Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Canslo Medal Ddrama'r Steddfod yn 'hurt', meddai sylfaenydd cwmni theatr
- Awdur, Craig Duggan
- Swydd, Gohebydd 成人快手 Cymru
Roedd y penderfyniad i ganslo'r Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yn 鈥渉urt鈥, yn 么l sylfaenydd cwmni theatr yn y canolbarth.
Fe wnaeth Jeremy Turner ei sylwadau wrth iddo adael ei r么l fel cyfarwyddwr artistig cwmni theatr Arad Goch ar 么l 35 o flynyddoedd.
Dywedodd Dr Turner y dylid fod wedi gwobrwyo鈥檙 ddrama fuddugol ac mai r么l y theatr yw codi cwestiynau a helpu cynulleidfaoedd i ganfod eu hatebion eu hunain.
Mae 鈥渁mddifadu cynulleidfa鈥 o鈥檙 cyfle i wneud hynny yn 鈥済am mawr鈥, meddai.
Dywedodd yr Eisteddfod y byddai trafodaeth yn cael ei chynnal gyda鈥檙 sector theatr ym mis Tachwedd.
Yn ystod yr Eisteddfod ym Mhontypridd fis Awst, cafodd seremoni'r Fedal Ddrama ei chanslo yn ddirybudd, ar 么l y broses o feirniadu鈥檙 gystadleuaeth.
Penderfyniad Bwrdd yr Eisteddfod oedd atal y gystadleuaeth, ond dywedodd y beirniaid eu bod nhw鈥檔 cytuno.
Yr wythnos ar 么l y brifwyl, fe wnaeth y beirniaid gyhoeddi datganiad i ddweud nid sensora oedd eu bwriad wrth atal y gystadleuaeth, ond yn hytrach 鈥済warchod pawb a oedd ynghlwm 芒鈥檙 gystadleuaeth a鈥檙 gymuned roedd y dramodydd yn honni ei chynrychioli鈥.
Mewn datganiad ar yr un pryd dywedodd Ashok Ahir, cadeirydd bwrdd yr Eisteddfod, fod y brifwyl yn bwriadu edrych ar y prosesau sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 cystadlaethau cyfansoddi, ac y byddai 鈥渃yfle am drafodaeth adeiladol ac aeddfed am hyn oll yn yr hydref鈥.
Dywedodd Jeremy Turner: "Os yw鈥檙 ddrama [fuddugol] yn ddadleuol, 'da ni angen trafod y dadleuon yna, nid eu cuddio nhw.
"Falle bod nhw鈥檔 boenus, falle bod nhw鈥檔 codi pob math o gwestiynau. Ond oni bai ein bod ni鈥檔 trafod y cwestiynau yn agored, yn barchus, mae鈥檙 materion yn cael eu hanghofio. A dyw hynny ddim yn iach.鈥
Ychwanegodd ei fod e鈥檔 credu bod y penderfyniad i atal y fedal yn 鈥渉urt鈥 ac mai 鈥渞么l y ddrama yw codi cwestiynau - os 'da ni鈥檔 cuddio pob problem, man a man i ni gael pantomeim pob diwrnod o鈥檙 flwyddyn鈥.
Doedd yr Eisteddfod Genedlaethol ddim am ymateb i鈥檙 hyn a ddywedodd Jeremy Turner, ond mewn datganiad dywedodd llefarydd: 鈥淵n dilyn y brifwyl eleni, nododd yr Eisteddfod y byddai鈥檙 sefydliad yn fodlon iawn i gynnal trafodaeth ar y cyd gyda鈥檙 sector theatr yn yr hydref.
鈥淩ydyn ni鈥檔 ddiolchgar i Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth am eu parodrwydd i arwain symposiwm ym mis Tachwedd dan y teitl Cynrychioli Cynrychiolaeth: Theatr a鈥檌 Ystyr.
"Bydd y dyddiad a manylion pellach ar sut i ymuno yn y drafodaeth ar gael yn fuan.鈥
Cafodd Arad Goch ei sefydlu gan Jeremy Turner yn Aberystwyth yn 1989.
Tyfodd y cwmni i fod yn un o鈥檙 prif ddarparwyr theatr i bobl ifanc yng Nghymru, gan lwyfannu hyd at bum cynhyrchiad y flwyddyn.
Bellach mae wedi gadael Arad Goch a chyfarwyddwr artistig newydd 鈥 Ffion Wyn Bowen 鈥 yn arwain y cwmni.
