成人快手

Dwy o'r gogledd yn ennill gwobrau dysgwyr Eisteddfod yr Urdd

MelodyFfynhonnell y llun, Urdd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Mae Melody Griffiths yn ddisgybl 17 oed yng Ngholeg Cambria

  • Cyhoeddwyd

Melody Griffiths o Wrecsam sydd wedi ennill Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn.

Mae Melody yn ddisgybl 17 oed yng Ngholeg Cambria.

Mae Medal y Dysgwyr yn cael ei dyfarnu i bobl ifanc rhwng blwyddyn 10 a dan 19 oed sy鈥檔 gallu dangos sut maen nhw鈥檔 defnyddio鈥檙 iaith o ddydd i ddydd yn yr ysgol, coleg, neu鈥檙 gwaith ac yn gymdeithasol.

Y beirniaid eleni oedd Cyril Jones a Karina Wyn Dafis - dau sydd 芒 chysylltiad agos 芒 Sir Drefaldwyn.

'Dwi eisiau ysbrydoli plant'

Mae Melody wedi dysgu鈥檙 iaith gan ei hathrawon yn y coleg, a theulu ei chariad sy鈥檔 siarad y Gymraeg fel iaith gyntaf ac yn rhoi cyfle gwych iddi hi ymarfer a datblygu ei sgiliau.

Daeth i'r brig allan o chwe ymgeisydd wrth gwblhau tasgau'n cynnwys cyfweliad gyda鈥檙 beirniaid a sesiwn cwestiwn ac ateb gyda Llywydd y Dydd, Elen Rhys, Pennaeth Adloniant S4C.

Dywedodd Melody: 鈥淓rs dysgu Cymraeg, dwi鈥檔 teimlo鈥檔 falch i fod yn siaradwr newydd, dwi鈥檔 defnyddio鈥檙 iaith bob dydd. Dwi鈥檔 rhedeg clwb dysgu Cymraeg wythnosol i fyfyrwyr y Coleg ac yn gwneud gwaith cyfieithu gwirfoddol yn y gymuned.

鈥淒wi鈥檔 credu bod o鈥檔 bwysig i gadw鈥檙 iaith yn fyw, ac yn bresennol yn ein bywydau."

Ychwanegodd: "Dwi鈥檔 teimlo fod yr iaith yn ffordd dda i gysylltu fy hun gyda鈥檙 diwylliant, hanes, a phawb arall yng Nghymru.

鈥淵n y dyfodol, dwi鈥檔 gobeithio bod yn athrawes Gymraeg, dwi eisiau ysbrydoli plant a darparu'r un math o gyfleoedd Cymraeg 芒鈥檙 hyn rydw i wedi ei gael.鈥

Dyfarnwyd Caitlin Brunt o鈥檙 Drenewydd yn ail a Alex McLean o鈥檙 Wyddgrug yn drydydd.

Ffynhonnell y llun, Urdd
Disgrifiad o鈥檙 llun,

Ganwyd Isabella Colby Browne yn America cyn symud i鈥檙 Wyddgrug

Brynhawn Mercher hefyd cyhoeddwyd mai Isabella Colby Browne o鈥檙 Wyddgrug yw enillydd Medal Bobi Jones eleni.

Ganwyd Isabella, 22, yn America cyn symud i鈥檙 Wyddgrug pan yn ifanc. Mae hi鈥檔 byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel actores.

Mae Medal Bobi Jones yn cael ei dyfarnu i unigolyn 19-25 oed sydd yn dangos sut maen nhw鈥檔 defnyddio鈥檙 iaith o ddydd i ddydd drwy ateb cwestiynau am eu rhesymau dros ddysgu鈥檙 iaith, yr effaith mae dysgu鈥檙 Gymraeg wedi cael ar eu bywyd, a鈥檜 gobeithion ar gyfer y dyfodol.

'Dylwn i siarad yr iaith'

Dywedodd Isabella ei bod wedi dechrau dysgu Cymraeg "diolch i fy ffrind gorau Caitlin, sy鈥檔 siarad Cymraeg fel iaith gyntaf".

