Mwy o amheuon am gynllun trydanu rheilffordd y gogledd

Ffynhonnell y llun, bbc

Disgrifiad o'r llun, Fe gafodd y cynllun trydanu ei gyhoeddi gan Rishi Sunak fis Hydref y llynedd

Mae amheuon o'r newydd am ddyfodol cynllun 拢1bn i drydaneiddio rheilffordd Gogledd Cymru, ar 么l i Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens ddweud ei bod hi鈥檔 鈥渁mau nad yw鈥檙 arian yna鈥.

Mae Llywodraeth Lafur newydd y DU yn ystyried dyfodol gwahanol gynlluniau isadeiledd ar hyn o bryd, wedi i adolygiad diweddar o wariant ddarganfod fod yna ddiffyg yn y cyfrifon o tua 拢22bn.

Roedd y cynllun trydaneddio yn y gogledd yn rhan ganolog o gynlluniau trafnidiaeth llywodraeth flaenorol y DU, oedd yn cael ei harwain gan y Ceidwadwyr.

Mae cwestiynau wedi codi yn y gorffennol am ddyfodol y cynllun wedi iddi ddod i'r amlwg nad oedd unrhyw ddatblygiad ffurfiol wedi cael ei wneud ar y cynllun ers 2013.

Ffynhonnell y llun, PA

Disgrifiad o'r llun, Arian yn sgil cwtogi cynllun HS2 oedd fod i gyllido'r cynllun trydanu

Cafodd cynlluniau i drydaneiddio prif reilffordd Gogledd Cymru eu cyhoeddi ym mis Hydref y llynedd gan y prif weinidog ar y pryd, Rishi Sunak, gydag un o鈥檌 weinidogion yn rhoi 鈥渁ddewid cadarn鈥 y byddai'r cynlluniau'n cael eu gwireddu.

Dywedodd y byddai鈥檙 cynllun yn cael ei gyllido yn sgil cwtogi cynllun rheilffordd HS2 rhwng Birmingham a Manceinion.

Ond dyw National Rail dal heb dderbyn y llythyr angenrheidiol gan yr Adran Drafnidiaeth sy鈥檔 cadarnhau bod arian ar gael a bod modd symud ymlaen gyda鈥檙 cynllun.

Dydy seilwaith y rheilffyrdd ddim yn faes sydd wedi ei ddatganoli felly Llywodraeth y DU sy鈥檔 gyfrifol amdano, nid Llywodraeth Cymru.

'Amheus iawn iawn'

Ddydd Llun, fe gyhoeddodd y Canghellor newydd, Rachel Reeves, adolygiad gwariant oedd yn nodi ei bod wedi canfod diffyg o tua 拢22bn yn y cyfrifon 鈥 honiad sy鈥檔 cael ei wadu鈥檔 chwyrn gan y Ceidwadwyr.

Fel rhan o鈥檙 adolygiad, mae ysgrifennydd trafnidiaeth llywodraeth y DU, Louise Haigh, yn ystyried dyfodol yr holl brosiectau y mae hi'n gyfrifol amdanynt.

Mewn sgwrs gyda Radio Wales Breakfast fore Mawrth, awgrymodd Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens fod cofnodion ariannol y llywodraeth Geidwadol flaenorol yn gamarweiniol.

Dywedodd ei bod hi鈥檔 鈥渁mheus iawn iawn o鈥檙 cyhoeddiad o 拢1bn鈥 gafodd ei wneud gan y Ceidwadwyr.

鈥淏ydd yn rhaid i ni weld a oes yna arian neu beidio. Dwi鈥檔 tueddu i amau nad oes yna arian gan nad oedd 'na unrhyw esboniad pan wnaeth y Ceidwadwyr y cyhoeddiad yngl欧n 芒 sut roedden nhw鈥檔 bwriadu talu am y cynllun," meddai Ms Stevens.

"Bydd y mater yn rhan o鈥檙 adolygiad mae鈥檙 ysgrifennydd trafnidiaeth yn ei gynnal ar hyn o bryd.鈥

Ychwanegodd: 鈥淥s nad oes yna unrhyw arian, ni all y cynllun fynd yn ei flaen. Fel unrhyw deulu neu fusnes, mae鈥檙 llywodraeth yn yr un sefyllfa. Os nad yw鈥檙 arian yna, allwn ni ddim talu鈥.

Yn y gorffennol, mae rhai wedi amau os fydd 拢1bn yn ddigonol i ariannu cynllun o'r fath.

Mae arbenigwyr o鈥檙 byd busnes wedi awgrymu y gallai'r cynllun gostio hyd at 拢500m yn ychwanegol.

Mae鈥檙 成人快手 ar ddeall bod cyfarfodydd wedi eu cynnal gyda rhanddeiliaid yn gynharach eleni, ond nad oes llawer o ddatblygiad wedi bod ers hynny.