Galw am wahardd e-sigar茅ts untro yng ngwyliau Cymru

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Ash Cymru o鈥檙 farn bod vapes untro yn arf bwysig i helpu pobl i roi鈥檙 gorau i ysmygu
  • Awdur, Lleu Bleddyn
  • Swydd, 成人快手 Cymru

Mae elusen amgylcheddol wedi galw ar ddigwyddiadau a gwyliau yng Nghymru i wahardd e-sigar茅ts, neu vapes, untro.

Daw hyn wedi i awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr alw am eu gwahardd yn llwyr erbyn 2024.

Dywedodd Cadwch Gymru鈥檔 Daclus wrth raglen Newyddion S4C ei bod yn 鈥渂roblem sydd wedi tyfu yn syfrdanol dros y blynyddoedd diwethaf".

Tra bod Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn edrych ar ffyrdd i'w gwneud hi鈥檔 haws i ailgylchu eitemau o鈥檙 fath, mae Ash Cymru o鈥檙 farn bod vapes untro yn arf bwysig i helpu pobl i roi鈥檙 gorau i ysmygu.

Disgrifiad o'r llun, Mae Owen Derbyshire yn galw ar sefydliadau a gwyliau i ystyried gwahardd e-sigar茅ts untro

鈥淯n peth fyswn i wir yn croesawu yw bod sefydliadau a gwyliau yn ystyried gwahardd vapes untro,鈥 meddai Owen Derbyshire, prif weithredwr Cadwch Gymru鈥檔 Daclus.

Fe wnaeth arolwg gan yr elusen ganfod vapes untro ar 20% o strydoedd Caerdydd eleni, a 6% o strydoedd Abertawe y llynedd.

鈥淩y'n ni fatha sefydliad ddim yn erbyn vapeio - y broblem sydd gennym ni, oherwydd y plastig caled a鈥檙 batris o fewn y vapes, ni鈥檔 gweld yr effaith uniongyrchol ar ein hamgylchedd, ar ein bywyd gwyllt a bioamrywiaeth Cymru," meddai Mr Derbyshire.

鈥淢a' hwn yn broblem sydd 'di tyfu yn syfrdanol dros y blynyddoedd diwethaf.鈥

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Bydd y Sioe Frenhinol yn gwahardd plastig untro am y tro cyntaf yr wythnos nesaf

Fis diwethaf ychwanegodd g诺yl Glastonbury vapes untro i鈥檞 rhestr o bethau i beidio 芒 dod i鈥檙 诺yl, ac yng Nghymru mae G诺yl y Dyn Gwyrdd a鈥檙 Eisteddfod Genedlaethol wedi dweud eu bod nhw'n adolygu eu rhestrau o bethau sydd wedi'u gwahardd cyn y digwyddiadau eleni.

Fel rhan o bolisi gwyrdd ehangach, bydd y Sioe Frenhinol yn gwahardd plastig untro am y tro cyntaf yr wythnos nesaf.

鈥淣i yn y broses o ddatblygu polisi newydd, gan annog ein stondinwyr ac arlwywyr i dorri ar y defnydd o blastig a defnyddio pecynnau sy鈥檔 hawdd i鈥檞 compostio a鈥檜 hailgylchu,鈥 eglurodd Aled Rhys Jones, prif weithredwr y Sioe Frenhinol.

鈥淵r uchelgais yw sicrhau ein bod ni鈥檔 niwtral o ran effaith ar yr amgylchedd, a ma鈥 hynny鈥檔 golygu fod pobl yn gorfod dod gyda ni ar y siwrne yna.鈥

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Aled Rhys Jones y bydd y Sioe Frenhinol yn adolygu eu polisi ar vapes ar gyfer y dyfodol

Fel rhan o鈥檙 polisi mae holl drydan y maes bellach hefyd yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, ac mae鈥檙 gymdeithas wedi comisiynu Prifysgol Caerdydd i gynnal adolygiad o gynaliadwyedd amgylcheddol y digwyddiad.

鈥溾楧an ni鈥檔 ymwybodol bod digwyddiadau eraill wedi cymryd safbwynt cadarn ar vapes. 鈥楧a ni鈥檔 mynd i edrych yn fanwl ar hyn wythnos y sioe," meddai Mr Jones.

鈥淢a鈥 鈥榥a lwyth o bethau allwn ni wneud fel Cymdeithas Amaethyddol, fel sioe, i leihau ein heffaith ar yr amgylchedd.

"Ond pa fesurau sy鈥檔 mynd i wneud yr effaith fwya', a falle byddwn ni yn edrych ar beth yw鈥檔 polisi ni ar gyfer vapes wrth i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol.鈥

'Y brif ddyfais i stopio ysmygu'

Ond yn 么l elusen sy'n helpu pobl i roi鈥檙 gorau i ysmygu, mae angen ystyried buddion vapes untro.

Dywedodd Suzanne Cass, prif weithredwr Ash Cymru: 鈥淩ydym yn deall y pryderon am effaith amgylcheddol vapes untro, ond ein pryder ni yw鈥檙 canlyniadau fyddai unrhyw fath o waharddiad yn ei gael ar y bobl sy'n ceisio rhoi'r gorau i ysmygu.

Vapes yw'r brif ddyfais i bobl sydd am roi'r gorau i ysmygu.

鈥淒ylai unrhyw le lle mae pobl yn ymgynnull mewn niferoedd mawr gael mannau ailgylchu ar gyfer eitemau tebyg, oherwydd pan ma鈥 nhw鈥檔 cael eu hailgylchu'n iawn - yn yr un modd 芒 batris - ma鈥 nhw鈥檔 llai niweidiol i'r amgylchedd.鈥

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn adolygu'r gofynion cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr ar lefel y DU o ran gwastraff electroneg gan gynnwys vapes.

"Byddwn yn edrych ar ffyrdd o gynyddu casglu gwastraff trydanol bach o gartrefi a busnesau i'w gwneud yn haws i bobl ailgylchu'r eitemau hyn."