Y cyngor sy'n herio'r cynnydd yn nifer y plant mewn gofal

Disgrifiad o'r llun, Cafodd dau blentyn hynaf Kayleigh eu rhoi mewn gofal pan roedd hi mewn perthynas anodd
  • Awdur, Owain Evans
  • Swydd, Gohebydd 成人快手 Cymru

Mae gan Kayleigh, sy'n 35 oed, saith o blant. Fe gafodd y ddau hynaf eu rhoi mewn gofal pan oedd hi mewn perthynas anodd.

"Teimlais i ryw dywyllwch yn cau amdana' i. Dwi erioed wedi teimlo unrhyw beth tebyg," meddai.

"Gofynnwch i unrhyw fam sut brofiad yw mynd 芒 phlentyn oddi wrthoch chi. Chi ddim yn gweld pwynt byw."

Mae dau blentyn Kayleigh ymhlith mwy na 107,000 o blant sydd mewn gofal ar hyd y Deyrnas Unedig.

Yng Nghymru, mae nifer y plant sydd mewn gofal wedi cynyddu bron i 80% mewn 20 mlynedd, ond mae un sir yn llwyddo i droi'r llanw.

Yn 2012 roedd dros 500 o blant mewn gofal yng Nghastell-nedd Port Talbot, y gyfradd uchaf yng Nghymru.

Ond bellach mae hynny wedi haneru, er gwaetha'r ffaith bod cynnydd mawr wedi bod mewn ymholiadau i'w adran Gwasanaethau Cymdeithasol.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r ffigyrau yng Nghastell-nedd Port Talbot yn drawiadol, yn 么l Helen Mary Jones

Helen Mary Jones yw prif weithredwr dros dro elusen Voices from Care Cymru.

"Maen nhw'n gweld yr un heriau 芒 phob awdurdod arall - mwy o deuluoedd tlawd, mwy o bwysau ariannol yn gyffredinol," meddai.

"Ond maen nhw yn amlwg wedi penderfynu buddsoddi mewn gwasanaethau sy'n gallu cadw teuluoedd gyda'i gilydd.

"Mae hynny'n hynod impressive wrth feddwl am y pwysau sy' arnyn nhw."

Cost gofal preswyl wedi dyblu

Mae Kayleigh yn mynd i sesiynau cefnogi rhieni sy'n cael eu trefnu gan y sir, ac mae hi'n dweud fod hynny wedi helpu i godi ei hyder.

Mae ceisio sicrhau nad yw teuluoedd yn cael eu gwahanu yn flaenoriaeth i Gyngor Castell-nedd Port Talbot.

Yn ogystal 芒'r manteision cymdeithasol mae 'na fantais ariannol i'r awdurdod.聽

Mae cost gofal preswyl yng Nghymru wedi mwy na dyblu o 拢65m i 拢200m mewn pum mlynedd.

Yng Nghastell-nedd Port Talbot maen nhw wedi llwyddo i arbed 拢4m ers 2012 trwy gadw teuluoedd gyda'i gilydd.

Disgrifiad o'r llun, Mae'r Athro Sally Holland yn dweud bod gwrando ar deuluoedd yn hollbwysig

Yn 么l yr Athro Sally Holland o Brifysgol Caerdydd, mae arweiniad clir, gwrando ar deuluoedd a chadw staff wedi bod yn allweddol i lwyddiant y gwaith sy'n digwydd yno.

"Mae'n bwysig yn y gwaith yma i adeiladu perthynas gyda theuluoedd," meddai.

"Mae'n rhaid iddyn nhw ymddiried ynddyn nhw a gweithio gyda nhw i sicrhau fod plant yn ddiogel ac yn ffynnu yn eu cartrefi.

"Maen nhw 'di 'neud mwy nag un peth ond gyda'i gilydd maen nhw 'di bod yn llwyddiannus yn cadw mwy o blant yn eu cartrefi."

Mae'r gwaith sy'n digwydd yng Nghastell-nedd Port Talbot yn fuddsoddiad yn y dyfodol yn 么l Ms Holland.

Disgrifiad o'r llun, Dywed Gwenan Prysor o Brifysgol Bangor na fyddai'r un cynllun o reidrwydd yn gweithio ym mhob ardal

Ond dyw hi ddim mor hawdd 芒 chymryd yr hyn sy'n digwydd mewn un ardal a disgwyl i bawb arall wneud yr un peth, yn 么l Gwenan Prysor o Brifysgol Bangor.

"Mae'n anodd i bob awdurdod i gael bob adran yn gweithio'n gr锚t ar yr un pryd," meddai.

"Mae 'na bocedi o ymarfer da ac elfennau sy'n gweithio'n dda mewn rhai ardaloedd, efallai na fyddai'n gweithio mewn ardaloedd eraill.

"Mae'n dibynnu ar lefelau diweithdra neu dlodi mewn ardal.

"Mae'n anodd dweud 'mae rhywbeth yn gweithio mewn un lle, beth am ei wneud o ymhob man'."

Disgrifiad o'r llun, Dywed Keri Warren bod creu t卯m profiadol wedi "talu ar ei ganfed" yng Nghastell-nedd Port Talbot

Er y llwyddiannau, mae cyflwr bregus yr economi a'r argyfwng costau byw yn awgrymu nad yw pethau'n debyg o wella i nifer o bobl yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Ond mae'r cyngor sir yn benderfynol o wneud gwahaniaeth er gwaetha'r heriau.

"Lle bynnag mae 'na alw byddwn ni'n parhau i edrych ar 么l plant," meddai Keri Warren, pennaeth gwasanaethau plant a phobl ifanc Cyngor Castell-nedd Port Talbot.

"Ni wedi llwyddo i greu t卯m profiadol ac mae hynny'n talu ar ei ganfed."