Uchafbwyntiau gigs mis Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd
Ar ddechrau mis arall, mae Cynan Evans o dîm Gorwelion Cymru wedi casglu llond llaw o gigs mwyaf cyffrous mis Ebrill at ei gilydd. O Fethesda i Gaerfyrddin, mae rhywbeth yma at ddant pawb!
Mae Gorwelion yn gynllun ar y cyd rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru a ³ÉÈË¿ìÊÖ Cymru i feithrin artistiaid a bandiau Cymreig.
The Undercover Hippy – Neuadd Ogwen, Bethesda – 5/4/24
Mae The Undercover Hippy wedi bod yn perfformio mewn gwyliau ers 2008. Gweithiodd y cerddor Billy Rowan ei ffordd i fyny lein-yps – o berfformio ar lwyfannau marquees bach ar ei ben ei hun, i lenwi prif lwyfannau gyda band llawn o gerddorion anhygoel yn rhai o wyliau annibynnol gorau'r DU.
Mae'r band yn aml yn perfformio yn Glastonbury, Boomtown, Electric Picnic, Gŵyl Eden yn yr Alban a Beautiful Days, ynghyd â llawer mwy o wyliau o amgylch y DU ac Ewrop.
Mae hwn yn gyfle gwych i'w gweld mewn lleoliad bychan.
Adwaith – Cwrw, Caerfyrddin – 12/4/24
Teg yw dweud fod Adwaith yn un o'r bandiau Cymraeg prysuraf ar hyn o bryd. Bu'r dair ar daith yn yr Iseldiroedd yn ddiweddar a bydd y gig hwn yn Cwrw, Caerfyrddin, yn eu gweld yn dychwelyd i'w tref eu hunain ac i leoliad sy'n agos at galon y band.
Mae James Dean Bradfield o'r Manic Street Preachers yn ffan o'r band ers yn gynnar iawn yn eu gyrfa, ac fe ymddangosodd ar eu sengl ddiweddaraf, .
Yn ymuno â nhw yn y gig mae VOYA a Lacrosse Club.
Aisha Kigs – Cabaret WMC, Caerdydd – 19/4/24
Ar ôl ei gig llwyddiannus gyda ³ÉÈË¿ìÊÖ Music Introducing yn Llundain, mae Aisha Kigs yn chwarae yn Cabaret yng Nghanolfan Mileniwm Cymru er mwyn lansio ei EP newydd, Fire Hazard.
Bydd y sioe yn llawn o gerddorion gorau Caerdydd, perfformwyr gwadd, a pherfformiadau dawns egnïol.
YXNGXR1 – The Globe, Caerdydd – 20/4/24
Mae Yxngxr1 yn artist o Benarth sydd wedi derbyn llawer o sylw ar-lein am ei gerddoriaeth. Mae ganddo dros hanner miliwn o bobl yn gwrando arno ar Spotify yn fisol.
Er ei fod yn dod o Gymru, mae'r rhan fwyaf o’i gynulleidfa yn dod o’r Unol Daleithiau ac Awstralia. Bydd gig Yxngxr1 yn The Globe, sy'n rhan o’i daith A Night On The Porch yn bendant yn gyfle iddo ennill mwy o ffans Cymreig.
KingKhan – Rhostio, Caerdydd – 26/4/24
Nid yn aml y cewch chi gyfle i fynd i gig mewn caffi, ond mae Rhostio yn ardal y Waun Ddyfal (Cathays) o Gaerdydd yn ceisio newid hynny. Bydd y caffi yn croesawu artist sydd wedi derbyn i nawdd cronfa lansio Gorwelion, KINGKHAN, ar gyfer ei gig cyntaf yng Nghaerdydd ers iddo ryddhau ei albwm, Happy To Be Here, y llynedd.
Bydd KINGKHAN yn cael cwmni THAIME, Crash Course a Beyblis1 ar y noson.
NOIZZEFEST – The Moon + Fuel, Caerdydd – 27/4/24
Mae’r wefan/blog Noizze, sy'n cael ei rhedeg gan griw o bobl o ardal Cwmbrân, yn dathlu ei degfed pen-blwydd yn 2024.
Sefydlodd Jac Holloway y wefan tra'r oedd e'n gweithio yn Fuel Rock Club ar Stryd Womanby, Caerdydd i hyrwyddo ac adolygu cerddoriaeth o bob math. Bydd clwb Fuel nawr yn un o leoliadau Noizzefest ar ddiwedd mis Ebrill.
Mae Noizze bellach yn wefan sy'n cynnwys cyfranwyr o bob rhan o'r DU, Ewrop, Canada a'r Unol Daleithiau.
Los Blancos – Cwps, Aberystwyth – 27/4/24
Ers sawl blwyddyn bellach mae Los Blancos wedi bod yn prysur gerfio lle iddyn nhw eu hunain fel un o fandiau mwyaf poblogaidd y sîn gerddoriaeth Gymreig. Mae'r band o Gaerfyrddin, sydd dan label Libertino, wedi rhyddhau dau albwm i dderbyniad cadarnhaol.
Bydd y pedwarawd y chwarae yn Y Cŵps, Aberystwyth ar ddydd Sadwrn olaf y mis.
Cyn Cwsg sydd yn cefnogi Los Blancos ar y noson, a hynny yn dilyn rhyddhau dwy sengl ym mis Mawrth.