Oriel: Gorymdaith Pride yn dod i F么n

Ffynhonnell y llun, Arwyn Herald

Disgrifiad o'r llun, Gorymdaith Pride yn teithio drwy ganol tref Llangefni

Am y tro cyntaf erioed roedd tref Llangefni ar Ynys M么n yn cynnal g诺yl Pride Gogledd Cymru.

Dyw'r dathliadau yng Nghymru erioed wedi gadael y tir mawr, ond ers 2021 mae'r 诺yl wedi bod yn un deithiol, ers cael ei chynnal ym Mangor yn flynyddol ers 2012.

Yng nghanol y glaw daeth dros 200 o bobl ynghyd i orymdeithio drwy strydoedd y dref ac i fwynhau cerddoriaeth fyw a digwyddiadau celfyddydol.

Aeth Arwyn 'Herald' Roberts yno ar ran 成人快手 Cymru Fyw i ddal y cyfan drwy lygaid ei gamera.

Ffynhonnell y llun, Arwyn Herald

Disgrifiad o'r llun, Er gwaethaf y glaw, fe wnaeth tua 200 o bobl fentro allan i gerdded

Ffynhonnell y llun, Arwyn Herald

Disgrifiad o'r llun, Roedd 'Leather Men Cymru' wedi teithio i fyny o'r de i fod yn Llangefni

Ffynhonnell y llun, Arwyn Herald

Disgrifiad o'r llun, Axel Roxxanne o dref gyfagos Caergybi

Ffynhonnell y llun, Arwyn Herald

Disgrifiad o'r llun, Roedd Mair a Lucy o Bentraeth, oedd wedi bod yn rhan o gyfres Priodas Pum Mil ar S4C, wedi teithio yno gyda'u merch

Ffynhonnell y llun, Arwyn Herald

Disgrifiad o'r llun, Dylan Huw, Elgan Rhys a Nico'r ci o Gaernarfon

Ffynhonnell y llun, Arwyn Herald

Disgrifiad o'r llun, Daeth criw Gwasanaeth T芒n ac Achub Gogledd Cymru allan i fwynhau'r digwyddiad, mewn gwisg fwy lliwgar na'r arfer

Ffynhonnell y llun, Arwyn Herald

Disgrifiad o'r llun, Roedd AS Ynys M么n, Llinos Medi wedi ymweld 芒'r digwyddiad, ynghyd 芒'r actor Gwion Morris a'i deulu

Ffynhonnell y llun, Arwyn Herald

Disgrifiad o'r llun, Roedd Jamie a Matthew wedi teithio o Fae Colwyn i fod yn bresennol

Ffynhonnell y llun, Arwyn Herald

Disgrifiad o'r llun, Roedd sawl ymbarel lliwgar i'w gweld ar hyd yr orymdaith wrth i'r glaw ddisgyn yn drwm yn Llangefni

Ffynhonnell y llun, Arwyn Herald

Disgrifiad o'r llun, Roedd criw o staff o archfarchnad leol wedi troi allan gyda'u ymbarels i oroesi'r glaw

Ffynhonnell y llun, Arwyn Herald

Disgrifiad o'r llun, Gethin, Reece, Huw a Greg o Ynys M么n yn mwynhau peint yn y glaw yn Llangefni