成人快手

Cynnydd lladrata siopau elusen am bod 'pobl methu fforddio byw'

Jenny Langley
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Dywedodd Jenny Langley fod lladrata yn costio 拢87,000 y flwyddyn i elusen Tenovus

  • Cyhoeddwyd

Mae rhai siopau elusen yn dweud bod rhaid iddynt gau ystafelloedd newid a gwerthu rhai eitemau ar-lein yn unig, ar 么l cynnydd mewn achosion o ddwyn.

Mae ffigyrau'n dangos fod lladrata yng Nghrymu a Lloegr ar ei lefel uchaf mewn dros 20 mlynedd.

Yng Nghaernarfon, dywedodd rheolwr un siop bod "pobl yn dwyn i survivio" wrth i gostau byw gynyddu.

Dywedodd un sydd wedi ei garcharu am ladrata yn y gorffennol nad yw'r dedfrydau presennol yn ddigon i atal pobl rhag dwyn.

'Pobl yn meddwl mae'n iawn dwyn gan elusen'

Dywedodd Jenny Langley, sy'n gorchwylio dros 50 o siopau elusen ar gyfer Gofal Canser Tenovus: "Pob dydd mae'r staff yn dod o hyd i hangers dillad gwag, ble mae rhywbeth wedi ei gymryd.

"Y peth mwyaf trist yw'r ffaith fod pobl yn meddwl ei fod yn iawn i ddwyn gan elusen, mae o'n teimlo'n wrong."

Mae'r elusen yn amcangyfrif eu bod nhw'n colli gwerth 拢87,000 bob blwyddyn oherwydd lladrata, ac yn dweud fod llawer o'r eitemau gwerth uchel sy'n cael eu rhoi gan y cyhoedd yn gorfod cael eu gwerthu ar-lein.

Roedd cynnydd o 36% mewn achosion o ladrata wedi eu cofnodi gan heddluoedd Cymru, o'i gymharu 芒 chynnydd o 32% yn Lloegr.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae archfarchnadoedd Filco wedi gosod system newydd i geisio dal grwpiau sy'n lladrata

Dywedodd un gadwyn o archfarchnadoedd yn ne Cymru bod dim dewis ond gosod system newydd sy'n defnyddio AI a meddalwedd adnabod wyneb ar 么l cael eu targedu sawl gwaith y dydd gan grwpiau sy'n lladrata.

Dywedodd Matthew Hunt, cyfarwyddwr archfarchnadoedd Filco: "Mae e wedi cyrraedd pwynt lle dydyn ni methu parhau fel ydyn ni."

Ychwanegodd fod y grwpiau lladrata wedi cyrraedd y brig rhwng Awst a Hydref 2023, gyda rhai unigolion yn gallu cymryd nwyddau gwerth miloedd pob dydd.

"Gall wneud i fusnes sy'n gwneud elw gwestiynu os allan nhw barhau."

Mae'r system newydd yn defnyddio deallusrwydd artiffisial i adnabod pan mae rhywun yn dwyn, tra bod meddalwedd adnabod wyneb yn rhoi gwybod i staff pan mae unigolyn sydd wedi dwyn o'r blaen yn dod i'r siop.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Cullan Mais wedi cael ei garcharu 10 gwaith am ladrata

Cafodd Cullan Mais o Gaerdydd ei garcharu 10 gwaith am ladrata, pan oedd yn dwyn er mwyn gwerthu'r nwyddau ymlaen a phrynu cyffuriau.

Nid yw'n credu bod dedfrydau carchar yn ddigon i atal pobl rhag dwyn.

Mae hefyd yn teimlo bod yr argyfwng costau byw yn golygu bod mwy o bobl yn fodlon prynu eitemau sydd wedi eu dwyn.

"Doedd fy ffrindiau i byth, byth yn prynu gen i oherwydd eu bod nhw ddim eisiau cyfrannu at beth o'n i'n gwneud."

Ond erbyn hyn mae rhai yn teimlo'n wahanol, meddai.

"Dwi wedi cael pobl yn dod ata i a dweud, 'biti bod ti ddim yn dwyn' oherwydd maen nhw'n cael trafferth."

'Cynnydd amlwg' un siop yng Nghaernarfon

Dywedodd Rachel Williams o siop Sense fod cynnydd amlwg wedi bod yn lefelau lladrata o'r siop elusen dros y chwe mis diwethaf.

"'Da ni wedi gweld lot o bobl yn lladrata, pobl sydd methu talu am bethau.

"Mae costau byw yn uchel a dydi pobl methu fforddio... mae hyn wedi bod yn digwydd ers chwe mis."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Claire Silverwood a Rachel Williams o siop elusen Sense yng Nghaernarfon

Ychwanegodd rheolwr y siop, Claire Silverwood: "Rydan ni wedi sylwi cynnydd yn ddiweddar, dros y misoedd diwethaf yn enwedig.

"Dillad sy'n mynd yn bennaf, a chynnyrch babi.

"Yr unig reswm alla'i feddwl am ydy'r broblem costau byw."

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Carl Thomas: "Mae'n broblem i siopau bach, pan mae pethau'n cael eu dwyn maen nhw angen eu replacio, felly mae prisiau'n codi dydi?"

Dywedodd Carl Thomas o Siop Min-Y-Nant yng Nghaernarfon: "Dwi'm 'di gweld y broblem wedi gwaethygu ond mae pobl yn dwyn i survivio dydi?

"Hefo prisiau'n codi dydi pobl methu fforddio nacdi? So mae'r desperation yna dydi?

"Mae'n broblem i siopau bach, pan mae pethau'n cael eu dwyn maen nhw angen eu replacio, felly mae prisiau'n codi dydi?"

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Selwyn Jones: "Yr ateb yw datrys y broblem fel fod pobl hefo digon o arian i allu byw"

Dywedodd Selwyn Jones o siop Palas Print: "Allai'm dweud fod ni fan hyn mewn siop lyfrau wedi sylwi, i ddweud y gwir, bod 'na gynnydd.

"Ond ar y llaw arall mae rhywun yn gallu dallt - gyda'r agenda llymder a'r argyfwng costau byw - fod pobl yn ffendio hi'n lawer iawn fwy anodd.

"Ond dwi'm yn meddwl fod fawr o farchnad allan yna i werthu llyfrau.

"Mae rhywun yn ymwybodol o sefyllfaoedd pan fod pobl yn dwyn hanfodion bywyd achos fod eu sefyllfa ariannol mor ddychrynllyd o ran costau byw, yr ateb yw datrys y broblem fel fod pobl hefo digon o arian i allu byw."

'Rheswm tu 么l i'r troseddu'

Mae Heddlu Gwent wedi gweld y cynnydd mwyaf mewn troseddau lladrata yng Nghymru, gydag achosion yn cynyddu 52% rhwng mis Medi 2023 a'r flwyddyn gynt.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Jason White bod 10% o'r holl droseddau yng Nghasnewydd yn ladrata, gan greu "galw sylweddol ar ein swyddogion".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r heddlu wedi ehangu cynllun sy'n targedu lladron cyson yno.

Y gobaith yw gweithio gyda gwasanaethau eraill i ddatrys y problemau sy'n denu pobl i ladrata ac yn y pen draw, lleihau aildroseddu.

Dywedodd Prif Arolygydd Amanda Thomas: "Dy' nhw ddim yn troseddu oherwydd eu bod nhw eisiau.

"Mae yna reswm tu 么l i'r troseddu, a rhaid i ni ddod o hyd i beth yw hynny."

Pynciau cysylltiedig