Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
'Dwi'n ystyried ffermio dramor yn sgil cynllun amaeth Cymru'
- Awdur, Beth Alaw Williams
- Swydd, 成人快手 Cymru Fyw
Mae un ffermwr ifanc yn dweud ei fod wedi ystyried symud dramor i ffermio os ddaw cynlluniau amaeth Llywodraeth Cymru i rym.
Yn 么l Elgan Thomas fe fydd pobl ifanc yn ailystyried gweithio yn y diwydiant os bydd y llywodraeth yn bwrw 'mlaen 芒'u cynllun ffermio newydd.
Mae cynlluniau amaeth Llywodraeth Cymru, sy'n cynnwys plannu coed a chreu cynefinoedd bywyd gwyllt, wedi arwain at wythnosau o brotestio gan ffermwyr ar draws y wlad.
Wrth i'r ymgynghoriad cyhoeddus ddod i ben ddydd Iau, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw "eisiau sicrhau dyfodol llwyddiannus" i ffermio yng Nghymru.
'Sefyllfa unig a diflas iawn'
Mae Elgan Thomas yn ffermio gyda'i deulu ger Llanelli.
Mae triniaeth y llywodraeth o ffermwyr yn "warthus", meddai.
"Rydyn ni cael ein trin fel ryw droseddwyr gyda polis茂au a deddfau newydd yn cael eu taflu ata ni o bob cyfeiriad.
"Mae bod yn ffermwr ifanc yng nghefn gwlad Cymru ar hyn o bryd yn sefyllfa unig a diflas iawn i fod ynddo, ond rydyn ni yn ddiolchgar iawn am yr holl gefnogaeth a gawn ni gan y cyhoedd.
Nid yw Mr Thomas eisiau ffermio yng Nghymru o dan y cynlluniau newydd.
"Dydy dyfodol heb amaethu yng Nghymru ddim yn ddyfodol i fi a fy mrawd sydd ond yn dechrau," meddai.
"Rydyn ni hyd yn oed wedi trafod symud i wledydd arall am gyfleoedd i ffermio os ddaw'r cynllun yma i rym yng Nghymru.
"A gyda pethau fel y mae yng Nghymru ar hyn o bryd, dwi'n adnabod llawer o bobl ifanc arall sydd yn edrych am gyfleoedd ffermio yn rhyngwladol."
Bu Mr Thomas yn areithio mewn cyfarfod o ffermwyr ym mart Ceredigion fis Chwefror, a hynny gydag Angharad Thomas, sydd yn gweithio ar fferm ei theulu yn Nryslwyn, Sir Gaerfyrddin.
Dywedodd Ms Thomas: "Roedd cael y cyfle i siarad yng nghyfarfod Marchnad Caerfyrddin yn gyfle hanfodol i drafod yr hyn sydd yn ein gofidio ni fel ffermwyr ifanc
"Mae'r diwydiant wedi bod yn derbyn ergyd ar 么l ergyd ac felly mae'n rhaid dod at ein gilydd er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus sydd yn parhau i gynhyrchu bwyd i safonau hynod uchel."
Mae Ms Thomas yn cytuno 芒鈥檙 "cysyniad o ddefnyddio'r goeden gywir yn y lle cywir am y pwrpas cywir" ond mae'r syniad o golli 10% o dir cynhyrchiol y fferm a 10% ychwanegol ar gynefinoedd, meddai, yn "hynod frawychus".
Mae'n pryderu y bydd hyn yn arwain at fewnforio bwydydd o wledydd tramor, a gwledydd sydd 芒 safonau lles anifeiliaid sydd "ddim hanner mor uchel 芒'r hyn sydd gennym yng Nghymru".
"Bydd hyn yn ergyd i holl boblogaeth Cymru," meddai.
"Un o鈥檙 prif ofidion sydd gan nifer ohonom fel ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd y dyfodol yw鈥檙 diffyg cefnogaeth tuag at newydd ddyfodiaid a hybu ffermwyr ifanc i mewn i鈥檙 diwydiant," meddai.
"Mae鈥檙 trosiant sydd wedi鈥檌 nodi gan y llywodraeth yn mynd i鈥檞 wneud yn hynod, hynod anodd i gael mynediad at y cyllid ynghyd 芒鈥檌 wneud yn anodd i brynu tir o ganlyniad i鈥檙 plannu coed a fydd yn cynyddu cystadleuaeth am dir pori."
Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru?
Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yw cymhorthdal newydd Llywodraeth Cymru i ffermwyr yn dilyn Brexit.
Y bwriad yw gwobrwyo ffermydd yn y dyfodol am ddulliau amgylcheddol-gyfeillgar o amaethu.
Byddai'n rhaid cytuno gyda nifer o ofynion - o brofi ansawdd pridd i gwblhau cyrsiau "datblygiad personol parhaus" arlein.
Ond mae dwy reol sydd wedi profi'n arbennig o ddadleuol - sef sicrhau bod coed ar 10% o'u tir, a chlustnodi 10% arall fel cynefin i fywyd gwyllt.
Mae rhai ffermwyr yn dadlau nad yw hyn yn bosib os ydynt am lwyddo'n ariannol.
Mae'r cyfnod ymgynghori ar gyfer y cynllun yn dod i ben ddydd Iau.
Mae Mr Thomas yn credu fod angen ystyried cynllun amaeth hollol newydd.
"Mae'r cynlluniau wedi cael eu creu gan bobl mewn swyddfeydd yn y ddinas sydd heb syniad am sut mae cefn gwlad yn gweithio a sydd heb syniad sut i weithredu'r cynlluniau.
"Yn bersonol hoffen i weld y llywodraeth yn cael gwared ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn llwyr gan ddechrau o'r dechrau eto."
'Sicrhau dyfodol llwyddiannus'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: ""Mae ffermio yn bwysig iawn i Gymru a'n heconomi ac rydym eisiau sicrhau dyfodol llwyddiannus i ffermio yng Nghymru.
"Rydym yn parhau i gefnogi ffermwyr ifanc a newydd ddyfodiaid i'r diwydiant amaethyddol drwy raglenni fel Cyswllt Ffermio a Dechrau Ffermio."
Ychwanegodd bod y llywodraeth yn "cynnig dileu cyfyngiadau" er mwyn ei gwneud yn haws "i ffermwyr presennol a'r rhai sy'n newydd i'r diwydiant, fel ffermwyr ifanc, allu ymuno 芒'r cynllun".
Wrth i'r ymgynghoriad ar y cynllun gau ddydd Iau, dywedodd y llefarydd: "Rydyn ni'n gwrando, a byddwn yn ystyried yr holl ymatebion."