Wrth adael Arad Goch, mae Jeremy Turner yn archifo degawdau o waith 鈥 sgriptiau, lluniau, posteri sioeau 鈥 o tua 200 o gynyrchiadau fydd yn cael eu cadw yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Dywedodd fod gormod o uchafbwyntiau i鈥檞 rhestru i gyd 鈥 ond yn eu plith roedd cynhyrchiad 鈥楾aliesin鈥 a deithiodd i鈥檙 Unol Daleithiau, Canada, Singapore a gwledydd eraill.
Hefyd, soniodd am lansio鈥檙 诺yl 鈥楢gor Drysau鈥 鈥済诺yl ryngwladol i ddod 芒 phobl i mewn i Gymru, ac i farchnata Cymru dramor鈥.
Roedd sioe awyr agored 鈥楬en Linell Bell鈥 yn 2017 yn uchafbwynt arall, meddai.
Cafodd ei pherfformio ar 鈥渂rom, a thraeth a strydoedd Aberystwyth. Roedd yn enfawr i gwmni bach fel ni. Ac mae pobl yn gofyn 鈥榩ryd 'da chi鈥檔 'neud yr un nesaf?鈥
"Roedd hwnna鈥檔 ffordd o ddod 芒鈥檙 gymuned ac Arad Goch yn llawer nes at ei gilydd, ac roedd yn ffantastig.鈥
Wedi degawdau o waith yn y maes, mae Dr Turner yn credu bod proffil y theatr i blant a phobl ifanc yng Nghymru nawr 鈥測n is nag y mae wedi bod鈥.
Dywedodd fod diffyg strategaeth gan Gyngor y Celfyddydau gan ychwanegu bod Cymru 鈥測mhell ar ei h么l hi鈥 o gymharu gyda gwledydd bach eraill fel Iwerddon a Denmarc.
Dywedodd Dr Turner: 鈥淢ae angen strategaeth, mae angen gwaith meddwl difrifol am beth yw r么l a phwysigrwydd a photensial y theatr Gymraeg a Saesneg hefyd.
"Mae鈥檙 theatr Saesneg i raddau helaeth yng Nghymru yn tueddu i fod yn theatr Seisnig sydd ddim yn helpu plant a phobl ifanc i adnabod eu hunaniaeth Gymreig. Mae gwaith i wneud f鈥檡na hefyd.鈥
O ran theatr i blant a phobl ifanc, dywedodd ei fod e鈥檔 siomedig bod llai yn digwydd erbyn hyn ac mae鈥檔 honni bod theatr mewn addysg wedi cael ei 鈥渃hwalu鈥 gan Gyngor y Celfyddydau yn 2010 鈥渉eb ymgynghori鈥 a bod hynny鈥檔 鈥渂enderfyniad hurt.鈥
'Cryn dipyn wedi newid'
Mewn ymateb, dywedodd Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru: 鈥淗offwn ddiolch i Jeremy Turner am ei gyfraniad enfawr i鈥檙 sector dros y blynyddoedd, a diolch iddo am ei barodrwydd i ysgogi ar drafodaeth yngl欧n 芒 chyfeiriad y theatr yng Nghymru ac ym maes theatr mewn addysg yn arbennig, fel cyfarwyddwr artistig cwmni theatr Arad Goch.
鈥淗eb os, mae鈥檔 wir fod y modd o ymgysylltu gyda phobl ifanc wedi newid cryn dipyn dros y ddegawd ddiwethaf, ond mae sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael mynediad i鈥檙 celfyddydau mor hanfodol ag erioed, yn enwedig ar adeg o gyni ariannol i ni fel corff sy鈥檔 dosbarthu arian cyhoeddus, fel y mae i awdurdodau lleol, a rhai eraill sy鈥檔 cefnogi鈥檙 celfyddydau fel rhan bwysig o鈥檔 ffordd o fyw.
鈥淵n bendant ein bwriad wrth roi鈥檙 iaith Gymraeg fel un o鈥檔 chwe egwyddor fel rhan o鈥檙 adolygiad buddsoddi oedd gosod y Gymraeg yng nghanol creadigrwydd, ac yn fuan byddwn yn cyhoeddi ein strategaeth hirdymor a鈥檌 is-gynlluniau, gan gynnwys Cynllun y Gymraeg a鈥檙 Celfyddydau, gyda鈥檙 bwriad i roi ffocws i鈥檙 gwaith o fewn Cyngor y Celfyddydau a鈥檙 sector gelfyddydol ehangach.
"Rydym yn falch bod Jeremy wedi cyfrannu鈥檔 ymgynghorol i鈥檙 datblygiadau fel aelod o鈥檙 Consortiwm Celf Cymraeg.鈥