成人快手

Cyn-chwaraewr rygbi yn siarad am lofruddiaeth ei frawd am y tro cyntaf

Nathan BrewFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o鈥檙 llun,

鈥淣i fel teulu nawr yn llawer mwy agos ar 么l beth sydd wedi digwydd i Matthew," dywedodd y cyn-chwaraewr rygbi Nathan Brew

  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-chwaraewr rygbi Cymru, Nathan Brew, yn dweud fod llofruddiaeth ei frawd wedi dod 芒'i deulu yn llawer agosach.

Mae rhaglen arbennig ar S4C nos Sul yn nodi mai unwaith yn unig y cafodd Matthew Thomas ei daro yn ystod ymosodiad y tu allan i glwb nos yng Nghastell-nedd yn 2022.

Mae cofnodion yn dangos bod un o bob deg llofruddiaeth a dynladdiad yn ystod y tair mlynedd ddiwethaf wedi eu hachosi gan ymosodiad un ergyd.

Gan siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf am farwolaeth ei frawd, dywed Nathan fod "trasiedi fel hyn yn dod 芒 chi gyd gyda鈥檆h gilydd".

'Ymosodiad heb reswm'

鈥淣i fel teulu nawr yn llawer mwy agos ar 么l beth sydd wedi digwydd i Matthew na cynt, achos mae trasiedi fel hyn yn dod 芒 chi gyd gyda鈥檆h gilydd," meddai Nathan wrth siarad ar y rhaglen Nathan Brew: Un Eiliad Un Ergyd.

鈥淕athon ni alwad am un o鈥檙 gloch y bore i ddweud bod ei vitals i gyd wedi newid, a byddai鈥檔 syniad i ni fynd lawr yna.

"A'thon ni鈥檔 syth i lawr - roedd hynna鈥檔 anodd. A'thon ni gyd fel teulu. Da鈥檛h y consultant a dweud 鈥榬eally sorry ma鈥 Matthew yn mynd i farw鈥 - bydd yn marw cyn y bore, a dyma鈥檆h cyfle i fynd mewn a dweud eich goodbyes.

鈥淥鈥檔 i ffaelu derbyn y ffaith rwy鈥檔 credu yn edrych n么l. O鈥檔 i鈥檔 meddwl 'what鈥檚 this going to achieve?鈥 ond nes i snapo allan ohono fe.

"Es i fewn at Matthew - jest ni鈥檔 dau, ac o鈥檔 i鈥檔 ymddiheuro iddo fe am y ffaith falle bod ni ddim mor agos ag oedden ni pan o鈥檔 i鈥檔 tyfu lan.鈥

Ffynhonnell y llun, Shaun Botterill
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nathan yn chwarae dros y Dreigiau yn erbyn Leicester Tigers, 30 Medi, 2006

鈥淧eth fwya鈥 dwi鈥檔 cofio鈥檔 edrych n么l oedd ei wyneb. O鈥檇d cut bach ar ei wyneb ond o鈥檇d e鈥檔 edrych yn iawn. Bach o ddryswch rili, yn meddwl ma' fe鈥檔 edrych yn ok, so pam ma鈥檔 nhw鈥檔 dweud so fe鈥檔 debygol o ddod drwyddo?

"O鈥檇d hwnna鈥檔 neud i fi feddwl falle bod beth o鈥檇d yr heddlu wedi dweu' 'tho fi鈥檔 anghywir,鈥 ychwanegodd.

Roedd Daniel Pickering, 34, wedi bod yn yfed alcohol drwy鈥檙 dydd ac wedi cymryd gwerth dros 拢100 o cocaine cyn iddo ymosod ar Matthew Thomas.

Cafodd Pickering ei ddedfrydu i leiafswm o 18 mlynedd dan glo, gyda'r heddlu鈥檔 disgrifio'r ymosodiad fel un heb reswm ac yn enghraifft o sut y gall gor-yfed a chymryd cyffuriau sbarduno ymddygiad treisgar.

Wrth edrych yn 么l ar y diwrnod hwnnw yn y llys dywedodd Nathan: 鈥淥鈥檇d look hollol ddidrugaredd ar ei wyneb. O鈥檇d dim remorse o gwbl.

鈥淚 glywed yr hanes tu 么l i Daniel Pickering 鈥 bod e 'di gwneud rhywbeth tebyg cynt er nid i鈥檙 un lefel - o鈥檇d hwnna鈥檔 gwneud ni鈥檔 eithaf crac, nid jest at Daniel Pickering ond at y system achos dyle fe byth fod wedi bod allan.鈥

'Byd pobl yn cwympo'

Bydd y rhaglen Nathan Brew: Un Eiliad Un Ergyd yn dilyn ditectifs Heddlu De Cymru wrth iddyn nhw geisio mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 broblem o farwolaethau un ergyd.

Bydd y rhaglen hefyd yn edrych ar dri achos torcalonnus arall fu yn y penawdau yng Nghymru dros gyfnod o flwyddyn.

Dywed Ditectif Neil Jones o Heddlu De Cymru: 鈥淔el arfer, dynion yn eu hugeiniau neu dridegau sy鈥檔 mynd mas ac yfed gormod a chymryd cyffuriau sy鈥檔 troseddu.

"Pan mae cymysgedd o鈥檙 ddau beth, mae pobl yn mynd i fihafio鈥檔 wahanol.

鈥淣i鈥檔 cael nifer bob blwyddyn sy鈥檔 anffodus yn marw o ganlyniad i ymosodiad un ergyd.

"Adeg Covid roedd lot llai; doedd tafarndai ddim ar agor; doedd pobl ddim yn mynd mas shwt gymaint, ond nawr, mae鈥檙 ymosodiadau wedi cynyddu unwaith eto.

鈥淵n yr un eiliad 鈥榥a ma鈥 byd pobl yn cwympo dan eu traed.

"I鈥檙 heddlu mae鈥檔 achosi gwaith, ond yn bennaf, beth sy鈥檔 digwydd i鈥檙 teulu. Mae鈥檔 dostrwydd i weld teulu yn ymateb i rhywbeth mor ddibwrpas.鈥

Bydd y rhaglen i鈥檞 gweld ar S4C am 21:00 nos Sul, 24 Mawrth ac yna ar S4C Clic a 成人快手 iPlayer.

Pynciau cysylltiedig