Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Ceisio helpu eraill gan fod 'neb yn gofyn sut mae dad?'
- Awdur, Liam Evans
- Swydd, Gohebydd 成人快手 Cymru
Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn trafod hunanladdiad.
Mae dyn o Fangor a wnaeth geisio lladd ei hun chwe wythnos ar 么l genedigaeth ei ail blentyn yn dweud bod angen mwy o gefnogaeth ar dadau yng Nghymru.
Yn 2021 fe ddioddefodd Aled Vaughan Edwards o Fangor gyda鈥檌 iechyd meddwl gan geisio dod a鈥檌 fywyd i ben.
鈥淥'n i鈥檔 flin, just yn teimlo bod fi methu gwneud digon ac o'n i鈥檔 meddwl 'sa pawb gwell off hebdda fi.鈥
Ar 么l derbyn cefnogaeth a thriniaeth mae o r诺an wedi sefydlu menter newydd i helpu tadau a鈥檜 teuluoedd yn y gogledd-orllewin.
Yn dad i ddau o blant, Sulli a Bea, mae Aled yn s么n am ei falchder a鈥檌 gariad o fod yn dad, ond yn dweud iddo ddioddef yn fawr gyda heriau iechyd meddwl.
"Tua chwech wythnos oedd hi ar 么l i hi [Bea] gael ei geni es i off a nesi trio cymryd bywyd fy hun", meddai.
"O'n i wedi cyrraedd pwynt lle oni鈥檔 teimlo... bob dim o'n i鈥檔 neud... doedd o ddim yn ddigon i鈥檙 plant neu i鈥檙 wraig ac o'n i鈥檔 flin efo fy hun.
鈥淗yd yn oed os oeddwn i yn codi ganol nos, newid nappies, yn helpu fel bod fy ngwraig ddim gorfod ond doedd o dal ddim yn ddigon i fi, felly o'n i wir yn meddwl 'sa pawb yn well hebdda fi."
Wrth edrych yn 么l ar y cyfnod mae鈥檔 dweud mai ei fab, Sulli wnaeth ei atal rhag dod 芒鈥檌 fywyd i ben.
"Ddoth o ata i y bore yna a nath o roi ei fraich rownd fi a rhoi hug imi am ddim rheswm.
"Hwnna nath stopio fi, nid meddwl bod o am dyfu fyny heb dad ond gwybod 'swn i byth yn teimlo y cariad yna eto, cael rhywun sy鈥檔 meddwl gymaint ohona chdi, felly nes i ffonio doctor ac es i syth i A&E a cael triniaeth yna."
Yn 么l y Swyddfa Ystadegau Gwladol roedd 74% o'r holl hunanladdiadau yn 2022 yn ddynion.
Mae ystadegau hunanladdiadau tybiedig rhwng 2022-2023 y gwasanaeth iechyd hefyd yn nodi fod y gyfradd ar ei huchaf ymhlith dynion rhwng 35-44 oed.
Ar 么l derbyn triniaeth a chefnogaeth gan aelodau proffesiynol a鈥檌 deulu a鈥檌 ffrindiau, mae o r诺an yn canolbwyntio ar fenter newydd i helpu dynion ifanc a thadau sy鈥檔 dioddef.
Sut mae dad?
Enw鈥檙 fenter ydi 鈥楽ut mae Dad?', a dywedodd Aled: "Does neb yn gofyn y cwestiwn, sut mae dad?
"Pan 'nes i聽fynd drwy聽beth 'nes i, 'nath neb holi fi sut o'n i fel dad, hyd yn oed professionals, nath neb ofyn i mi ydw i'n iawn?
"Do, gofyn i鈥檙 wraig聽wrth gwrs ond just un conversation yn holi, wyt ti鈥檔 iawn, wyt ti angen help?"
Mae鈥檙 fenter newydd yn dod 芒 thadau o鈥檙 ardal at ei gilydd i fynd am dro anffurfiol, i siarad ac i rannu pryderon.
Mae Aled yn dweud ei fod yn gobeithio "os byddai wedi helpu un dad, fyddai wedi gadael y byd mewn gwell stad na ddes i mewn iddo鈥.
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y 成人快手.