Dai Jones, Llanilar - portread gan ffrind i godi arian i'r Sioe Fawr

Ffynhonnell y llun, Wynne Melville Jones

Disgrifiad o'r llun, Y portread o Dai Jones gan Wynne Melville Jones

Os oes 鈥榥a un Cymro sy鈥檔 cael ei gysylltu gyda鈥檙 Sioe Fawr, mae'n debyg mai'r diweddar Dai Jones Llanilar fyddai hwnnw.

Fel cyflwynydd rhaglen S4C o'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd am ddegawdau - heb s么n am gyfarch a tharo sgwrs efo pawb oedd yn mynd heibio - roedd yn gymeriad amlwg yn ystod wythnos 'y show'.

Ac felly mae鈥檔 si诺r y byddai鈥檙 amaethwr a鈥檙 cyflwynydd teledu wrth ei fodd o wybod ei fod unwaith eto yn helpu digwyddiad oedd yn agos iawn at ei galon.

A hynny gan fod artist o Geredigion wedi peintio portread ohono er mwyn codi arian.

Mae Wynne Melville Jones, oedd yn un o ffrindiau Dai, yn gobeithio bydd arwerthiant yn rhoi hwb ariannol i'r sioe amaethyddol, sy'n cael ei chynnal eleni rhwng 22-25 Gorffennaf.

Ffynhonnell y llun, Wynne Melville Jones

Disgrifiad o'r llun, Wynne Melville Jones neu Wyn Mel (ar y dde) yn cyflwyno ei bortread o Dai Jones, Llanilar i Rowland Davies, Dol-Cletwr, aelod o bwyllgor Sioe'r Cardis 2024

Ceredigion ydy鈥檙 sir sy鈥檔 noddi鈥檙 Sioe Fawr eleni, ac felly mae disgwyl iddi godi arian i鈥檞 roi i鈥檙 sioe yn ganolog.

Mewn cyfnod pan fo鈥檙 esgid yn gwasgu oherwydd y sefyllfa ariannol, mae codi arian at achosion da yn gallu bod yn anodd. Felly mae鈥檙 artist wedi cyflwyno鈥檙 llun i bwyllgor Sioe鈥檙 Cardis 2024, gyda鈥檙 syniad o werthu鈥檙 llun mewn ocsiwn.

Dywedodd Wynne, sy鈥檔 gweithio o stiwdio yn ei gartref yn Llanfihangel Genau'r Glyn yng Ngheredigion, iddo baentio'r darlun hwn fel teyrnged bersonol i Dai wedi ei farwolaeth yn 2022, yn 78 oed.

Meddai: "Dai Jones oedd y llysgennad gorau erioed i gefn gwlad Cymru, i amaethyddiaeth ac i'r Sioe Fawr.

"Roedd yn meddwl y byd o'r Sioe ac yn cyfeirio ati yn gyson fel 'y Sioe Ore yn y Byd'.

"Un flwyddyn, sbel yn 么l, cefais y dasg o arwain Dai o un cornel o faes Llanelwedd i'r cornel pellaf un ar gyfer cyfweliad ar y cyfryngau. Tasg heriol, bron yn amhosibl a thaith a gymerodd ddwyawr. Roedd pawb yn nabod Dai ac yntau yn benderfynol o gyfarch pawb.鈥

Arlunio wedi ymddeoliad

Fe ddechreuodd Wynne, fu鈥檔 gweithio yn y byd cysylltiadau cyhoeddus am 40 mlynedd, beintio wedi iddo ymddeol.

Mae rhai o'i luniau yn America; yn eu plith mae un yng nghasgliad celf yr Arlywydd Jimmy Carter ac un arall yng nghartref Elvis yn Graceland.

Meddai: 鈥淵chydig yn 么l fe gyflwynais ddarlun o Eglwys y Mwnt er mwyn ei werthu i gronfa i godi arian i adfer yr adeilad wedi iddo gael ei ddifrodi gan fandaliaeth.

"Fe werthwyd hwnnw am 拢900. Cawn weld beth fydd hanes hwn. Y bwriad yw gobeithio rhoi hwb munud olaf i'r gronfa leol.

鈥淔el rwy鈥檔 deall y bwriad yw ei werthu mewn achlysur - cinio dathlu hwyrach - ym mis Rhagfyr. Mae nawdd Sioe'r Cardis yn cynnwys y Ffair Aeaf.鈥

Disgrifiad o'r llun, Dai Jones, Llanilar

Bydd cyfle i weld y llun yn y Sioe Fawr wythnos nesaf gyda鈥檙 portread yn cael ei arddangos ym mhafiliwn Cambrian ac adeilad S4C.

Un o uchafbwyntiau bywyd Dai Jones, fu hefyd yn cyflwyno Cefn Gwlad, Sion a Si芒n a rhaglen Radio Cymru Ar eich Cais am ddegawdau, oedd cael ei ethol yn Llywydd Sioe Frenhinol Cymru yn 2010 ym mlwyddyn nawdd Ceredigion.

Fe ddaeth nifer o anrhydeddau iddo hefyd gan gynnwys Gwobr Goffa Syr Bryner Jones am wasanaeth i'r Sioe Frenhinol a鈥檙 MBE.

Dai yn 'berson unigryw'

Meddai Wynne am Dai: 鈥淩oedd Dai yn berson unigryw yn bersonoliaeth gynnes, hoffus a lliwgar ac roeddwn fel llawer iawn o bobl eraill yn ei ystyried yn ffrind ffyddlon a theyrngar.

"Roeddwn hefyd yn ystyried fy hun yn freintiedig iawn o gael ymuno ag e a llond llaw o gymeriadau tebyg bob blwyddyn dros y degawdau i ddathlu'r Nadolig dros ginio yn Aberystwyth yn ystod y dyddiau yn arwain fyny at y 'diwrnod mawr'.

"Roedd yn brofiad hynod a'r diwrnod yn ddieithriad yn datblygu yn naturiol i fod yn Noson Lawen heb derfyn iddi a Dai wrth ei fodd yng nghanol y rhialtwch. Byddai'r hwyl a'r chwerthin yn fyw iawn yn y cof fisoedd wedyn.鈥