Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Enwau Cymraeg yn unig i barhau wrth i barc Eryri ystyried logo newydd
- Awdur, Gareth Wyn Williams
- Swydd, Gohebydd 成人快手 Cymru
Mae disgwyl i barc cenedlaethol barhau gyda pholisi o ddefnyddio'r enwau Cymraeg yn unig ar gyfer Eryri a'r Wyddfa.
Ym mis Tachwedd 2022 fe bleidleisiodd Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri o blaid cefnu ar y geiriau Snowdonia a Snowdon yn swyddogol.
Yn 么l arolwg a gafodd ei gynnal dros yr haf, mae'r penderfyniad wedi denu cefnogaeth gyffredinol gan bobl leol ac ymwelwyr.
O ganlyniad mae'r parc yn ystyried ail-frandio pellach gan gyfeirio at ei hun fel 'Eryri National Park' yn y Saesneg, gan gynnwys cyflwyno logo newydd.
Dywed adroddiad, fydd yn cael ei gyflwyno i awdurdod y parc ddydd Mercher, bod llawer o fusnesau lleol a'r cyfryngau wedi dilyn yr un trywydd ers hynny, gan arwain at "gynyddu cysondeb ac amlygrwydd yr hunaniaeth Gymraeg sy鈥檔 gysylltiedig 芒鈥檙 Parc".
Yn gynharach roedd un o gynghorwyr sir Gwynedd, John Pughe Roberts, wedi cyflwyno cynnig yn gofyn i'r parc roi'r gorau i ddefnyddio Snowdon a Snowdonia, gan honni bod nifer yn "cwyno bod pobl yn newid enwau tai, enwau creigiau a mynyddoedd".
Gan ddyfynnu bod y defnydd o enwau Cymraeg "yn cyd-fynd ag ymrwymiad yr awdurdod i hyrwyddo'r Gymraeg" a "chadwraeth treftadaeth", dywedodd swyddogion hefyd bod y symudiad yn cynrychioli "pwynt gwerthu unigryw" sy'n "ei osod ar wah芒n i barciau cenedlaethol eraill y DU"
Ond mae'r adroddiad yn crybwyll heriau hefyd, gan gynnwys nad oedd rhai ymwelwyr "yn ymwybodol bod enwau Cymraeg wedi bodoli ac efallai eu bod yn credu eu bod yn newydd".
Roedd hyn, yn 么l y s么n, wedi achosi "rhywfaint o wrthwynebiad a dryswch", gyda rhai hefyd yn cael trafferth ynganu'r enwau Cymraeg, gydag argymhelliad y dylid sicrhau bod mwy o ganllawiau ynganu ar gael.
Gyda logo'r awdurdod yn dal i gynnwys y gair 'Snowdonia', mae 'na gynnig hefyd y dylid ei ddiweddaru dros y misoedd nesaf.
Casglid swyddogion yw: "Mae mabwysiadu defnyddio 'Yr Wyddfa' ac 'Eryri' yn unig wedi atgyfnerthu ymrwymiad yr Awdurdod i warchod treftadaeth ddiwylliannol Eryri, hyrwyddo ein hunaniaeth, a chryfhau brand unigryw'r parc cenedlaethol.
"Er bod heriau鈥檔 parhau, yn enwedig o ran ymwybyddiaeth y cyhoedd a chyrhaeddiad ar gyfryngau cymdeithasol, bu鈥檙 effaith gyffredinol yn gadarnhaol, gan gryfhau enw da鈥檙 Awdurdod a balchder yn ein diwylliant lleol."