成人快手

Athrawes a gafodd ei golwg yn 么l mewn un llygad yn annog trafod rhoi organau

Elliw WilliamsFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Elliw Williams wedi cael golwg yn 么l i'w llygad dde yn dilyn trawsblaniad cornbilen (cornea)

  • Cyhoeddwyd

Mae athrawes a gafodd ei golwg yn 么l mewn un llygad diolch i drawsblaniad yn annog pawb i drafod rhoi organau wedi iddo newid ei bywyd.

Ar ddiwedd Wythnos Rhoi Organau, mae Elliw Williams yn gofyn i bobl siarad gyda鈥檜 hanwyliaid am eu dymuniad petai nhw'n marw.

Mae'n annog pobl i ystyried rhoi llygaid gan mai dyna un o鈥檙 organau sy鈥檔 cael ei roi lleiaf.

Er bod y gyfraith wedi newid yng Nghymru a鈥檙 system bellach yn un 'optio allan', mae trafodaeth yn dal i ddigwydd gydag aelodau teulu cyn i unrhyw organ gael ei roi.

Mae'n bosib i bobl nodi eu dymuniad ar gofrestr.

Disgwyl dwy flynedd am lygad

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Bore Sul ar 成人快手 Radio Cymru, eglurodd Ms Williams, sydd o ardal Dinbych, iddi sylweddoli bod ganddi broblem gyda鈥檌 golwg pan oedd hi yn yr ysgol.

Roedd hi'n cael trafferth gweld y bwrdd gwyn ac yn cael cur pen yn gyson.

Cafodd ddiagnosis o keratoconus, sy鈥檔 golygu bod ei llygaid mewn si芒p p锚l rygbi, yn hytrach na ph锚l-droed.

Fe ddirywiodd ei golwg pan oedd hi鈥檔 fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor gan ei bod hi鈥檔 gwisgo lensys ac weithiau yn cysgu ynddyn nhw.

Fe gafodd sgriffiadau a plistrynnau (blisters) ar y llygaid wnaeth arwain at golli ei golwg yn llwyr mewn un llygad.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Elliw yn blentyn - cyn iddi ddechrau sylweddoli bod yna broblem gyda'i golwg

"O fewn dwy flynedd ar 么l gadael coleg gesh i dipyn o greithiau ar y llygad dde a鈥檙 unig opsiwn fyddai cael triniaeth trawsblaniad cornbilen [cornea]," meddai.

"Do鈥檔 i ddim yn gallu gwisgo lensys yn y llygad dde ddim mwyach felly nes i ddewis mynd ar y rhestr trawsblaniad cornbilen.

鈥淩o鈥檔 i ar y rhestr aros am ddwy flynedd.鈥

Fe gafodd y driniaeth yn Abergele ym mis Chwefror 2013, ac roedd yn rhaid iddi gadw gofal o鈥檙 llygad gan fod cyrff 5% o bobl yn gwrthod yr organ newydd.

'Dall am dair blynedd'

Bellach yn 41 oed, mae鈥檔 dweud bod derbyn yr organ wedi newid ei bywyd.

鈥淒wi鈥檔 berson gweledol iawn. Mae fy ngwaith i yn ymwneud 芒 bod yn weledol - dwi鈥檔 athrawes celf a dwi鈥檔 dysgu technoleg erbyn hyn," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Elliw gyda dau o'i phlant - yr efeilliaid Llio a Rhys - yn 2016

鈥淒wi jest yn hynod o ddiolchgar. Fues i am dair blynedd lle o鈥檔 i鈥檔 ddall mewn un llygad a mynd i鈥檙 gwaith jest ddim yn gweld efo un llygad, dreifio a gwneud tasgau bob dydd a jest yn gallu gweld efo鈥檙 llygad chwith - efo鈥檙 lensys i mewn.

"Ond heb y lensys i mewn roedd fy ngolwg yn ofnadwy.

鈥淒wi鈥檔 teimlo bod o wedi cryfhau fy mywyd i, a hefyd dwi ddim yn gorfod dibynnu ar wisgo lensys mwyach yn y llygad dde.

"Dwi鈥檔 gallu mynd r诺an ac yn gallu dreifio heb ddim lens yn y llygad. Mae鈥檙 golwg wedi cryfhau gymaint i mi.鈥

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae pobl, medd Elliw, yn llai parod i roi eu llygaid ar gyfer trawblaniad nag organau eraill ac mae hi'n ddiolchgar iawn i'r sawl sydd wedi gwneud gymaint o wahaniaeth i'w bywyd

Dywedodd Ms Williams: "Faswn i鈥檔 annog unrhyw un i gofrestru ac i roi organau ac yn fwy pwysig sicrhau bod y teulu yn ymwybodol o鈥檙 penderfyniad yma.

"Mae鈥檔 bwysig bod pobl yn siarad efo teuluoedd pobl sydd wedi rhoi organau a siarad efo pobl sydd wedi derbyn organau.

"Dwi鈥檔 ddiolchgar iawn i鈥檙 person [wnaeth roi鈥檙 organ] am fod yn ddigon dewr i roi ei enw ymlaen i roi ei llygaid - mae hwn yn un o鈥檙 organau falle mwya鈥 prin mae pobl yn fodlon cofrestru i roi."

Pynciau cysylltiedig