成人快手

Pysgota anghyfreithlon 'allan o reolaeth' yng Nghymru

Sewin wedi marw mewn rhwydFfynhonnell y llun, Huw Hughes
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Sewin wedi ei ddal yn anghyfreithlon mewn rhwyd yn Afon Seiont

  • Cyhoeddwyd

Mae pysgota anghyfreithlon yn broblem sydd "allan o reolaeth" ar afonydd Cymru gan gael effaith ddifrifol ar rywogaethau prin fel yr eog, yn 么l grwpiau pysgota.

Dywedodd un gymdeithas fod ei haelodau鈥檔 dod ar draws gangiau potsio 鈥渄rwy鈥檙 amser,鈥 gan arwain at wrthdaro a 鈥渂ygythiadau o drais鈥.

Soniodd gr诺p arall am ddod o hyd i rwydi badminton wedi鈥檜 gosod ar draws afonydd, gan ddweud bod potswyr yn ymddwyn mewn modd 鈥渄igywilydd鈥 oherwydd diffyg gorfodaeth.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) eu bod yn cymryd pysgota anghyfreithlon "o ddifrif" ond eu bod yn dibynnu ar wybodaeth gan y gymuned bysgota gan nad oes gan y corff adnoddau i roi staff "ar bob afon, bob amser o'r dydd".

Ffynhonnell y llun, Dr Robin Parry
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Rhwyd badminton wedi'i dynnu o Afon Seiont

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae pysgotwyr afon wedi eu gorfodi gan y gyfraith i ryddhau unrhyw eog maen nhw'n ei ddal - yn ogystal 芒 sewin dros faint penodol - oherwydd bod niferoedd y ddwy rywogaeth yn prinhau.

Y llynedd daeth rhybudd mewn y gallai eogiaid gwyllt yr Iwerydd ddiflannu鈥檔 gyfan gwbl o afonydd Cymru o fewn dau ddegawd - dirywiad sy鈥檔 cael ei feio ar ffactorau megis newid hinsawdd, llygredd a gorbysgota yn y m么r.

Mae llyfrau log Cymdeithas Bysgota Seiont, Gwyrfai a Llyfni yng Ngwynedd yn adrodd y stori'n glir.

Cafodd mwy na 400 o eogiaid eu dal gan bysgotwyr ar y Seiont n么l yn 1988, tra bod hynny wedi gostwng i ffigyrau sengl yn ddiweddar.

'Potsio dal i'w weld yn rhywbeth rhamantus'

Dywedodd y cadeirydd Dr Robin Parry ei fod yn golygu bod unrhyw bysgota anghyfreithlon hyd yn oed yn fwy niweidiol.

鈥淢ae potsio 'di bod yn rhywbeth rhamantus bron yn dydy. Pawb yn gwenu am y peth felly, ond dydy o ddim 'wan.

鈥淏eth sy鈥檔 digwydd ydy mae 'na chydig iawn o samwn sy鈥檔 dod yn 么l, yn y pyllau 'ma mae鈥檙 d诺r yn mynd i lawr, a mae鈥檙 pysgod yn sownd yn y pyllau.

鈥淵n anffodus mae 'na griwiau sy鈥檔 mynd yna gyda magl neu [fachau] gaff ac yn tynnu nhw allan.

鈥淏e' 'da ni鈥檔 gweld ydy tystiolaeth maen nhw 'di bod 'na - rhwydi yn arbennig.

"'Da ni鈥檔 ffeindio rhwydi yn eitha' aml, rhai yn rhwydi amateur fel fyddech chi鈥檔 weld yn yr ardd efo badminton, ond rhai yn rhwydi iawn efo floats a phwysau arnyn nhw wedi eu gosod yn daclus.鈥

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Huw Hughes a Dr Robin Parry

I Huw Hughes, ysgrifennydd y gymdeithas ers 1979 a chyn-dditectif, mae gweld nifer y pysgod yn dirywio wedi bod yn 鈥渟iomedigaeth fawr鈥.

Mae鈥檔 dweud fod pysgota anghyfreithlon 鈥渁llan o reolaeth ers blynyddoedd鈥.

Mae鈥檔 dadlau ei bod hi鈥檔 鈥渉ollol anghywir鈥 i ddweud fod CNC yn ymateb i adroddiadau pan maen nhw鈥檔 cael gwybod amdanynt.

鈥溾橠a ni 'di bod yn reportio i Cyfoeth Naturiol Cymru, a dim 'di鈥檌 wneud," meddai.

"'Da ni 'di gyrru nifer o bethau iddyn nhw, yn enwedig y dyddiau yma wrth gwrs efo pethau yn dod ar Facebook - lluniau pobl efo eogiaid wedi potsio.

鈥淵r ateb ydy mwy o giperiaid wrth gwrs.鈥

'Ddim yn flaenoriaeth'

Dywedodd Dr Parry fod y gymdeithas wedi rhoi gwybod i CNC am bob digwyddiad o bysgota anghyfreithlon honedig yr oedd aelodau wedi eu gweld.

鈥淢ae鈥檔 amlwg fod o ddim yn flaenoriaeth achos dy鈥檔 nhw [CNC] ddim yn rhoi鈥檙 adnoddau tuag ato fo.

"Dwi鈥檔 gwybod ma' 'na bethau arall yn galw ym mhob cyfeiriad yn does, ond mae鈥檙 eog ar fin darfod yng Nghymru ac ym Mhrydain."

Ychwanegodd mai dim ond unwaith yn y chwech neu saith mlynedd ddiwethaf iddo weld un o swyddogion CNC yn gwirio trwyddedau pysgota ar ochr yr afon.