"Nes i sylwi pa mor arbennig yw e i fod yn Gymraeg, mae hi鈥檔 iaith mor brydferth, ac os dwi鈥檔 byw yma, dylwn i siarad yr iaith. Fy nghyfrifoldeb i yw hi i barchu iaith a diwylliant fy ngwlad.鈥

鈥淢ae siarad Cymraeg wedi agor llawer o ddrysau i mi yn y byd celfyddydau yng Nghymru. Rwy鈥檔 teimlo ymdeimlad cryfach o hunaniaeth o fewn Cymru, ac rwyf mor falch o fod yn rhan o鈥檙 diwylliant a鈥檙 gymuned. Rwy鈥檔 teimlo y gallaf ddangos fy mharch at y bobl a鈥檙 diwylliant sydd yma, drwy ddysgu iaith y wlad.鈥

Dyfarnwyd Emma Grigorian o Gaerdydd yn ail Deryn-Bach Allen-Dyer o Fro Morgannwg yn drydydd.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Llio Maddocks: "Mae sicrhau cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg newydd yn hanfodol i lwyddiant a gwaddol ein g诺yl ieuenctid"

Nod y ddwy gystadleuaeth, medd yr Urdd, yw gwobrwyo unigolion sydd wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg ac yn ymfalch茂o yn eu Cymreictod.

Mae dydd Mercher yn ddiwrnod o ddathlu Dysgwyr a Siaradwyr Cymraeg newydd ar y maes.

Eleni mae mwy o ddysgwyr nag erioed o鈥檙 blaen wedi cofrestru i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd.

Mae鈥檙 诺yl wedi denu unigolion, part茂on a chorau o ddysgwyr am y tro cyntaf eleni o bob cwr o Gymru a thu hwnt 鈥 gan gynnwys cystadleuwyr o Batagonia.

Dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydol yr Urdd: 鈥淢ae sicrhau cyfleoedd a phrofiadau i gystadleuwyr ac ymwelwyr sy鈥檔 siaradwyr Cymraeg newydd yn hanfodol i lwyddiant a gwaddol ein g诺yl ieuenctid.

鈥淢ae gan yr Urdd hanes hir a balch o greu a chynnal cysylltiadau rhyngwladol, ac mae鈥檙 ffaith fod unigolion ac ysgolion o du allan i Gymru yn cystadlu ac yn ymweld 芒鈥檔 Eisteddfod eleni yn dangos ap锚l yr wyl i blant a phobl ifanc o bob cwr.

"Dyma brawf pellach hefyd o b诺er y celfyddydau i godi pontydd yn rhyngwladol.鈥

Amdani!

Fel rhan o bartneriaeth rhwng yr Urdd a鈥檙 Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, mae rhaglen hyfforddiant Dysgu Cymraeg wedi鈥檌 rhoi ar waith er mwyn cefnogi nod y mudiad ieuenctid o ddenu gweithlu amrywiol, ac o gysylltu ymhellach 芒 chynulleidfaoedd newydd ar draws Cymru gyfan.

Mae鈥檙 hyfforddiant yn cynnwys cefnogaeth gan diwtor o鈥檙 Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Disgrifiad o鈥檙 llun,

Nooh Ibrahim yn s么n am werth y Gymraeg yn y gynhadledd i'r wasg fore Mercher

Dywedodd Nooh Ibrahim, Swyddog Chwaraeon Cymunedol Amrywiol yr Urdd: 鈥淢ae dysgu Cymraeg wedi agor llawer o ddrysau i mi. Ces i fy ngeni a fy magu yng Nghymru ac yn berson o gefndir ethnig, felly mae鈥檔 bwysig cael cynrychiolaeth o fewn y gymuned.

"Mae鈥檔 bwysig i mi allu teimlo鈥檔 agosach hefyd at ddiwylliant a chymunedau Cymreig, felly dwi'n ddiolchgar iawn i鈥檙 Urdd ac i Dysgu Cymraeg am eu cefnogaeth.

"Mae鈥檔 bwysig iawn i fi ddysgu Cymraeg a siarad Cymraeg achos dwi鈥檔 dod o Gymru a dwi鈥檔 Gymro.

"Mae鈥檔 bwysig i fi siarad Cymraeg i ysbrydoli nhw a鈥檙 genhedlaeth nesaf i siarad a dysgu Cymraeg - dwi鈥檔 dweud i unrhyw un sydd eisiau dysgu Cymraeg 'Amdani' a trio siarad gyda phawb.

"Mae cymunedau siarad Cymraeg yn supportive iawn so ie - Amdani!"