G诺yl newydd yn Y Bala i 'lenwi bwlch'
- Cyhoeddwyd
Mae trefnwyr g诺yl newydd sy鈥檔 dechrau yn Y Bala'r penwythnos yma yn gobeithio llenwi鈥檙 bwlch am ddigwyddiad cerddorol mawr yn yr ardal er lles y gymuned.
Eleni ydi鈥檙 flwyddyn gyntaf i 糯yl y Gogs gael ei chynnal wedi i griw bychan ddod at ei gilydd fis Mehefin y llynedd i ddechrau trefnu.
鈥淩oeddan ni鈥檔 wedi bod yn trafod bod 鈥榥a ddim g诺yl fawr wedi bod yn ardal Y Bala ers blynyddoedd,鈥 meddai un o鈥檙 trefnwyr Pwyll Edwards.
鈥淢ae Wa Bala wedi dod i ben ers sbel ac roeddan ni鈥檔 gweld bod 鈥榥a ofyn am 诺yl newydd felly ddaeth 'na griw bach at ein gilydd ac aethon ni o fanna.
鈥淢ae 鈥榥a 诺yl Llanuwchllyn ond mae鈥檔 诺yl i鈥檙 pentref felly welon ni gap yn y farchnad i wneud un fwy yn Y Bala. 'Da ni鈥檔 dechrau鈥檔 eitha鈥 bychan a鈥檌 thyfu hi a gobeithio yn y diwedd codi pres ar gyfer rhywbeth lleol.鈥
Huw Chiswell a Bwncath
Fe ddechreuodd yr 诺yl ar nos Wener, 30 Awst, a bydd rhai o brif fandiau鈥檙 s卯n Gymraeg yn perfformio drwy鈥檙 dydd a nos Sadwrn, 31 Awst.
Meddai Mr Edwards: 鈥淩o鈥檔 i eisiau Huw Chiswell yn yr 诺yl fwy na dim byd arall gan fod o wedi sgwennu c芒n i fy yncl i Dyl M么r, wnaeth farw tua 20 mlynedd n么l.
鈥淎 ro鈥檔 i鈥檔 coleg efo Elidyr Glyn, ac wrth gwrs mae Bwncath wedi mynd yn anferth erbyn hyn, felly roeddan ni eisiau nhw yno hefyd. A chwarae teg i鈥檙 bandiau i gyd am gytuno 芒 hithau鈥檔 诺yl newydd.鈥
Mae 鈥榥a gysylltiad lleol gyda gweddill yr artistiaid fydd yn perfformio ar y dydd Sadwrn - y cerddorion Rhys Gwynfor, Osian Williams (fydd yn perfformio efo Alys Williams) a Melda Lois.
Ar y nos Wener roedd Celt, Meinir Gwilym a Tew Tew Tenau ar y llwyfan.
Mae gwyliau cerddorol yr haf wedi dod yn boblogaidd iawn ar hyd a lled Cymru dros y blynyddoedd.
Yn 么l Mr Edwards mae鈥檔 waith caled i wirfoddolwyr eu trefnu gyda risg o golli arian os ydi鈥檙 tywydd yn wael.
Ychwanegodd ei fod o鈥檔 lwcus o gael profiad o drefnu digwyddiad tebyg gan ei fod wedi bod ar bwyllgor g诺yl Llanuwchllyn am flynyddoedd ac yn dal i helpu鈥檙 trefnwyr.
A gyda'r rhagolygon am dywydd braf i'r 诺yl eleni mae鈥檙 trefnwyr yn ffyddiog am ddechrau llwyddiannus.
Meddai: 鈥淢ae鈥檔 rhaid i ni ddiolch i deulu Talybont am y cae lle mae鈥檙 诺yl yn cael ei chynnal. Gan fod hi鈥檙 flwyddyn gynta鈥 mae鈥檔 anodd gwybod sut aiff pethau ond mae鈥檙 tocynnau wedi bod yn mynd yn dda.
"Mae 鈥榥a ychydig ar 么l ond unwaith 'da ni鈥檔 cyrraedd y maximum o ran niferoedd gawn ni yno, fydd pobl ddim yn cael dod i mewn.鈥
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd5 Mawrth