Rhodd 拢2m i adfer Hen Lyfrgell Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru (CBCDC) wedi derbyn rhodd o 拢2m gan y dyn busnes Syr Howard Stringer ar gyfer eu hymgyrch i adfer Hen Lyfrgell Caerdydd.
Cafodd Howard Stringer ei eni yng Nghaerdydd ond mae wedi treulio'r rhan fwyaf o'i fywyd yn yr Unol Daleithiau, gan weithio fel cadeirydd y Sony Corporation a llywydd newyddion CBS.
Yn ddiweddar cafodd y llyfrgell ei throsglwyddo o ofal Cyngor Caerdydd i'r coleg am gyfnod o 99 mlynedd.
Mae CBCDC nawr yn ceisio codi cyfanswm o 拢12m ar gyfer prosiect i adfer y llyfrgell.
'Prifddinas greadigol a diwylliannol'
Rhwng rhodd Howard Stringer a'i wraig a chyfraniad gan Sefydliad Mosawi, mae 拢3m eisoes wedi'i godi.
Mewn datganiad dywedodd CBCDC mai nod y prosiect yw dychwelyd yr adeilad "i'w genhadaeth wreiddiol fel man cyhoeddus ar gyfer y celfyddydau ac addysg".
Y gobaith yw cwblhau'r cynllun dros gyfnod o bum mlynedd.
Dywedodd Howard Stringer bod y coleg cerdd a drama "wedi bod yn gonglfaen i ddiwylliant Cymru ers tro".
"Mae troi鈥檙 llyfrgell hardd a hanesyddol yn stiwdios rihyrsal ac ystafelloedd dosbarth yn ehangu presenoldeb y Coleg i gymuned ehangach, drwy berfformio ac ymgysylltu 芒鈥檙 cyhoedd tra鈥檔 sicrhau ymhellach ei r么l bresennol ac yn y dyfodol fel arweinydd yn natblygiad y celfyddydau a鈥檙 diwydiannau creadigol yng Nghymru."
Mewn datganiad dywedodd CBCDC ei bod yn gobeithio "datblygu ei weledigaeth i ddatblygu ymgysylltiad cyhoeddus arloesol, meithrin talent y dyfodol a grymuso rhagoriaeth yn ei holl ffurfiau o galon prifddinas Cymru".
Ychwanegodd cyfarwyddwr cerdd CBCDC, Tim Rhys Evans: 鈥淢ae anrheg o 拢2 filiwn yn gwneud shwt gymaint o wahaniaeth i ni, i wneud yn si诺r [fod] yr addysg ni鈥檔 rhoi i鈥檔 myfyrwyr ni yn world class a sicrhau dyfodol celfyddydau yng Nghymru.鈥
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae Caerdydd yn brifddinas greadigol a diwylliannol ac mae鈥檙 rhodd hynod hael hwn yn mynd 芒 ni gam yn nes at ddod ag un o鈥檌 sefydliadau diwylliannol mwyaf arwyddocaol i ganol y ddinas."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2023
- Cyhoeddwyd23 Mehefin 2023