Iwan Cowbois 'adre o'r ysbyty heddiw' - Georgia Ruth

Ffynhonnell y llun, 成人快手 / Ffotonant

Disgrifiad o'r llun, Mae Georgia Ruth wedi diolch i staff Ysbyty Bronglais am eu gofal wrth gadarnhau bod "Iws yn dod adre heddiw"

Mae'r gantores Georgia Ruth wedi cadarnhau bod ei g诺r, Iwan Huws, yn dychwelyd adref o'r ysbyty ddydd Llun wedi iddo gael ei daro'n wael tra'n perfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau.

Mae prif leisydd y gr诺p poblogaidd, Cowbois Rhos Botwnnog, wedi cael gofal yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth ers cael ei gludo yno nos Wener 19 Gorffennaf.

Mewn neges dywed y gantores ei bod "methu diolch digon" i holl staff yr ysbyty am eu gofal a'u gwaith "trylwyr dros y 10 diwrnod dwetha".

Fe gadarnhaodd hefyd ei bod yn tynnu'n 么l o ragor o berfformiadau yn ystod yr wythnosau nesaf.

Roedd hi eisoes wedi tynnu'n 么l o sioe yn Llundain wythnos diwethaf a G诺yl Latitude ddydd Sul.

Fydd hi nawr ddim yn perfformio yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar 5 Awst, yn y C诺ps yn Aberystwyth ar 14 Awst, yng Ng诺yl y Dyn Gwyrdd ar 16 Awst a G诺yl Ara Deg ym Methesda ar 23 Awst.

Ysgrifennodd ei bod "mor sori, ond gobeithio gallu dod n么l i chwarae nhw eto yn y dyfodol".

Mae Cowbois Rhos Botwnnog hefyd wedi gohirio "pob sioe dros y misoedd nesaf".

Roedd y gr诺p i fod i berffomrio ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd nos Wener 9 Awst ac yn un o gigiau Cymdeithas yr Iaith yn y dref wythnos y Brifwyl.

Maen nhw hefyd wedi tynnu'n 么l o 糯yl y Dyn Gwyrdd.