Mwy'n gwylio S4C yng Nghymru, ond cwymp ar draws y DU

Disgrifiad o'r llun, Mae canolfan Yr Egin wedi bod yn gartref i S4C ers 2018

Mae adroddiad blynyddol S4C yn dangos bod nifer y gwylwyr yng Nghymru wedi codi 8% yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.

324,000 oedd y nifer fu'n gwylio'r sianel ar y teledu yn wythnosol yn ystod 2022/23 o'i gymharu 芒 300,000 y flwyddyn gynt, yn 么l tystiolaeth BARB, sy'n mesur cynulleidfaoedd o fewn y diwydiant darlledu.

Er hynny bu cwymp yn nifer y gwylwyr drwy'r Deyrnas Unedig - 509,000 oedd nifer y gwylwyr wythnosol o'i gymharu 芒 602,000 yn 2021/22.

Roedd mwy yn gwylio yn ystod yr oriau brig rhwng 19:00 a 22:00.

20,600 oedd y gynulleidfa ar gyfartaledd drwy'r DU yn ystod yr oriau hyn yn 2022/23, i fyny o 17,400 yn 2021/22.

Roedd cynnydd hefyd yn y nifer fu'n gwylio rhaglenni ar wasanaethau ailddarlledu, yn enwedig gwasanaeth 成人快手 iPlayer.

Roedd pobl wedi gwylio dros dair miliwn o oriau o raglenni S4C ar iPlayer a Clic.

Ffynhonnell y llun, S4C

Disgrifiad o'r llun, Dywed y sianel bod cyfres Gogglebocs Cymru wedi treblu'r niferoedd fu'n gwylio ar lwyfannau fel iPlayer a Clic

Rhaglenni chwaraeon wnaeth ddenu'r cynulleidfaoedd mwyaf, gyda 456,000 yn gwylio'r g锚m rhwng t卯m p锚l-droed dynion Cymru a Gwlad Belg yng Nghynghrair y Cenhedloedd ym mis Medi.

Rhaglenni chwaraeon oedd yr wyth uchaf ar restr rhaglenni mwyaf poblogaidd S4C.

Yn ystod y flwyddyn sydd i ddod mae S4C yn rhoi pwyslais ar ddenu oedolion ifanc rhwng 25 a 44 oed.

Maen nhw'n dweud bod Gogglebocs Cymru eisoes wedi treblu'r niferoedd fu'n gwylio ar lwyfannau "dal i fyny".

Ers Ebrill 2022 mae arian S4C wedi dod yn gyfan gwbl o ffi'r drwydded.

拢88.85m yw'r grant blynyddol ar hyn o bryd, a bydd yn codi'n unol 芒 graddfa chwyddiant yn ystod y pedair blynedd nesaf.

Gwariodd y sianel bron i 拢7.4m ar gyflogau a chyfraniadau pensiwn ac fe fuon nhw'n cyflogi 118 o staff - 69 o fenywod a 49 o ddynion.

Fe hawliodd aelodau'r bwrdd rheoli 拢46,814 mewn treuliau wrth wneud eu gwaith yn ystod y flwyddyn, a hynny dros deirgwaith yn fwy na'r flwyddyn gynt (拢15,723).

S4C yn 'trawsnewid'

Dywedodd Rhodri Williams, cadeirydd Bwrdd Unedol S4C: 鈥淵n ystod y flwyddyn rydym wedi gweld cynnydd sylweddol wrth i S4C drawsnewid o fod yn sianel deledu llinol yn unig i fod yn gyhoeddwr cynnwys creadigol, aml-blatfform

鈥淢ae argaeledd ein cynnwys ar amrywiaeth o lwyfannau digidol wedi golygu bod mwy o bobl yn ei weld, yn enwedig gwylwyr iau.

鈥淢ae argaeledd ac amlygrwydd yn mynd law yn llaw, ac mae hynny yn bwysicach nag erioed o鈥檙 blaen er mwyn sicrhau bod cynulleidfaoedd yn gallu mwynhau鈥檙 cyfoeth o gynnwys gafaelgar sydd i鈥檞 gael ar eu cyfer yn yr iaith Gymraeg."

Ychwanegodd bod y sianel yn croesawu penderfyniad Adran Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y Deyrnas Unedig i roi cyllid ychwanegol i S4C o Ebrill 2022 ymlaen, a鈥檙 cynlluniau i ddeddfu "i sicrhau amlygrwydd i ddarparwyr cyfryngau cyhoeddus".

Ffynhonnell y llun, Huw John

Disgrifiad o'r llun, Dywedodd Si芒n Doyle ei bod yn falch o weld "perfformiad cryf ymysg gwylwyr iau"

Ychwanegodd prif weithredwr S4C, Si芒n Doyle: 鈥淩wy鈥檔 falch fod ein cynnwys wedi arwain at dwf ar ein holl blatfformau, ein perfformiad cryf ymysg gwylwyr iau a鈥檙 llwyddiant wrth werthu ein rhaglenni yn rhyngwladol.

鈥淢ae鈥檙 cynnydd yma yn brawf o frwdfrydedd ac ymdrech staff S4C a鈥檔 partneriaid ni yn y sector yma yng Nghymru.

鈥淕wych hefyd yw gweld parhad y cynnydd welwyd yn 2022-23 yn ein ffigurau ar gyfer chwarter cyntaf y flwyddyn hon.

鈥淢ae S4C yn falch o hybu鈥檙 iaith Gymraeg, sbarduno siaradwyr newydd a chodi hyder siaradwyr i ddefnyddio鈥檙 iaith.

鈥淓in bwriad ni yw cyfleu Cymru yn ei chyfanrwydd, gan adlewyrchu鈥檙 amrywiaeth eang o bobl a straeon sydd yw canfod ar hyd a lled y wlad.鈥