成人快手

Dechrau da yn 'sail gref' i daith addysg plentyn

Bethan ac Anwen
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pennod gyntaf gyffrous ar fin dechrau i Bethan a'i merch Anwen

  • Cyhoeddwyd

Anwen, sy'n dair blwydd a hanner, yw un o'r plant fydd yn cymryd y cam mawr o ddechrau yn yr ysgol am y tro cyntaf dros y dyddiau nesa'.

Mae ei mam Bethan yn dweud ei bod wedi elwa o broses pontio sydd wedi cynnwys ymweliadau i'r ysgol gynradd a gweithgareddau i'w pharatoi yn y cylch meithrin.

Yn 么l ymchwil gan Achub y Plant, mae hwyluso'r broses o ddechrau'r ysgol yn gosod sail gref i blant lwyddo ar ddechrau eu siwrne drwy addysg.

Dywedodd yr adroddiad bod pontio llwyddiannus o fudd i bawb, ond ei fod yn arbennig o bwysig i deuluoedd sy'n profi tlodi.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae plant angen trefn a gwybod beth sy'n mynd ymlaen, medd Mair Billington o Gylch Meithrin Felinfoel

Yng Nghylch Meithrin Felinfoel yn Llanelli, mae鈥檙 plant wedi bod yn clywed stori Smot yn Mynd i鈥檙 Ysgol yn ogystal ag edrych ar luniau o鈥檜 hathrawon newydd a thrafod eu bocsys bwyd a鈥檜 bagiau.

Yn 么l arweinydd y cylch meithrin, Mair Billington, mae trefnu鈥檙 pontio鈥檔 ofalus yn helpu鈥檙 plant a鈥檙 ysgol.

鈥淢ae鈥檔 bwysig iawn i鈥檙 plant i deimlo鈥檔 hapus, bo' nhw鈥檔 gwybod be' sy鈥檔 mynd 'mlaen.

鈥淢ae rhai plant yn licio routine," meddai, ac mae'r broses pontio鈥檔 helpu.

Fe wnaeth Anwen fwynhau ymweld 芒鈥檌 hysgol newydd yn fawr, yn 么l ei mam.

鈥淢ae 'di dod n么l a dweud bod hi wedi bod yn chwarae gyda racing cars, beth yw enw鈥檙 athrawes, sy鈥檔 lyfli i glywed i fod yn onest 鈥 y pethe mae hi鈥檔 pigo lan ei hunan,鈥 meddai Bethan.

鈥淢ae hwnna鈥檔 hollol, hollol bwysig 鈥 bod hi鈥檔 cael teimlad o fe ac yn teimlo鈥檔 hyderus o fewn yr adeilad.鈥

'Fi'n teimlo'n emosiynol'

I mam a dad hefyd, mae鈥檔 gyfnod pwysig.

鈥淔i鈥檔 teimlo鈥檔 emosiynol. Mae Anwen yn teimlo鈥檔 gyffrous ond fi ddim yn si诺r fel fydd hi pan mae鈥檔 mynd mewn i鈥檙 adeilad mawr.

鈥淔i鈥檔 gobeithio bydd hi鈥檔 setlo 鈥 'na鈥檙 peth mwyaf.

"Bydd hi鈥檔 hapus yna, bydd hi 'di cwrdd 芒 ffrindie neis, bydd hi鈥檔 dod 'mlaen yn gr锚t gyda鈥檙 athrawes.鈥

Disgrifiad,

Mae penaethiaid dwy ysgol wedi bod yn son am sut mae hwyluso'r broses o dderbyn plant newydd i ysgol uwchradd

Dywedodd Eurgain Haf o elusen Achub y Plant bod clywed barn plant yn rhan bwysig o鈥檜 hymchwil.

Roedd ganddyn nhw nifer o gwestiynau am ddechrau鈥檙 ysgol - am y lleoliad, am y staff a鈥檙 plant - ac roedden nhw鈥檔 awyddus bod yr athro newydd yn gwybod amdanyn nhw 鈥 beth oedden nhw鈥檔 hoffi a ddim yn hoffi.

Roedd yr ymchwil, meddai, wedi dangos pwysigrwydd profiad positif ar y dechrau un, yn enwedig i deuluoedd sy鈥檔 wynebu鈥檙 heriau ychwanegol all ddod gyda thlodi, fel bod taith y plentyn drwy鈥檙 ysgol 鈥測n un hapus, yn un hyderus鈥.

Ychwanegodd: 鈥'Dan ni鈥檔 gwybod bod hynny wedyn yn helpu鈥檙 plentyn, nid yn unig ar y daith drwy鈥檙 ysgol, ond hefyd ar gyfer bywyd ar 么l yr ysgol.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae plentyn yn elwa o daith addysgol "hapus a hyderus" ymhell ar 么l gadael yr ysgol, medd Eurgain Haf

Wrth nes谩u at ddiwedd gwyliau鈥檙 haf mae鈥檙 cyffro鈥檔 cynyddu yng nghartre' Anwen, sydd wrthi鈥檔 trio鈥檌 gwisg ysgol 'mlaen eto.

鈥淪gidiau pert," yw hoff ran Anwen o鈥檙 wisg newydd.

鈥淢ae鈥檔 dod yn fwy agos bob dydd. Ni 'di bod yn aros shwd sbel,鈥 meddai Bethan.

鈥淢ae 'di gwisgo yn ei gwisg ysgol 鈥 mae鈥檔 excited ofnadwy i wisgo fe.

鈥淢ae鈥檔 hapus iawn ynddo fe mor belled, ond falle ddim mor hapus ar y diwrnod cynta' a gadael Mami!"

Pynciau cysylltiedig