrica mewn g锚m arbrofol yn Twickenham brynhawn Sadwrn.

Hon oedd g锚m gyntaf t卯m Warren Gatland ers iddyn nhw gael y llwy bren yn y Chwe Gwlad eleni.

Sgoriodd De Affrica bum cais yn ystod y g锚m.

Fe ildiodd Cymru ddau gais a chael dau gerdyn melyn yn ystod 15 munud cynta'r g锚m.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Y dyfarnwr Chris Busby yn rhoi cerdyn melyn i'r Cymro, Rio Dyer

Fe sgoriodd Jesse Kriel o Dde Affrica gais yn y munudau cyntaf, cyn i Gymru sgorio triphwynt gyda chic gosb.

Bu bron i Evan Roos sgorio cais, cyn cael ei daclo gan y Cymro Rio Dyer, gafodd gerdyn melyn.

Aeth Cymru wedyn lawr i 13 dyn wrth i Aaron Wainwright gael ei anfon i'r gell gosb gyda cherdyn melyn.

Cafodd De Affrica gais cosb gan godi'r sg么r i 14-3 ac er bod cyfle i Gymru sgorio pwyntiau, fe fethodd Sam Costelow gic gosb.

Ond er bod Cymru lawr i 13 dyn, wnaethon nhw ddim ildio yr un pwynt.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Yn y 15 munud cyntaf, fe ildiodd Cymru ddau gais a chael dau gerdyn melyn ond pwynt oedd ynddi ar yr hanner

Daeth hwb i Gymru wrth i Dewi Lake fynd heibio Faf de Klerk a sgorio eu hunig cais o'r g锚m.

Pwynt oedd rhwng Cymru a De Affrica wrth i Costelow sgorio cic gosb.

Bu bron i Gymru sgorio cais arall ym munudau ola'r hanner cyntaf wrth i Liam Williams basio'r b锚l i Cameron Winnett ond cafodd y b锚l ei tharo ymlaen.

Y sg么r ar yr hanner oedd De Affrica 14-13 Cymru.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Jordan Hendrikse a Liam Williams yn ceisio dal p锚l uchel

Ond roedd 'na ddechrau siomedig i Gymru yn ystod deg munud cynta'r ail hanner wrth i Makazole Mapimpmi sgorio cais, cyn i Jordan Hendrikse sgorio cic gosb.

Daeth Cymru'n agos at gael cais ond doedd dim delwedd glir o'r b锚l yn croesi'r llinell.

Sgoriodd De Affrica eu pedwerydd cais wrth i Bongi Mbonambi groesi'r llinell cyn i Edwill van der Merwe sgorio cais arall.

Y sg么r terfynol oedd De Affrica 41-13 Cymru.