成人快手

Cannoedd o ffermwyr yn protestio tu allan i gynhadledd y Blaid Lafur

  • Cyhoeddwyd
Oriel luniauNeidio heibio'r oriel luniauSleid 1 o 5, Ffermwyr yn dal arwydd 'dim ffermwyr, dim bwyd', Roedd y ffermwyr yn protestio yn erbyn newidiadau i'r dreth etifeddiaeth

Daeth cannoedd o ffermwyr i brotestio tu allan i gynhadledd y Blaid Lafur yn Llandudno fore dydd Sadwrn.

Roedd nifer o dractorau a cherbydau fferm wedi parcio ar y promen芒d tu allan adeilad Venue Cymru, gyda ffermwyr yn codi arwyddion yn darllen 'Digon yw digon'.

Bu cyllideb y Canghellor, Rachel Reeves, yn ddadleuol yn y sector amaethyddol pan gyhoeddodd newidiadau i dreth etifeddiaeth ffermwyr.

Wrth annerch y gynhadledd, dywedodd Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer y byddai'n amddiffyn y Gyllideb a'r "penderfyniadau anodd oedd yn angenrheidiol i sefydlogi'r economi".

'Digon yw digon'

Ymhlith y rhai oedd yn bresennol oedd y ffermwr a'r cyflwynydd teledu Gareth Wyn Jones.

Dywedodd bod ffermwyr wedi cael "llond bol" a bod hi'n "amser i bethau newid.

"Mae 'na gannoedd o ffarmwrs wedi troi i fyny, mae 'na lwythi o dractors, a ma' nhw di dod yma am reswm - digon yw digon.

"Ma' nhw di gal llond bol o鈥檙 ffordd 'da ni鈥檔 cael ein trin 鈥 mae鈥檔 amser i bethau newid" meddai.

Ychwanegodd hefyd mai'r newidiadau i'r dreth etifeddiaeth yw'r "hoelen olaf yn arch amaeth."

Ni wnaeth Syr Keir gwrdd 芒'r protestwyr, na chyfeirio atynt yn ei araith.

Beth yw'r newidiadau i'r dreth etifeddiaeth?

Ers iddo gael ei gyflwyno yn 1984, mae rhyddhad eiddo amaethyddol (APR), wedi caniat谩u i dir a ddefnyddir ar gyfer cnydau neu fagu anifeiliaid, yn ogystal ag adeiladau fferm, bythynnod a thai 鈥 gael eu heithrio rhag treth etifeddiaeth.

Bellach mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi o fis Ebrill 2026, bydd ffermydd sydd werth mwy na 拢1m yn wynebu cyfradd treth etifeddiaeth o 20% - hanner y gyfradd arferol o 40%.

Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi ei alw鈥檔 鈥渄rychinebus鈥 i ffermydd teuluol, gan ddweud y byddai鈥檔 gweld ffermwyr yn cael eu gorfodi i werthu tir i dalu鈥檙 dreth.

Yn y cyfamser, mae Prif Weinidog Cymru wedi galw ar bobl i "ymdawelu ychydig" dros newidiadau i dreth etifeddiaeth ffermwyr.

Dywedodd Eluned Morgan fod amcangyfrifon cychwynnol yn awgrymu y bydd y newidiadau yn effeithio ar 鈥済yfran fechan鈥 o ffermydd.