Ffynhonnell y llun, Cymdeithas Bysgota Ogwr
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Aelod o Gymdeithas Bysgota Ogwr yn herio dyn y mae鈥檔 ei amau o bysgota鈥檔 anghyfreithlon gan ddefnyddio rhwyd

Ben arall y wlad, ar Afon Ogwr ger Pen-y-bont, dywedodd y pysgotwr Mark Ryan fod potsio yn broblem 鈥渁nferthol" a'i fod yn ymddangos fel petai wedi gwaethygu "yn y pump i 10 mlynedd ddiwethaf".

Fel cadeirydd Cymdeithas Bysgota Ogwr mae鈥檔 teimlo bod yna "ddirywiad gwirioneddol a mewnlifiad o bobl yn pysgota'n anghyfreithlon ar yr afon".

Yn ddiweddar roedd un o'i aelodau wedi cael ei fygwth gan griw o ddynion ac wedi鈥檌 "erlid" at ei gar, meddai.

"Mae'n cael cryn effaith ar ein haelodau - maen nhw wedi dioddef trawma," meddai.

"Rydych chi'n dod i lawr yma i'r lle hyfryd, hyfryd hwn am heddwch a llonyddwch ac mae gwrthdaro a thrais yn ofnadwy."

'Does dim cosb - mae鈥檔 drist'

Mewn digwyddiad arall, roedd aelodau wedi ffilmio a chasglu tystiolaeth yn honni fod criw mawr o ddynion wedi bod yn llwytho pysgod i gist car.

Cafodd y deunydd ei yrru at CNC fel mater brys, ond 鈥渇e wnaethon nhw droi lan wythnos yn ddiweddarach - ar 么l iddyn nhw adael鈥.

"Mae gwybod bod eogiaid wedi cael eu cymryd ar 么l yr holl ymdrechion rydyn ni wedi bod drwyddyn nhw fel clwb i gael [polisi] 鈥榙al a rhyddhau鈥 yn ofnadwy," ychwanegodd.

Dywedodd fod y ffaith gall 鈥減obl ddod yma heb unrhyw ganlyniadau o鈥檌 gweithredoedd鈥 oherwydd 鈥渄oes dim cosb - mae鈥檔 drist.鈥

Gofynnodd 成人快手 Cymru i CNC am nifer yr adroddiadau o bysgota anghyfreithlon a鈥檙 lefelau gorfodi, a daeth data i law am y pedair blynedd ddiwethaf.

Roedd mwy na 200 o adroddiadau o bysgota anghyfreithlon bob blwyddyn rhwng 2021-23, gyda 250 yn 2023.

Cafodd 25 o ddigwyddiadau eu clustnodi yn rhai lefel uchel yn 2021, a oedd yn golygu bod angen ymateb ar unwaith, gyda 31 yn 2022 a 54 yn 2023.

Arweiniodd camau gorfodi at 165 o droseddau'n cael eu herlyn yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf - y rhan fwyaf am bysgota heb drwydded.

Dywedodd Ben Wilson, prif swyddog pysgodfeydd CNC ei fod yn dangos bod y sefydliad yn gweithredu.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae'n rhaid i bysgotwyr rhyddhau eog sy'n cael eu dal ar afonydd Cymru

Mae gan CNC 28 o staff ag awdurdod arbennig o dan y Ddeddf Pysgodfeydd Eogiaid a D诺r Croyw (SAFFA) i ymchwilio i droseddau pysgodfeydd.

Fodd bynnag, mae gan y swyddogion hyn hefyd ystod eang o feysydd eraill i ddelio 芒 nhw - gan gynnwys troseddau sy'n ymwneud 芒 gwastraff.

Yn ymarferol, dywedwyd wrth 成人快手 Cymru mai dim ond rhwng wyth a 10 o swyddogion sy'n ymroddedig i bysgodfeydd.

Dywedodd Mr Wilson nad yw CNC "yn hunanfodlon" ac mae'n rhannu pryder y gymuned bysgota am golli unrhyw bysgod.

Mae CNC yn cymryd pysgota anghyfreithlon o ddifrif, meddai, ond nid oes ganddo ddigon o staff "i gynnig ymateb golau glas ar unwaith".

'Rydyn ni'n eu dal'

鈥淢ewn byd delfrydol byddai gennym rhywun ar bob afon, bob amser o鈥檙 dydd, ymateb 24 awr ac ati," meddai.

鈥淣id oes gennym ni鈥檙 arian am hynny, felly rydym yn fwyfwy dibynnol ar gael adroddiadau a gwybodaeth gan bobl ar lawr gwlad - yn bennaf gan bysgotwyr a physgodfeydd.

"Dydyn ni ddim yn hunanfodlon. Pan gawn ni'r wybodaeth honno rydyn ni'n rhoi patrolau at ei gilydd. Gallwn ymateb.

鈥淥s ydych chi鈥檔 gweld rhai o鈥檙 achosion rydyn ni wedi gallu mynd 芒 nhw i鈥檙 llys yn ddiweddar, rydyn ni wedi cael rhai dirwyon eithaf trwm yn erbyn pobl.

"Felly mae yna ataliad gwirioneddol i unrhyw un a allai gael ei ddal yn pysgota'n anghyfreithlon. Ac rydyn ni'n eu dal. Mae rhai dirwyon difrifol, a dedfrydau carchar.

"Rydyn ni allan yna ar lan yr afon. Rydyn ni'n ymchwilio'n rheolaidd i'r ardaloedd hynny sydd 芒 risg uchel ac ar yr adegau hynny o'r flwyddyn sy'n risg uchel.

"Ond y peth pwysig iawn yw bod pobl - maen nhw'n gweld rhywbeth, maen nhw'n ei adrodd i ni."

鈥淥herwydd os nad ydym yn gwybod amdano, ni allwn ymateb iddo o gwbl.鈥