Rydyn ni wedi diweddaru ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis
Rydyn ni wedi gwneud newidiadau pwysig i'n Polisi Preifatrwydd a Chwcis ac rydyn ni eisiau i chi wybod beth all hyn ei olygu i chi a'ch data.
Hwyliau Melin Llynon yn troi unwaith eto
Mae geirfa ar ddiwedd yr erthygl i bobl sy'n dysgu Cymraeg.
Mae hwyliau Melin Llynon wedi dechrau troi eto a Lloyd Jones y melinydd yw鈥檙 dyn sy鈥檔 gyfrifol am hynny.
Mae Lloyd yn gweithio gyda鈥檙 pobydd Richard Holt sy鈥檔 rhedeg busnes Melin Llynon ar Ynys M么n.
- Gwrandewch ar sgwrs Lloyd Jones ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru.
Roedd Lloyd yn gweithio yn y felin rhwng 1999 a 2016.
Ond nid yw鈥檙 felin wedi bod yn gweithio ers blynyddoedd ac mi gollodd Lloyd ei waith fel melinydd yn 2016.
Mae Lloyd yn falch iawn i fod yn 么l yn gweithio yno.
Meddai: 鈥淢ae鈥檔 odidog i weld hi鈥檔 troi eto.
鈥淢ae鈥檔 braf bod yn 么l. Dwi鈥檔 hogyn o Landdeusant a dwi鈥檔 rhan o Landdeusant.
鈥淒wi wedi dod n么l i redeg y felin. O鈥檔 i yma am 15 mlynedd yn gweithio.
鈥淕es i fy nysgu gan y melinwr wnaeth drwsio'r felin yn 1974. Nhw wnaeth ddysgu鈥檙 grefft i fi.鈥
Cafodd Melin Llynon ei adeiladu yn Llanddeusant yn 1775 er mwyn cynhyrchu blawd.
Hi yw鈥檙 unig felin wynt sydd dal i weithio yng Nghymru heddiw.
Y gobaith yw i gynhyrchu blawd sydd ddigon da i fwyta. Bydd Lloyd yn troi hwyliau'r felin bob penwythnos, pan mae'r tywydd yn dda.
Yn y gorffennol roedd dros 50 o felinau ar Ynys M么n. Roedd y melinau yn gallu cynhyrchu digon o flawd i fwydo Cymru i gyd.
Roedd Melin Llynon yn cynhyrchu rhwng tri a chwech tunnell y flwyddyn o flawd. Roedd y blawd yn cael ei werthu.
Meddai Lloyd: 鈥淢ae o yn gyfrifoldeb mawr... edrych ar ei h么l hi a bod yn ofalus efo hi. Hon ydy鈥檙 unig un yng Nghymru sydd dal i droi.鈥
hwyliau/blades
melin/mill
melinydd/miller
cyfrifol/responsible
pobydd/baker
(g)odidog/splendid
trwsio/repair
crefft/craft
cynhyrchu/producing
blawd/flour
gorffennol/past
tunnell/ton