'Pobl yn fwy cynhyrchiol wrth gadw at oriau gwaith'

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Disgrifiad o'r llun, Mae Llywodraeth y DU wedi addo cyflwyno'r hawl i bobl beidio gweithio tu hwnt i'w oriau
  • Awdur, Ruth Roberts
  • Swydd, Newyddion S4C

Ydych chi'n ei chael hi’n anodd diffodd eich gliniadur, neu efallai'n ateb ebyst y tu allan i oriau gwaith?

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi addo cyflwyno'r hawl i bobl beidio gweithio tu hwnt i'w oriau.

Y syniad ydy y bydd yn gwella pa mor gynhyrchiol ydy gweithwyr yn ystod oriau gwaith, sydd yn ôl arbenigwyr yn hanfodol ar gyfer twf cyflogau a safonau byw.

Ond gyda natur swyddi yn amrywio, mae'r ymateb i'r cynnig yn gymysg.

"Mewn egwyddor, fe alla i weld ei fod yn ddeniadol bod rheolau neu blismona ar fater fel hyn, ond mae cael un ffordd ar gyfer gymaint o wahanol ffyrdd o weithio am fod yn anodd i weinyddu," medd y gyfreithwraig o Gaerdydd, Fflur Jones.

Yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae'r hawl i weithio o fewn oriau gwaith yn unig yn hanfodol i weithwyr fod yn fwy cynhyrchiol.

Yn ôl llefarydd ar ran y Prif Weinidog: "Mae'n bwysig sicrhau fod pobl yn cael seibiant.

"Mae cyflogwyr da yn deall fod angen i weithwyr gadw at oriau gwaith er mwyn cadw yn gynhyrchiol ac yn frwdfrydig am eu gwaith."

Mae cynhyrchiant yn fesur economaidd am faint o waith sy'n cael ei gyflawni mewn amser penodol - rhywbeth y mae arbenigwyr yn ei ystyried yn hanfodol ar gyfer twf cyflogau a safonau byw.

Sicrhau 'ffin glir'

Y nod yw sicrhau bod "ffin glir rhwng bywyd yn y gweithle ac yn y cartref" meddai'r llefarydd.

"Mae'n un o heriau canolog y llywodraeth i gefnogi twf ac rydym yn gwybod fod bod yn gynhyrchiol yn hanfodol ar gyfer twf," meddai.

Ni fydd y cynlluniau yn addas i bawb ac felly mae'r llywodraeth yn cydnabod y bydd polisïau cwmnïau yn amrywio gyda gwahanol swyddi.

Mae gweinidogion yn edrych ar bolisïau gwledydd eraill, gan gynnwys Iwerddon a Gwlad Belg, lle mae gan weithwyr yr "hawl i ddatgysylltu" ac i beidio gweithio tu hwnt i'w horiau arferol.

Disgrifiad o'r llun, Yn ôl y gyfreithwraig Fflur Jones, gall y polisi fod yn "anodd i weinyddu"

Dywedodd y gyfreithwraig o Gaerdydd, Fflur Jones "bod 'na bryderon wedi'w lleisio y byddai pobl yn slacio gan wybod na fyddai rheolwyr yn cysylltu hefo nhw y tu allan i oriau gwaith.

Ond dywedodd ei bod yn "meddwl mai'r broblem fwya’ ydy sut ydych chi'n cysoni'r rheol?

"Rheol sydd yn mynd i weithio ar gyfer gofalwyr, pobl sy'n gweithio yn y sectorau sy'n cefnogi'r cyhoedd, pobl sy’n gweithio mewn swyddfeydd lle mae angen bod ar gael ar fyr rybudd ac ati."

Sut mae monitro rheol o'r fath?

Mae'r syniad yn rhan o becyn sy'n ymwneud â hawliau gweithiwyr sydd wedi'i gyflwyno gan y Blaid Lafur.

Pe bai cyflogwyr yn torri amodau, fe all gweithwyr fynd â'u cyflogwyr i dribiwnlys.

Gall hyn fod o ganlyniad i gysylltu'n gyson â'u cyflogai y tu allan i'r oriau gwaith a gafodd eu cytuno.

Ond mae'r llywodraeth yn cydnabod fod gan wahanol sectorau wahanol anghenion ac y bydd hyn yn cael ei adlewyrchu mewn cytundebau.

Sut felly mae monitro rheol o'r fath?

Mae Fflur Jones yn awgrymu dulliau amgen i drin a thrafod y pwnc yn hytrach na chynnig rheolau llym ar gyflogwyr.

"Ydyn ni'n well yn trio addysgu pobl ac addysgu cyflogwyr ynglŷn â'r angen i warchod iechyd a diogelwch cyflogai, gofalu fod pawb yn cael amser i ffwrdd o'r gwaith, defnyddio pethau megis amserlen i ddynodi pryd mae ebyst yn cael eu gyrru allan?

"Mae technoleg yn gallu helpu gymaint yn fan hyn."