Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Iawndal i ddioddefwyr y sgandal gwaed cyn diwedd y flwyddyn
Bydd dioddefwyr y sgandal gwaed ar draws y DU yn gallu derbyn taliadau cefnogaeth am weddill eu hoes tra bydd y rhai fu'n rhan o ymchwil meddygol heb yn wybod iddyn nhw yn derbyn hyd at 拢15,000 yn ychwanegol.
Fe gafodd miloedd o bobl waed wedi'i heintio mewn trallwysiadau yn y 1980au a 1990au gan arwain at farwolaethau. Fe gafodd dros 400 o bobl yng Nghymru eu heintio.
Bydd rhieni a gollodd blant oherwydd y sgandal hefyd yn derbyn taliadau am oes wedi i lywodraeth y DU dderbyn "mwyafrif" yr argymhellion mewn adolygiad annibynnol.
Ddydd Gwener dywedodd Swyddfa'r Cabinet y bydd pobl yn dechrau derbyn taliadau cyn diwedd y flwyddyn.
Dywedodd y gweinidog yn Swyddfa'r Cabinet, Nick Thomas-Symonds (AS Torfaen): "Mae hon yn garreg filltir bwysig i ddioddefwyr ac ymgyrchwyr sydd wedi aros yn llawer rhy hir am gyfiawnder.
"Mae'r llywodraeth wedi gwrando ar argymhellion Sir Robetr Francis KC, wedi clywed galwadau cryf am newid o'r gymuned ac wedi gweithredu.
"Fe fyddwn ni'n gwneud popeth posib i dalu iawndal yn gyflym, ac mewn rhai achosion symiau all newid bywydau'r rhai gafodd eu heintio yn y sgandal yma.
"Rydym yn gwybod na all unrhyw iawndal wneud yn iawn am y niwed y dioddefodd pobl o ganlyniad i'r sgandal yma. Dyna pam y byddwn hefyd yn gwneud newidiadau diwylliannol er mwyn sicrhau na fydd dim byd fel hyn yn digwydd eto."
Nid yw'r llywodraeth wedi dweud yn union faint fydd y cynllun yma'n gostio yn ei gyfanrwydd, ond mae disgwyl i'r iawndal i'r bobl ddioddefodd waethaf fod y tu hwnt i 拢2.5m.
Dywedodd Lynne Kelly, Cadeirydd Haemophilia Cymru, fod heddiw yn "ddiwrnod pwysig sy'n dangos gwelliant o'r diwedd wedi 40 mlynedd".
"Yn anffodus mae'n rhy hwyr i lawer, ac ry'n ni'n dal i ddisgwyl clywed manylion y rheoliadau am y cynllun," meddai.
"Dyw'r rhan fwyaf o bobl a ddioddefodd ddim wedi derbyn unrhyw daliadau o gwbl.
"Fe ddylen ni glywed mwy o fanylion i'r cynllun erbyn diwedd yr wythnos nesaf, ac fe fyddwn ni'n gwybod mwy bryd hynny."