Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Cymru 'i elwa' o gael cynrychiolydd yn rhan o Yst芒d y Goron
- Awdur, Teleri Glyn Jones
- Swydd, Gohebydd Gwleidyddol 成人快手 Cymru
Mae Yst芒d y Goron am benodi cynrychiolydd o Gymru i sicrhau bod y wlad "yn elwa" o brosiectau ynni oddi ar yr arfordir yn y dyfodol.
Y Brenin sydd berchen ar Yst芒d y Goron, ac mae'n helpu i ariannu'r Teulu Brenhinol.
Mae gan yr yst芒d dir sydd werth dros 拢603m yng Nghymru, yn cynnwys 65% o wely'r m么r o amgylch yr arfordir.
Yn yr Alban, mae'r arian mae Yst芒d y Goron yn ei hawlio yn mynd i Lywodraeth yr Alban, ond nid dyma'r drefn yng Nghymru.
Ond mae 'na alwadau wedi bod i newid hynny ac i ddatganoli rheolaeth o'r tir.
Fel rhan o gytundeb gafodd s锚l bendith Jo Stevens, Ysgrifennydd Cymru, mi fydd comisiynydd Cymreig yn rhan o'r corff am y tro cyntaf.
Yn 么l Swyddfa Cymru, mi fydd y comisiynydd yn gyfrifol am "gynghori ar weithredu Yst芒d y Goron yng Nghymru, ac yn sicrhau bod llais Cymru'n cael ei glywed".
Mae disgwyl i Yst芒d y Goron elwa'n sylweddol o ddatblygiad ynni gwyrdd, yn enwedig ynni gwynt oddi ar yr arfordir yn y m么r Celtaidd.
Mae'r newidiadau yma'n cael eu gwneud fel rhan o welliant i Fil Yst芒d y Goron, sydd ar hyn o bryd yn mynd drwy'r broses ddeddfwriaeth yn San Steffan.
Mae Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a'r Blaid Lafur yn cefnogi'r gwelliant gan yr Arglwydd Hain.
Er yn croesawu'r gwelliant, mae Plaid Cymru yn dweud nad yw'n mynd yn ddigon pell.
Yn 么l y Farwnes Carmen Smith, mae Plaid Cymru eisiau datganoli Yst芒d y Goron yn llwyr ac yn dweud y dylid gofyn am ganiat芒d gan Lywodraeth Cymru cyn gweithredu unrhyw newid yng Nghymru.
"Rydym yn credu y dylai'r elw sy'n dod o Yst芒d y Goron yng Nghymru gael ei fuddsoddi yn uniongyrchol yng nghymunedau Cymru, yn hytrach na chael eu dargyfeirio i San Steffan," meddai.
Yn 么l Ysgrifennydd Cymru, Jo Stevens mae hyn yn "gam sylweddol tuag at sicrhau bod ffyniant Cymru wrth galon bwriad y llywodraeth i ddod yn b诺er mawr mewn ynni gl芒n".
"Mi allai Cymru elwa yn fawr o fuddsoddiad mewn ynni oddi ar yr arfordir ac mae'n rhaid i ni nawr gael y gynrychiolaeth sydd ei angen arnom ni i allu gwneud y mwyaf o'r cyfle."